4 Mai 2018

 

Yn dilyn hynt a helynt y gaeaf (wna i ddim sôn am y gwanwyn sydd heb ddigwydd!), bydd rheolaeth effeithiol wrth ddiddyfnu yn hanfodol. O ganlyniad i dywydd gwlyb parhaus ac achosion o dywydd eithafol, mae 2017/18 wedi bod yn flwyddyn anodd tu hwnt ar y mamogiaid, heb sôn am yr effaith ar ŵyn eleni. Mae eira yn ystod ŵyna, troi allan yn hwyrach a phrinder amlwg o laswellt yn cyfrannu tuag at berfformiad salach gan yr ŵyn.

Mae ŵyn yn cael eu diddyfnu fel arfer rhwng 12-14 wythnos oed. Eleni, bydd diddyfnu yn dibynnu ar amrywiaeth o ffactorau, ac mae’n debygol o beidio bod ar y dyddiad sefydlog arferol y mae mwyafrif y ffermwyr yn ei ddefnyddio. Bydd yn fwy dibynnol ar:

  • Faint o laswellt sydd ar gael - os mae glaswellt yn brin, gallai fod yn fanteisiol i ddiddyfnu’n gynnar gan na fydd yn rhaid i’r ŵyn gystadlu gyda’r mamogiaid am laswellt.
  • Cyflwr y famog
  • Perfformiad ŵyn (cyfraddau twf) - pa mor agos ydyn nhw i fod wedi’u pesgi?
  • Marchnad darged - pa farchnad ydych chi’n ei dargedu ar gyfer ŵyn eleni?

Mae cynhyrchiant llaeth yn ei anterth 3-4 wythnos ar ôl ŵyna, gyda 75% o’r llaeth yn cael ei gynhyrchu yn ystod wyth wythnos gyntaf llaethiad (SRUC, 2016). Ar ôl wyth wythnos, bydd ŵyn yn cael mwyafrif eu hegni trwy bori. Mae hyn yn golygu bod ŵyn yn cystadlu gyda’u mamau am y glaswellt gorau - nid yw hyn yn ddelfrydol, yn enwedig eleni oherwydd prinder glaswellt yn gyffredinol a bod llai o laswellt o ansawdd uchel ar gael.

Er bod y rhan fwyaf o ffermwyr yn dibynnu ar eu llygaid yn unig wrth asesu perfformiad mamogiaid ac ŵyn, gall pwyso’n rheolaidd fod yn fanteisiol iawn. Gall pwyso ŵyn yn 8 wythnos oed roi syniad da i chi o lefel presennol eich ŵyn a’r datblygiad sydd ei angen. Gall asesu cyflwr mamogiaid yn ystod y cyfnod hwn hefyd gynorthwyo gyda’r broses o wneud penderfyniadau ynglŷn â phryd ydych chi’n bwriadu diddyfnu.

Dylai ŵyn hyd at wyth wythnos oed fod yn ennill 250g/dydd ar gyfartaledd. Os nad yw’r ffigwr yma’n cael ei gyrraedd, mae’n debygol bod rheswm - dylech fod yn ymchwilio i’r rheswm ac yn gweithredu. Bydd canfod a thrin yn brydlon yn sicrhau nad yw perfformiad yr ŵyn yn cael ei effeithio’n ormodol, a bod modd adfer cyfraddau twf yn sydyn.

Mae cyfnod diddyfnu llwyddiannus yn golygu lleihau straen a throsiad llyfn ar gyfer y famog a’r oen. Er mwyn lleihau unrhyw siawns o atal y system imiwnedd yn ystod y cyfnod pwysig hwn, dylid gwneud unrhyw weithgareddau megis drensio, tagio neu frechu ymlaen llaw, ac nid ar yr un pryd â’r diddyfnu.

Argymhellir y dylid symud y mamogiaid i’r cae, a gadael ŵyn yn yr un amgylchedd. Mae hyn yn golygu bod llai o straen ar yr ŵyn gan eu bod eisoes yn gwybod ble mae’r cafnau bwyd, cafnau dŵr ayb wedi’u lleoli. Os bydd ŵyn yn cael dwysfwyd, mae’n bosibl na fydd cynnydd pwysau bwy’n lleihau ar ôl wyth wythnos gan fod yr ŵyn eisoes yn gyfarwydd â bwydo eu hunain.

Ar ôl setlo, gellir symud ŵyn i borfeydd ffres gyda llai o faich llyngyr neu i gnwd porthiant megis rêp. Gall cyfrif wyau ysgarthol (FEC) fod yn ddull syml o asesu’r baich llyngyr, ac mae’n bendant yn cael ei argymell. Cofiwch - gwell atal na gwella!

Dylid symud mamogiaid cyn belled i ffwrdd â phosibl, gan waredu pob risg o sŵn a chyswllt am y dyfodol agos. Dylent gael cynnig porthiant o ansawdd isel nes iddynt sychu, yn ogystal â chyflenwad dŵr glân a chyson. Dylid dethol a  gwerthu mamogiaid i’w difa cyn gynted â phosibl.

Dylid monitro mamogiaid ac ŵyn yn agos iawn ar ôl diddyfnu. Yn benodol, dylid monitro mamogiaid yn ofalus iawn o ran achosion mastitis.

Mae diddyfnu’n sbarduno dechrau’r broses o gael mamogiaid i ddychwelyd i gyflwr corfforol da cyn y tymor paru nesa, a gallai hynny ddod heibio’n gymharol sydyn. Ar ôl diddyfnu, dylid cynnig porthiant o ansawdd uwch i famogiaid teneuach er mwyn  gwella ar y cyflwr corfforol. Gall gymryd 6-8 wythnos i famogiaid fagu un sgôr cyflwr corff ar borfa heb ei gyfyngu, felly mae gwella cyflwr y corff cyn paru yn bendant yn gyraeddadwy os byddwch yn ei reoli’n gywir.

Mae’r cyfnod hwn hefyd yn galluogi ffermwyr i gasglu data gwerthfawr yn ymwneud â pherfformiad ŵyn. Bydd yn rhoi cyfle i chi gyfrifo eich canran magu, cymharu gyda’r canran sganio a’r canran ŵyna, gan eich galluogi i gyfiawnhau penderfyniadau rheolaeth at y dyfodol.

Gofynnwch - ‘ydi cyfraddau twf fy ŵyn yn ddigon da mewn gwirionedd?’, ‘ydw i’n cael y gorau o’r hyn ydw i’n ei roi i mewn?’, ‘fedra i wneud mwy?’ ac os oes angen...

GWNEWCH NEWIDIADAU A GWNEWCH WAHANIAETH CADARNHAOL I’CH BUSNES!

Ewch i wefan Cyswllt Ffermio i weld sut mae ffermwyr ein Rhwydwaith Arddangos yn gweithio i wella perfformiad eu mamogiaid a’u hŵyn.

Bydd cyfres o ddigwyddiadau’n ymwneud â sicrhau’r canlyniadau gorau ar gyfer ŵyn o borthiant hefyd yn cael eu cynnal ar ddechrau Mehefin. 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Pam y dylai pob fferm yng Nghymru osod nod i gynyddu carbon organig pridd
30 Mai 2024 Bydd lleihau amharu ar y pridd, tyfu cnydau gorchudd
Merched mewn Amaeth Cyswllt Ffermio yn dychwelyd – ac eleni mae ar daith!
29 Mai 2024 Mae merched sy’n gweithio ym myd amaeth ledled Cymru
Mentora yn helpu fferm i newid o gynhyrchu da byw i dyfu grawnwin
28 Mai 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites