31 Awst 2018

 

john vipond condition scoring 1
Mae ffermwyr defaid masnachol yn cael eu cynghori i gynnwys ffigyrau perfformiad wrth ddewis hyrddod yr hydref hwn.

Mae gwerthoedd bridio bras (EBV) yn ffordd dda o werthuso’r eneteg orau ond mae nifer o ffermwyr yn prynu hyrddod yn seiliedig ar sut maen nhw’n edrych yn unig, yn ôl Dr John Vipond, uwch ymgynghorydd defaid yng Ngholeg Gwledig yr Alban (SRUC).

Gall hyn fod yn gamgymeriad costus, meddai. “Pan fyddwch chi’n prynu hwrdd, mae’n rhaid cael y ffigyrau wrth law,” dywedodd wrth ffermwyr a oedd yn bresennol yn nigwyddiad trosglwyddo gwybodaeth Cyswllt Ffermio ar fferm ddefaid Dol Y Garn ger Llandrindod.

“Mae rhai o’r hyrddod gyda’r ffigyrau gwannaf yn cael eu gwerthu am y prisiau uchaf. Mae’n bryd bod yn realistig am y sefyllfa.’’

Mae gwerthoedd bridio bras yn cynnig nifer o fanteision megis gwella pwysau ŵyn wedi’u pesgi, cyfansoddiad y carcas a’r ganran sganio.

Dywed Dr Eleri Price, Swyddog Gweithredol Datblygu’r Gadwyn Gyflenwi gyda Hybu Cig Cymru (HCC), ei fod yn adnodd ychwanegol y dylai unrhyw un sy’n prynu hwrdd ei ddefnyddio wrth wneud eu dewis.

“Nid oes modd pennu rhinweddau mamol a chynnyrch cig yn seiliedig ar asesiad gweledol yn unig ac mae rhesymau economaidd da dros ddefnyddio gwerthoedd bridio bras,” meddai Dr Price.

Mae gan bob fferm ei heriau ei hun, felly mae’r gwerthoedd bridio bras yn caniatáu ffermwyr i ddewis anifeiliaid sy’n gweddu i’w sefyllfa benodol.

“Y peth cyntaf y dylech ei ofyn wrth brynu hwrdd yw – ydych chi’n cofnodi, ac os felly, beth yw eich gwerthoedd?’’

Mae Dr Price yn cynghori ffermwyr i ddysgu sut i ddehongli gwerthoedd bridio bras. “Defnyddiwch nhw fel adnodd ac ail-werthuswch yr hyn sydd ei angen ar gyfer eich busnes.’’

Mae ffigyrau’n bwysig, ond mae gwirio cyflwr corfforol yr hyrddod hefyd yn bwysig cyn y cyfnod hyrdda.

Dylech gynnal archwiliad MOT ar bob hwrdd, gan edrych ar eu dannedd, eu ceilliau a’u traed, meddai Dr Vipond.

“Mae sberm yn cymryd wyth wythnos i aeddfedu felly os mae hwrdd yn dioddef o grawniad gwael neu’n gloff, bydd hynny’n effeithio ar gynhyrchiant sberm, felly mae’n bwysig gwirio cyflwr corfforol hyrddod cyn cenhedlu, a chyn gwneud penderfyniad i brynu, mae angen edrych ar eu dannedd, eu traed a’u ceilliau,” meddai.

 

Dannedd – dylai hyrddod blwydd oed fod â dau ddant blaen llydan sy’n cwrdd â’r darn called ar onglau cywir, nid yn gogwyddo i’r blaen, meddai Dr Vipond. Gellir teimlo dannedd y boch o du allan i’r ên a dylent fod yn gyson.

Traed – dylai’r traed fod yn iach heb unrhyw dyfiannau rhwng y carnau.

Ceilliau – gwiriwch fod y ceilliau yn symud yn rhydd yn y sgrotwm ac yn teimlo’n gadarn ond heb fod yn galed, heb unrhyw lympiau called a bod epididymis tua maint pêl tennis ar y gwaelod.

 

Mae lliw'r croen ar ardaloedd moel ar ochr fewnol ei goesau yn arwydd da o libido’r hwrdd - bydd yn mynd yn goch wrth nesáu at y tymor bridio, meddai Mr Vipond.

“Gyda mamogiaid sy’n barod i genhedlu, gall hwrdd gyda libido da genhedlu gyda dwy famog yn syth,” meddai.

Yn ôl Elan Davies, Swyddog Technegol Cig Coch Cymru ar gyfer de orllewin Cymru, mae cynhyrchiant

farming connect red meat technical officer elan davies with james powell 1
ŵyn yn dibynnu ar gael hyrddod sy’n gallu gweithio, felly mae cynnal MOT yn hanfodol.

“Mae’n rhaid ystyried ffigyrau perfformiad yr hwrdd a thrafod yr hwrdd cyn ei brynu, yn hytrach na dibynnu ar ymddangosiad gweledol yn unig, gan y gallai hynny fod yn gamarweiniol.’’

“Wrth wneud unrhyw benderfyniadau ynglŷn â bridio, po fwyaf yw’r wybodaeth yr ydych yn ei gasglu, gorau oll fydd eich gwybodaeth ynglŷn â’r hyrddod sydd gennych chi. Mae’n bosibl y bydd ei etifeddiaeth gyda chi am flynyddoedd i ddod,’’ meddai.

Darparwyd cyllid ar gyfer y prosiect gan Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020.

 

Dywed y ffermwr, James Powell, fod dewis hyrddod yn un o’r penderfyniadau pwysicaf y bydd yn ei wneud bob blwyddyn gan ei fod yn ffurfio sylfaen i gynhyrchiant y famog am y flwyddyn gyfan.

Mae’n cadw diadell o 1000 o famogiaid Aberfield ac Aberfield x Perendale, gan brynu hyrddod o Innovis neu fridio ei hyrddod ei hun gyda nodweddion mamol.

“Mae’n rhaid i’r dannedd, y traed a’r ceilliau fod yn iawn,” mynnodd.

Mae Mr Powell yn defnyddio hyrddod wedi’u magu ar borthiant ac yn paru mamogiaid mewn grwpiau mawr – gan ei fod yn hyderus i gyflwyno 80-100 o famogiaid i bob hwrdd. Bydd y cyntaf o’r rhain yn ŵyna o 10 Ebrill ymlaen.

Mae’n defnyddio gwerthoedd bridio bras i wneud penderfyniadau am hyrddod. “Mae’n 50-50 rhwng ffactorau esthetig a’r ffigyrau,” meddai.

“Rydw i’n chwilio am nodweddion twf a rhwyddineb ŵyna ar hyrddod terfynol gan fy mod yn ceisio bridio mamog fechan, felly rydw i eisiau twf o’r oen. Ar gyfer y mamogiaid cyfnewid, rydw i’n chwilio am ben cul a rhwyddineb ŵyna.’’

Ond hyd yw’r ffactor pwysicaf. “Mae angen hyd ar bopeth,” meddai Powell.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Digwyddiadau Cyswllt Ffermio i roi cyngor i ffermwyr ar gynllunio olyniaeth a’r gostyngiad arfaethedig i ryddhad Treth Etifeddiant (IHT).
8 Ionawr 2025 Wrth i deuluoedd ffermio yng Nghymru ystyried
Arolwg Safbwyntiau Ffermwyr
Mae arolwg o ffermwyr Cymru wedi cael ei lansio i archwilio sut
Bod yn aelod o grŵp trafod yn helpu fferm deuluol i ddefnyddio syniadau newydd
12 Rhagfyr 2024 Mae cynhyrchydd bîff pedigri ar raddfa fach yn