20 Mehefin 2019

 

ieir hens 0
Mae dyfodol cadarn i gynhyrchwyr wyau a chig dofednod Cymru, wrth i'r tueddiadau yn y farchnad adlewyrchu'r ffaith bod y galw yn cynyddu o flwyddyn i flwyddyn yn ôl dadansoddwr y farchnad.

Mae'r galw am wyau a chig dofednod gan ddefnyddwyr wedi codi'n gyson dros y 10 mlynedd ddiwethaf, dywedodd Nathan Ward wrth ffermwyr a fynychodd y Digwyddiad Moch a Dofednod cyntaf i Gymru a gynhaliwyd yn Y Trallwng.

Mae hyn o ganlyniad i'r ffaith bod defnyddwyr yn dewis cynnwys mwy o brotein yn eu diet, a gwelir y twf mwyaf mewn cyw iâr, dywedodd Mr Ward o gwmni ymchwil y farchnad Kantar.

“Mae pobl yn prynu mwy o gyw iâr nag erioed o'r blaen.  Y llynedd, gyrrwyd wyth deg y cant o'r holl dwf mewn gwerthiant protein gan gyw iâr, ac mae'n dod yn rhan fawr o'r repertoire bwyd y mae pobl yn dewis ei brynu.”

I'r sector dofednod organig, ni fu'r twf mor gryf ag y bu yn y farchnad gonfensiynol, dywedodd Mr Ward.

Er bod gwerthiant cyw iâr organig wedi tyfu 65% dros y bum mlynedd ddiwethaf, dim ond 1.3% yn unig o gyfanswm y twf o fewn y sector cig dofednod y mae hyn yn ei gynrychioli, esboniodd.

I gynhyrchwyr wyau a oedd yn mynychu'r digwyddiad a gynhaliwyd ar y cyd rhwng Cyswllt Ffermio a Menter Moch Cymru, roedd gan Mr Ward newyddion da gan bod data wedi dangos bod ffigurau prynu wyau maes wedi codi 5-6% y flwyddyn dros y bedair neu'r pum mlynedd ddiwethaf.  Mae'r rhagolygon yn awgrymu y bydd y galw yn parhau i gynyddu.

“Fel cenedl, rydym yn dwli ar wyau, mae pobl yn dymuno cael bwyd y gellir ei goginio yn gyflym ac yn hawdd ac mae wyau yn cynnig hynny iddynt,” dywedodd Mr Ward.

“Mae cyw iâr a wyau yn ennill y frwydr o ran y ffordd y cânt eu defnyddio, mae ganddynt stori wych i'w hadrodd.  Mae nifer fawr o bethau cadarnhaol yn y dyfodol ar gyfer wyau a dofednod.”

Ond mae'r ffaith bod y cyflenwad yn cynyddu yn peri pryder i rai.

Dywedodd Richard Jones, sy'n cynhyrchu wyau ger Y Drenewydd, mai'r penderfyniad anghywir fu arallgyfeirio i faes cynhyrchu wyau i rai, gan bod gorgyflenwad wedi lleihau'r prisiau yn y sector wyau maes.

“Mae nifer fawr o bobl wedi dod i mewn a darganfod nad yw'n rhywbeth sy'n gweithio iddyn nhw oherwydd y ceir gorgyflenwad,” dywedodd wrth y gynhadledd.

Dywedodd Rheolwr Technegol Cyswllt Ffermio, Dewi Hughes, bod digwyddiad trosglwyddo gwybodaeth a system gynghori a ddarparir trwy gyfrwng Cyswllt Ffermio, gan gynnwys cymorth er mwyn creu cynllun busnes, wedi caniatáu i ffermwyr wneud penderfyniadau gwybodus ynghylch arallgyfeirio i'r sector hwn.

Ar hyn o bryd, mae 714 o ffermwyr dofednod a 321 o fusnesau dofednod wedi cofrestru gyda Cyswllt Ffermio.

Thema'r gynhadledd oedd 'Diogelu eich busnes at y dyfodol' a phwysleisiodd Mr Ward yr angen i gynhyrchwyr ym mhob sector ddeall gofynion eu prynwyr, megis y galw presennol am wyau mawr.

Dywedodd mai un rheswm am y galw hwn yw bod wyau'n cael eu defnyddio fwyfwy mewn prif brydau.

“Fel cynhyrchwyr, rhaid i chi weithio gyda manwerthwyr er mwyn deall y 'pam' sy'n sail i'r 'beth',” cynghorodd.

Awgrymodd Mr Hughes y gallai fod cyfleoedd i wyau a dofednod a gynhyrchir yng Nghymru i fanteisio ar yr elfen frodorol trwy gyfrwng y 'stori Gymreig'.

“Efallai bod cyfle i ddatblygu brand Cymreig a manteisio ar y farchnad uwch,” dywedodd.

Dywedodd Mr Ward bod cyfuniad o'r elfen frodorol a'r cynnyrch cywir yn ysgogi gwerth, ond pwysleisiodd yr angen am ddull gweithredu wedi'i gydlynu er mwyn targedu'r marchnadoedd cywir.

Mae Cyswllt Ffermio, sy’n cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra, yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Ffermwr llaeth sy’n manteisio ar ‘Gyllid Arbrofi’ yn ceisio gwella bioleg y pridd
15 Ebrill 2024 Mae ffermwr llaeth yn cyflwyno cannoedd o
Newidiadau i’r Isafswm Cyflog Amaethyddol yng Nghymru o 1 Ebrill 2024
10 Mawrth 2024 Mae gan bob gweithiwr amaethyddol, garddwriaethol
17 o gyrsiau newydd wedi’u hychwanegu at raglen hyfforddiant Cyswllt Ffermio
03 Ebrill 2024 Mae 17 cynnig newydd bellach ar gael drwy raglen