10 Mehefin 2019

 

alan armstrong2 0
Mae Cyswllt Ffermio wedi penodi gŵr sydd â gradd mewn mathemateg, Alan Armstrong, yn swyddog datblygu ar gyfer Sir Ddinbych. Bydd Alan, sy’n ffermio yn Llanrhaeadr, yn cymryd yr awenau dros dro gan Elen Williams sydd ar gyfnod mamolaeth ar hyn o bryd.

Y dyddiau hyn, mae’r cyn-athro mathemateg hwn a fagwyd ar fferm ei deulu, yn treulio’r rhan fwyaf o’i amser rhydd yn helpu ei dad i reoli a datblygu’r fferm deuluol.

Dros y blynyddoedd diwethaf, wedi’i ddylanwadu gan ei ddiddordeb mewn geneteg defaid ac mewn treialu systemau magu mwy effeithlon i wella lefelau elw, mae Alan wedi perswadio ei dad i werthu eu gwartheg eidion i gyd er mwyn canolbwyntio ar eu diadell o oddeutu 250-300 o famogiaid croes cyfandirol a phesgi 300 o ŵyn stôr, sy’n gwerthu mewn marchnadoedd lleol ar hyn o bryd. Am ei fod wedi manteisio ar nifer o wasanaethau cymorth Cyswllt Ffermio ac wedi gwneud nifer o gyrsiau hyfforddi ymarferol cymorthdaledig, mae Alan yn credu y bydd yn eiriolwr perswadiol wrth annog mwy o ffermwyr yn ei ardal i ganfod sut y gallent hwythau hefyd sicrhau cymorth i wella eu sgiliau personol a busnes yn ogystal â chynyddu effeithiolrwydd ar y fferm er mwyn cael yr elw gorau.

Ar ôl graddio mewn mathemateg o Brifysgol Aberystwyth, aeth Alan yn ei flaen i wneud cwrs ymarfer dysgu ym Mhrifysgol Bangor, cyn cymryd ei swydd gyntaf fel athro mathemateg uwchradd yn Llanrwst gerllaw. Er ei fod yn cael y gwaith o addysgu’n wobrwyol, roedd Alan yn awyddus i ddychwelyd i’w wreiddiau naturiol a gweithio mewn amgylchedd amaethyddol. Ymunodd â phractis milfeddygon mawr yn lleol oedd hefyd â’i fferm ei hun, lle bu’n mwynhau’r cyfuniad o ddyletswyddau gweinyddol a ffermio ymarferol, cyn symud ymlaen i gymryd rôl newydd fel cynghorwr iechyd anifeiliaid i gwmni cyflenwadau amaethyddol blaenllaw.

Mae Alan yn dweud ei fod yn edrych ymlaen at ddefnyddio ei ddawn gyda rhifau a’i wybodaeth am ffermio yn ei rôl newydd gyda Cyswllt Ffermio.

“Am fy mod yn deall ffigurau rwyf bob amser yn awyddus i annog ffermwyr i ganolbwyntio ar elw yn ogystal â pherfformiad.

“Gall Cyswllt Ffermio helpu busnesau ar y ddau gyfrif, a byddaf yn siarad o brofiad personol wrth hyrwyddo prosiectau megis cynllunio busnes, cynllunio i reoli maetholion a strategaethau pori, sy’n hanfodol bwysig i lwyddiant bob fferm.”

Mae Alan yn bêl-droediwr brwd ac mae’n dweud bod y gemau a drefnir gan ei gynghrair lleol yn ei gadw’n brysur yn ystod misoedd yr haf, ond ei fod yn edrych ymlaen yn fawr iawn at ymestyn ei rwydwaith o ffermwyr yn Sir Ddinbych.

Bydd Alan yn ymwelydd rheolaidd â marchnadoedd Rhuthun a Llanelwy, ac mae’n gobeithio y byddwch yn cysylltu os ydych yn teimlo y gallai eich helpu gydag unrhyw heriau neu faterion sydd angen sylw. Bydd yn cynnal y pum grŵp trafod a sefydlwyd gan ei ragflaenydd, lle mae’r ffocws ar gefnogi ffermwyr llaeth, eidion a defaid.

Gallwch gysylltu ag Alan ar ei ffôn Symudol: 07985 379904 neu drwy ebost: alan.armstrong@menterabusnes.co.uk


Related Newyddion a Digwyddiadau

Arbrawf tyfu cnau yn edrych ar hyfywedd cynhyrchu cnau Ffrengig yng Nghymru
08 Mai 2024 Mae cwpwl o Sir Gâr yn arbrofi gyda thyfu cnau ar eu
Bydd modiwlau newydd Cyswllt Ffermio yn helpu ffermwyr i drosglwyddo i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy
30 Ebrill 2024 Mae Cyswllt Ffermio wedi lansio set newydd o
Arbrawf llaeth yn edrych ar iechyd lloi ar fferm laeth yn Sir Benfro
25 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yn Sir Benfro sy’n lloia yn y