hens in tier system 1 0
Gall safle treulio anaerobig (AD), sy’n cyfateb o ran maint i anghenion y fferm, gynnig cyfle i unedau dofednod gadw rheolaeth ar eu costau ynni a chael mantais o reoli tail.

Gwelodd Cymru gynnydd mawr o ran y diwydiant dofednod yn y blynyddoedd diwethaf, gyda llawer o unedau newydd yng Nghanolbarth Cymru ac ar hyd y Gororau.

Gall pob uned gynhyrchu cannoedd o dunelli o dail y flwyddyn, ond ni ellir gwasgaru hwn i gyd ar dir oherwydd y perygl o lygredd ffosfforws a nitrogen.

Yn ystod digwyddiad Cyswllt Ffermio yn y Drenewydd, dywedwyd wrth ffermwyr bod safle treulio anaerobig bychan yn cynnig ateb yn eu systemau, lle mae ynni, yn nodweddiadol, yn ail brif gostau.

Tail ieir yw un o’r mathau o dail sy’n cynhyrchu mwyaf o nwyon, gan gynhyrchu mwy na 100cu m o fionwy i bob tunnell, mewn cymhariaeth â 20-50cu m/t i slyri/tail gwartheg.

Dywedodd Chris Morris, sydd wedi datblygu technoleg treulio anaerobig sy’n gallu ymdrin â’r gyfradd uchel o raean mewn tail ieir, bod ffermwyr dofednod yn nodweddiadol yn cael £10/dunnell am dail fel gwrtaith, ond mae’n ddrud iawn i’w gludo o gwmpas y wlad.

Os gellir ei ddwysau o ffactor o 50, trwy safle treulio anaerobig, mae’n mynd yn fwy gwerthfawr, awgrymodd.

Ar ddiwedd y broses treulio anaerobig, gellir rhoi cyfran sylweddol o’r deunydd a dreuliwyd ar dir fel gwrtaith.

“Mae tail ieir wedi ei dreulio yn wrtaith effeithiol dros ben. Mae’r broses dreulio yn lladd y rhan fwyaf o’r hadau chwyn a salmonella ac E.coli,” dywedodd Mr Morris, o Fre-energy, Wrecsam.

Mae’r hylif sy’n rhedeg oddi ar wrtaith wedi ei weithgynhyrchu yn sylweddol. “Mae’n llawer llai o ddeunydd wedi ei dreulio, gall deunydd hylifol wedi ei dreulio dyfu cymaint o gnydau â nitrogen, potash a ffosffad wedi eu gweithgynhyrchu,” dywedodd Mr Morris.

Ond un her i ddyfodol treulio anaerobig yw’r gostyngiad mewn tariff bwydo i mewn i’r rhwydwaith – 5c awr/kW mewn cymhariaeth â’r taliadau a fu o 14c awr/kW.

“Mae’r Cymhelliant Gwres Adnewyddadwy hefyd yn gostwng,” dywedodd Mr Morris.

“Mae’r ffigyrau ar gyfer safleoedd 50-60 kW yn anodd eu cyfiawnhau oherwydd yr ynni sydd arnynt ei angen i weithredu a’r gorbenion deddfwriaethol, felly mae gweithredu safle treulio anaerobig yn ddibynnol ar gefnogaeth a deddfwriaeth y llywodraeth.

Mae cyfran uchel o nitrogen mewn tail dofednod a all ladd bacteria yn y safle treulio anaerobig felly mae angen ei gymysgu â mathau eraill o dail.

Ond mae’r dechnoleg yn datblygu a dywedodd Mr Morris bod un o’r safleoedd 300kW yr oedd wedi eu sefydlu yn gweithredu ar sail 85% o dail ieir, gyda’r gweddill yn dod o slyri gwartheg.

Mae system ddodwy wyau buarth yn cynhyrchu llawer iawn o raean ac felly ni ddylai’r gymhareb fod yn fwy na 60% o dail ieir, dywedodd. “Y gymysgedd ddelfrydol yw gyda slyri gwartheg llaeth ac yna gwartheg bîff ac yna moch.’’

Bydd gwaddodiad yn cynyddu mewn system dreulio anaerobig os defnyddir tail ieir neu slyri oddi wrth anifeiliaid sy’n gorwedd ar dywod neu ludw.

Ond mae treulwyr ar gael erbyn hyn sydd â pheirianwaith i gael gwared ar y graean.

Dywedodd Denise Nicholls, o Fre-energy, y dylai ffermwyr weld technoleg treulio anaerobig fel ased i’w busnes ond rhybuddiodd nad ydynt yn gynlluniau i wneud arian yn gyflym.

“Mae’n fuddsoddiad tymor hir i fusnes fferm, dylid ei weld fel budd i’r genhedlaeth nesaf.

“Mae’n rhoi cyfle i ffermwyr gael incwm gwahanol heblaw yr un o’r diwydiant bwyd sydd yn amrywiol iawn.’’

Yn bwysig iawn, mae treulio anaerobig yn cynnig cylch maetholion cyflawn, ychwanegodd.

“Dylai pob busnes fferm gael cyfle i ymgorffori un yn eu busnes oherwydd bydd yn lleihau’r dŵr sy’n llifo oddi ar y caeau i ddyfrffyrdd ac yn lleihau’r angen i fewnforio gwrtaith wedi ei weithgynhyrchu. Gall y deunydd wedi ei dreulio gael ei roi yn ôl ar y tir fel maetholion a mwynau.”

Dywedodd Jodie Roberts, Swyddog Technegol Moch a Dofednod Cyswllt Ffermio, bod y tail a gynhyrchir gan unedau dofednod yn creu sialens amgylcheddol sylweddol.

“Mae safleoedd treulio anaerobig yn ailgylchu tail i gynhyrchu gwrtaith da ac felly gall y dechnoleg adael i unedau dofednod wella eu hôl troed amgylcheddol a chynnig cyfle am incwm ychwanegol,’’ dywedodd.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Arbrawf llaeth yn edrych ar iechyd lloi ar fferm laeth yn Sir Benfro
25 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yn Sir Benfro sy’n lloia yn y
Sut mae dod yn ystadegyn damweiniau wedi gwneud ffermwr yn bencampwr iechyd a diogelwch fferm
23 Ebrill 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites
Fferm Rhyd Y Gofaint yn treialu defnyddio meillion gwyn i leihau costau gwrtaith a hybu cynhyrchiant
18 Ebrill 2024 Mae Deryl a Frances Jones o fferm Rhyd Y Gofaint