08 Tachwedd 2024
Mae cenhedlaeth newydd o dyfwyr o Gymru yn adfywio’r syniad o redeg gardd farchnad effaith isel ar raddfa fach.
Mae tir fferm ar gyrion Llandyfái, Sir Benfro, wedi bod yn eiddo i deulu Kate Roberts ers pedair cenhedlaeth, ac erbyn hyn, mae Kate, sydd â gradd mewn bioleg, a’i phartner, Calum Stark, bellach yn tyfu llysiau organig ar raddfa fasnachol ar y tir.
Dechreuodd fel prosiect yn ystod y cyfnod clo yn 2020, wrth i fferm Underwood gyflenwi dail salad uchel eu gwerth a dyfwyd ar y fferm i dafarndai a bwytai.
Maen nhw bellach yn gwerthu 40 o focsys llysiau bob wythnos i deuluoedd lleol, wedi iddynt ehangu ar yr ystod o gynnyrch a oeddent yn ei gyflenwi i’r diwydiant lletygarwch, ac maent bellach yn rhan o fenter lle mae’r bwyd maen nhw’n ei dyfu yn bwydo plant ysgol yn Ne Cymru.
“Mae’n deimlad braf i wybod bod y bwyd iachus yr ydym yn ei dyfu yma’n bwydo cymaint o bobl,” meddai Kate.
Roedd dechrau busnes garddwriaeth gydag ychydig iawn o wybodaeth gefndirol yn golygu llawer o waith dysgu, i ddod i ddeall sut i ymdrin â heriau a oedd yn amrywio o blâu a chlefydau i batrymau tywydd anrhagweladwy.
Mae Garddwriaeth Cyswllt Ffermio, un o raglenni Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig, wedi chwarae rhan allweddol wrth ddatblygu’r wybodaeth honno. Mae’r rhaglen wedi darparu popeth o gymorth busnes ac arweiniad ymarferol arbenigol rhad ac am ddim gan arddwyr blaenllaw, i helpu i sicrhau cytundeb cyflenwi gyda phrosiect Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion Cymru, a drefnwyd gan Synnwyr Bwyd Cymru mewn partneriaeth â chwmni Castell Howell a Garddwriaeth Cyswllt Ffermio.
Er mwyn ennill y cytundeb, roedd rhaid i fferm Underwood fodloni gofynion Safon ar gyfer Tyfwyr ar Raddfa Fach, a grëwyd gan raglen Garddwriaeth Cyswllt Ffermio i wella diogelwch bwyd a’r gallu i olrhain yn y gadwyn gyflenwi bwyd, a chawsant gymorth busnes un-i-un gan yr ymgynghorydd diogelwch bwyd, Malcolm Laidlaw, i gyflawni hynny.
“Roedd y broses honno’n ddefnyddiol iawn. Daeth Malcolm i ymweld â’r ardd a rhoddodd gyngor gwych i ni, gan amlygu pwysigrwydd diogelwch wrth gynhyrchu bwyd,” meddai Kate.
Mae cyflenwi’r prosiect Llysiau o Gymru i Ysgolion Cymru wedi ychwanegu dimensiwn newydd i’r fenter. Y llynedd, fe wnaethant gyflenwi 90 ciwcymbr ar gyfartaledd bob wythnos, a dyfwyd yn eu twnnel plastig, strwythur a ariannwyd 40% drwy gyfrwng grant garddwriaeth Llywodraeth Cymru.
“Mae gweithio gyda Cyswllt Ffermio a Castell Howell ar y prosiect hwn wedi bod yn brofiad arbennig. Mae’n hynod o drefnus ac mae’r sianeli cyfathrebu wedi bod yn wych,’’ meddai Kate.
“Roeddem ni’n teimlo ein bod yn cael ein harwain drwy’r broses, ac mae’r prosiect wedi sicrhau marchnad gadarn iawn i ni.’’
Mae fferm Underwood hefyd yn cyflenwi pedwar bocs llysiau bob wythnos i gwmni buddiannau cymunedol Pobl Tir a Môr sy’n gweithredu ym Mhenfro a Doc Penfro, lle mae pobl yn talu’r hyn y gallant ei fforddio am y cynnyrch.
Mae ymweliadau â ffermydd tyfwyr eraill wedi’u hwyluso gan Cyswllt Ffermio wedi bod o fudd mawr hefyd, gan ddysgu technegau i wella iechyd y pridd, yn ogystal â systemau cynhyrchu organig ar waith mewn digwyddiad dan arweiniad y tyfwr organig lleol, Iain Tolhurst.
Rhoddodd dosbarth meistr a gyflwynwyd gan Cyswllt Ffermio ddealltwriaeth bwysig ar sefydlu cnydau amddiffynnol ar gyfer cynhyrchu garddwriaeth trwy gydol y flwyddyn.
Dywed Kate fod y cyfuniad o wasanaethau wedi bod yn werthfawr iawn.
“Nid oedd gennym unrhyw brofiad o redeg gardd farchnad ar y dechrau, ond mae cymaint ar gael gan Cyswllt Ffermio, a hynny am ddim.
“Mae wedi bod yn hwb mawr i ni allu symud ymlaen a datblygu ein busnes.”
Mae cael gafael ar y wybodaeth wedi gwneud i ni fod yn fwy a mwy awyddus, meddai.
“Wrth i chi ddatblygu eich dealltwriaeth, rydych chi eisiau dysgu mwy.’’
Maen nhw bellach yn canolbwyntio ar dyfu mwy o gnydau storio a chnydau bresych i sicrhau cyflenwad drwy’r flwyddyn. Yr uchelgais gyffredinol yw tyfu mwy o fwyd.
“O fewn blwyddyn, rydym yn gobeithio dyblu’r archebion ar gyfer bocsys llysiau i 80,” eglurodd Kate.
Eu gelynion pennaf yw plâu a chlefydau, a chyfaill a gelyn pob tyfwr, sef y tywydd, ond mae gofalu am y pridd a thyfu mwy o amrywiaeth yn datblygu cadernid y cnydau a’r busnes.
“Mae’n broses gam wrth gam tuag at wneud y problemau hyn yn llai trafferthus,” meddai Kate.
Mae byddin o lyffantod a brogaod sy’n byw yn y pwll a grëwyd ganddynt ar y tir ac o’i gwmpas yn cynnig amddiffynfa naturiol rhag gormodedd o wlithod.
Wrth iddi edrych tua’r dyfodol, mae Kate yn teimlo y byddai ei hen dad-cu yn falch iawn o’r hyn y mae’r genhedlaeth nesaf yn ei gynhyrchu ar ei dir, gan ddefnyddio technegau cynaliadwy a chyfrannu at gyflenwi bwyd iachus yn yr ardal leol.
Dylai tyfwyr yng Nghymru sy’n chwilio am gymorth wedi’i ariannu’n llawn gysylltu gyda horticulture@lantra.co.uk .Gofynnwch iddynt am y Grantiau a Chynlluniau Garddwriaeth Wledig newydd sydd newydd gael eu cyhoeddi gan Lywodraeth Cymru.