12 Medi 2018

 

rhydian 0
Mae ffermwr da byw yng Nghymru wedi lleddfu unrhyw brinder bwyd posibl drwy ddefnyddio polisi o fesur twf glaswellt yn rheolaidd a dadansoddi’r ffigyrau gyda meddalwedd fferm i wneud penderfyniadau deallus.

Mae Rhidian Glyn yn cadw menter ddefaid a magu heffrod llaeth ar system bori cylchdro ar fferm Rhiwgriafol, un o Ffermydd Arddangos Cyswllt Ffermio ger Machynlleth.

Yn ystod Diwrnod Agored Cyswllt Ffermio ar fferm Rhiwgriafol, clywodd ffermwyr sut mae cyfuniad o bori cylchdro, mesur porfeydd gyda mesurydd plât a defnyddio meddalwedd Farmax i gymharu cyflenwad a galw wedi galluogi’r busnes i gynllunio ymlaen llaw, gan leihau costau gwrtaith nitrogen ac ychwanegion. 

Dywedodd yr ymgynghorydd fferm, James Daniel, Precision Grazing Ltd, sydd wedi bod yn gweithio gyda Mr Glyn i ddatblygu’r busnes, bod argaeledd bwyd ar fferm yn galluogi ffermwyr i wneud penderfyniadau’n gynnar.

“Trwy fesur ei orchudd fferm cyfartalog, cafodd Rhidian rybudd cynnar ei fod mewn perygl o redeg allan o borfa a rhoddodd hynny gyfle iddo edrych ar ei opsiynau,” meddai Mr Daniel, un o’r siaradwyr yn y digwyddiad heddiw.

Dewisodd Mr Glyn ddiddyfnu’n gynnar a rhoi mamogiaid ar borthiant cynhaliaeth, pori cyfran o’r ardal a oedd wedi’i neilltuo ar gyfer ail doriad silwair, lleihau pwysau targed ar gyfer gwerthu ŵyn a rhoi dwysfwyd ychwanegol i heffrod.  

Nawr fod y borfa wedi adfer ar fferm Rhiwgriafol, mae’r bwydo dwysfwyd wedi dod i ben a bydd yn gwneud y gorau o’r borfa sydd dros ben drwy gymryd trydydd toriad silwair yr wythnos hon.  

“Ni fydd mesur y borfa’n rheolaidd yn newid y tywydd, ond bydd canfod diffygion posibl yn y porthiant yn rhoi mwy o opsiynau i’r ffermwr allu ymdrin â hynny,” meddai Mr Daniel.

“Er enghraifft, pe byddai Rhidian wedi cwblhau’r ail doriad silwair fel yr oedd wedi ei gynllunio, byddai wedi gwneud y diffyg porthiant yn waeth a byddai wedi gorfod bwydo’r deunydd sych hwnnw yn ôl i’r fferm ar ffurf byrnau neu ddwysfwyd am ddwywaith neu deirgwaith y gost.”

Roedd Mr Glyn wedi plannu 18 erw o swêj fel porthiant i’w famogiaid dros y gaeaf, ond methodd y cnwd oherwydd prinder glaw. Er mwyn cau’r bwlch porthiant, ail-blannodd y cae gyda chymysgedd rêp a rhygwellt.

Fodd bynnag, amcangyfrifir fod y cynnyrch posibl yn 50-60% yn is na’r cnwd swêj a gynlluniwyd felly bydd byrnau silwair yn cael eu pori yn y cae gyda’r cnwd dros y gaeaf.

Mae pori cylchdro, ble mae grŵp o anifeiliaid yn symud yn rheolaidd drwy nifer o gaeau gwahanol mewn trefn wedi’i gynllunio ymlaen llaw, yn ffordd syml o gynyddu twf a defnydd o’r borfa. 

Gall y dull hwn helpu i wella ansawdd y borfa ac mae’n ffordd llawer mwy proffidiol o gynyddu cynhyrchiant o’i gymharu â rhentu mwy o dir, meddai Mr Daniel.

Fel canllaw, os nad oes modd i grŵp o anifeiliaid bori cae o fewn pump i saith diwrnod, dylid rhannu’r cae

james 2
yn hanner neu i ddarnau llai, gan ddefnyddio ffensys trydan fel arfer, meddai.

Mae Rhidian yn magu heffrod llaeth ar gontract, gan eu cymryd fel lloi wedi’u diddyfnu ym mis Gorffennaf a’u dychwelyd 16 mis yn ddiweddarach yn gyflo. 

Yn y gwanwyn, bydd yr heffrod hyn yn cystadlu gyda’r mamogiaid a’r ŵyn am y borfa felly mae sefydlu system bori cylchdro wedi rhoi cyfle i Rhidian gynyddu twf y borfa a lleihau’r ardal y mae’r heffrod ei angen.

Rhannwyd dau gae gyda chyfanswm o 32 erw yn 16 padog gyda’r heffrod yn treulio 1.5-3 diwrnod ym mhob padog, gan ddibynnu ar gyfraddau twf y padog. 

Roedd Mr Glyn yn sicrhau bod y borfa’n cael ei phori hyd at 1400kgDM/ha ond gydag adlodd ar y lefel hon, roedd y planhigyn glaswellt yn arafach yn adfer a gwelwyd lleihad yng nghyfradd twf yr heffrod. 

Ym mis Mai a Mehefin, pan oedd gormodedd o borfa, cynyddodd y targed i 1700kgDM/ha.

“Roedd y borfa wedi adfer yn llawer cynt ac mae digon o’r ddeilen ar ôl i ddal goleuni’r haul a sbarduno ffotosynthesis.” meddai Mr Glyn.

Gwelwyd cynnydd hefyd yng nghymeriant bwyd yr heffrod gan arwain at gynnydd pwysau byw o 1.2kg dros gyfnod o wyth wythnos. 

Ar ôl dechrau gwael i’r gwanwyn, roedd sicrhau bod potensial twf heffrod yn cael ei gyflawni’n llawn yn hanfodol er mwyn sicrhau eu bod yn cyrraedd eu pwysau targed cyn cael eu troi at y tarw.

Mae’r system bori cylchdro wedi gwella gwyndonnydd yn sylweddol ac mae Mr Glyn yn bwriadu efelychu hyn ar 32 erw ychwanegol ar gyfer mamogiaid ac ŵyn ar gyfer yr haf nesaf - bydd yn troi 980 o famogiaid Mynydd Cymreig ac ŵyn benyw at yr hwrdd yr hydref hwn.

Mewn ymateb i amodau twf anodd eleni, mae’n mesur ei laswellt yn fwy rheolaidd. “Doeddwn i ddim yn mynd allan gyda’r mesurydd plât yn ddigon aml. Rwyf bellach yn mesur ddwywaith y mis yn hytrach nag unwaith.

“Mae gweld beth fydd sefyllfa’r fferm ymhen mis yn bwysig. Mae mesur yn ymwneud â mwy na chyfraddau twf ar adeg  mesur yn unig- mae hefyd yn ymwneud â gwybod faint o orchudd fydd yn y dyfodol.” 

Mae’r fferm ar hyn o bryd yn wynebu prinder o oddeutu 20 tunnell DM felly bydd gorchudd y fferm yn cael ei fesur yn fwy rheolaidd i weld a oes angen ychwanegu nitrogen ar lefel o 20-25kg/ha ar gaeau silwair trydydd toriad.

Mae sgôr cyflwr corff (BCS) mamogiaid ar yr adeg hon o’r flwyddyn yn hanfodol gan y bydd yn pennu llwyddiant y flwyddyn nesaf. Dylai mamogiaid fod ar sgôr o 3-3.5 erbyn y cyfnod hyrdda, gan fod angen chwech wythnos ar borfa o ansawdd uchel i ennill 1 BCS. 

Mae angen i famogiaid Mr Glyn sicrhau cynnydd o 0.5 BCS felly mae wedi rhannu’r ddiadell yn ei hanner, gan gadw system arweinydd-dilynydd, gyda’r mamogiaid teneuach yn pori un cae cyn y mamogiaid mwy ffit. 

“Os nad yw’r ŵyn am gyrraedd y targed isaf o BCS 3 erbyn y cyfnod hyrdda, gallwch ddal yn ôl am ychydig wythnosau. Mae’n llawer haws i famog fagu pwysau nawr na thua diwedd beichiogrwydd,” meddai Mr Daniel.

crowd 0
Mae pesgi ŵyn wedi bod yn anodd ar nifer o ffermydd y tywydd sych gan ei fod wedi lleihau ansawdd a chyfaint y bwyd sydd ar gael, gan olygu bod mwy o ŵyn ar ffermydd ar bwysau is. 

Dywed Mr Daniel fod angen i ffermwyr fod yn ofalus nad ydynt yn cyfaddawdu ar godi sgôr cyflwr corff y mamogiaid a chynyddu gorchudd eu fferm ar gyfer y gaeaf drwy anelu at besgi’r ŵyn sy’n weddill. 

“Monitrwch dwf ŵyn yn rheolaidd, ystyriwch opsiynau gwerthu neu defnyddiwch fwyd ychwanegol i sicrhau bod yr ŵyn yn gadael y fferm erbyn dechrau mis Hydref ac yn cyrraedd y safon ofynnol,” meddai.

Bydd rhoi ymdrech nawr i wella cyflwr mamogiaid, mesur y borfa a chyllideb porthiant yn talu ar ei ganfed, meddai.

“Mae’n aml yn anodd cael ffermwyr i ymrwymo i fesur y borfa a rhannu caeau i gynyddu defnydd ar yr adeg yma o’r flwyddyn, ond mewn gwirionedd, mae hyn yn haws, yn rhatach ac yn achosi llai o straen na chario porthiant i’r mamogiaid ym mis Chwefror a Mawrth.”


Related Newyddion a Digwyddiadau

Arbrawf tyfu cnau yn edrych ar hyfywedd cynhyrchu cnau Ffrengig yng Nghymru
08 Mai 2024 Mae cwpwl o Sir Gâr yn arbrofi gyda thyfu cnau ar eu
Bydd modiwlau newydd Cyswllt Ffermio yn helpu ffermwyr i drosglwyddo i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy
30 Ebrill 2024 Mae Cyswllt Ffermio wedi lansio set newydd o
Arbrawf llaeth yn edrych ar iechyd lloi ar fferm laeth yn Sir Benfro
25 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yn Sir Benfro sy’n lloia yn y