Er mwyn sicrhau’r perfformiad gorau gan eich diadell, mae’n bwysig bwydo mamogiaid yn ôl eu gofynion ar wahanol gyfnodau cynhyrchiant, gan fod maeth addas ar gyfer y famog yn effeithio ar gyfraddau goroesi a thwf yn ŵyn. Bydd llunio dognau’n seiliedig ar borthiant yn cynorthwyo i sicrhau’r iechyd a’r lles gorau o ganol hyd ddiwedd beichiogrwydd.

Er mwyn bwydo mamogiaid yn effeithlon heb wario gormod o arian, mae’n bwysig gwneud y defnydd gorau o borthiant yn y diet, gan mai porfa a silwair yw’r ffynonellau bwyd rhataf sydd ar gael ar gyfer defaid o ran cost fesul uned egni. Mae cynnal lefelau cyson o borthiant yn helpu i sicrhau iechyd y rwmen, ond mae nifer o bobl yn credu nad yw mamogiaid ar ddiwedd cyfnod beichiogrwydd – yn enwedig y rhai sy’n cario mwy nag un – yn gallu ymdopi â lefelau uchel o borthiant gan fod llai o le yn yr abdomen ar gyfer treuliad. Fodd bynnag, mae’r rwmen yn gallu addasu yn ystod cyfnodau olaf beichiogrwydd a chynnal ei effeithlonrwydd.

“Yn ystod cyfnodau olaf beichiogrwydd, mae’r lle ar gyfer y rwmen cymaint yn llai, ond yn hytrach nag arafu, mae’r gyfradd trosi’n cynyddu ac mae’r porthiant yn mynd drwyddo’n llawer cynt,” meddai’r arbenigwr defaid, John Vipond yr ystod digwyddiad dilyniant a gynhaliwyd ar fferm Rhiwgriafol, Machynlleth, un o Safleoedd Arddangos Cyswllt Ffermio.

“Wrth fwydo mamogiaid beichiog, rydym wedi bod yn canolbwyntio ar hen dablau bwydo ac yn anghofio am yr anifail ei hun. Rwy’n ceisio bodloni gofynion yr anifail a gwneud cynnydd o ran lleihau colledion ŵyn trwy symud at borthiant o ansawdd uchel gan ychwanegu Protein Dietegol Aniraddadwy (DUP) a gwaredu starts sydd ar gael yn barod.”

Mae DUP yn helpu i gywiro’r bwlch rhwng gofynion protein yr anifail a gallu’r rwmen i gynhyrchu protein microbaidd. Gyda chyfradd trosi uwch ar ddiwedd beichiogrwydd, mae oddeutu 12-15% o’r deunydd yn osgoi cael ei ddiraddio yn y rwmen, gan leihau’r gallu i  gynhyrchu protein microbaidd. Mae cynnyrch soya wedi’u trin â Formaldehyde yn cynnwys oddeutu 48% protein crai, gydag 85-90% ohono’n aniraddadwy, gan gynorthwyo i fodloni gofynion protein ac egni.

Er mwyn defnyddio’r porthiant yn effeithiol a sicrhau bod lefelau protein ac egni’n cael eu bodloni, mae’n bwysig dadansoddi silwair a gwair. Er mwyn i’r system a argymhellwyd i weithio, mae angen silwair gydag ME o 10.5 o leiaf, felly mae dadansoddi porthiant yn hanfodol er mwyn darparu darlun clir o’r math a faint o ychwanegion sy’n angenrheidiol.

Bu Dr Vipond hefyd yn trafod gaeafu ar laswellt yn unig, gan egluro bod systemau pori cylchdro’n gallu cynnig opsiwn arall cost-effeithiol yn hytrach na chadw dan do.

“Mae’n system ardderchog os allwch chi dyfu glaswellt yn ystod y gaeaf a bod tir ar gael gennych lle gallwch gadw’r stoc heb iddo gael ei botsio,” ychwanegodd. “Os na allwch dyfu glaswellt digonol trwy’r gaeaf neu fod cyfnod o dywydd gwael yn dod, mae’n rhaid i chi gael opsiwn arall, megis bwydo silwair neu eu cadw dan do. Ond unwaith y byddant dan do, bydd costau ychwanegol o ran gwellt, dwysfwyd, ynni a llafur.”

Argymhellodd  Dr Vipond system yn seiliedig ar gylchdro 100 diwrnod, gan ddechrau 25 ar ôl i’r hwrdd fynd at y mamogiaid. Y targed isaf o ran cyfanswm gorchudd ar ddechrau’r cylchdro yw 1,700-2,000kg DM, gyda dyraniad o 1.1kg-1.2kg DM y dydd i’r mamogiaid.

“Os oes gennych gae gyda 2,200kg DM, porwch lawr hyd at 1,000kg ar ddechrau’r cylchdro, fel bod 1,200kg DM ar gael iddynt ei fwyta. Byddai 1000 o famogiaid yn cael hectar, 500 o famogiaid yn cael hanner hectar. Mae angen i chi gyfrifo faint o fwyd sydd ar gael ac addasu maint y llain yn ôl uchder y gwndwn.”

Er mwyn sicrhau’r defnydd gorau o laswellt, dylid symud y mamogiaid pob 24 awr, ac ar ôl sganio, mae’n bosib y bydd angen eu symud i grwpiau gwahanol.

“Bydd angen mwy o laswellt ar famogiaid sy’n cario gefeilliaid, felly cynyddwch hyd at 2kg DM y dydd, ond gellir rheoli mamogiaid sy’n cario ŵyn unigol fel grŵp ar wahân ychydig leiniau’r tu ôl iddynt. Os byddwch yn gadael 1,200kg byddai digon o laswellt yno iddynt bigo. Fel arall bydd hi’n anodd rheoli cyflwr eu cyrff cyn dechrau ŵyna.”

Cafodd pwysigrwydd sgorio cyflwr corff hefyd ei amlygu, ac fe anogwyd ffermwyr i sgorio eu mamogiaid yn gyson ac i addasu arferion bwydo i fodlon eu gofynion maeth, er mwyn sicrhau’r allbwn gorau gan yr ŵyn.

Ar y cyd gyda Cyswllt Ffermio, bydd Rhidian Glyn, sy’n ffermio Rhiwgriafol,  yn cynnal prosiect yn cymharu tair system ar gyfer gaeafu defaid: cadw dan do, bwydo ar swêj ac anfon mamogiaid i aeafu oddi ar y fferm. Bydd costau pob system yn cael eu dadansoddi’n llawn, i ddarganfod mwy am y canlyniadau ac am wybodaeth am ddiwrnod agored a gynllunir ar gyfer mis Mai, cysylltwch â’r Swyddog Technegol, Catherine Nakielny ar 01970 631 406 neu drwy yrru ebost i catherine.nakielny@menterabusnes.co.uk

Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth, beth am gwblhau un o’n modiwlau e-ddysgu ar y testun ‘Paratoi cyllido bwydo gaeaf’. Mae’r modiwl rhyngweithiol byr hwn yn eich helpu chi i reoli eich cyfundrefn bwydo yn well drwy’r gaeaf, a gellir ei gwblhau o fewn 15 i 20 munud. Gallwch gael mynediad at y modiwl ‘Paratoi cyllido bwydo gaeaf’ ynghyd a modiwlau yn trafod amryw o bynciau eraill ar y wefan BOSS https://businesswales.gov.wales/boss/lms/login.

 

Diwedd

 

 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Bydd modiwlau newydd Cyswllt Ffermio yn helpu ffermwyr i drosglwyddo i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy
30 Ebrill 2024 Mae Cyswllt Ffermio wedi lansio set newydd o
Arbrawf llaeth yn edrych ar iechyd lloi ar fferm laeth yn Sir Benfro
25 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yn Sir Benfro sy’n lloia yn y
Sut mae dod yn ystadegyn damweiniau wedi gwneud ffermwr yn bencampwr iechyd a diogelwch fferm
23 Ebrill 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites