2 Awst 2019

 

wfsp 1
Dros y misoedd nesaf, bydd Partneriaeth Diogelwch Fferm Cymru (WFSP), ynghyd â'r holl Bartneriaethau Diogelwch Fferm eraill yn y DU, yn annog teuluoedd fferm yng Nghymru i gymryd mesurau ymarferol a fydd yn helpu i gadw plant yn ddiogel ar ffermydd.  Bydd y cyngor yn berthnasol i bob aelod o'r teulu, gweithwyr fferm, unigolion fel milfeddygon a masnachwyr, yn ogystal ag aelodau'r cyhoedd a fydd yn ymweld.

Mae WFSP, partneriaeth rhwng y prif sefydliadau rhanddeiliaid amaethyddol yng Nghymru, yn cydweithio i godi ymwybyddiaeth o ddiogelwch ar y fferm i deuluoedd yn ystod yr haf eleni, cyn y gwyliau ysgol a'r nosweithiau golau.  Bydd ymgyrch gyfathrebu a chyhoeddusrwydd newydd yn annog teuluoedd fferm i fod yn ymwybodol o'r peryglon ac i gymryd y camau angenrheidiol er mwyn nodi'r risgiau posibl i blant a diogelu rhagddynt.

Yn gynharach eleni, penododd WFSP ddau 'gennad diogelwch ar y fferm' newydd, y mae gofyn iddynt annog yr holl rai sydd â chyswllt â byd amaeth i gydnabod y risgiau a gweithredu arfer gorau yn eu busnes eu hunain.  Bydd rhan o'u rôl yn cynnwys annog yr holl rai sy'n gysylltiedig ag amaethu i fanteisio ar y cymorth, yr arweiniad a'r hyfforddiant sydd ar gael.  Mae Alun Elidyr, un o gyflwynwyr rhaglen Ffermio ar S4C ac y mae'n ffermwr ei hun, ynghyd â Glyn Davies, ffermwr o Geredigion, eisoes yn gweithio gyda phartneriaid WFSP a theuluoedd fferm ar draws Cymru trwy gyfrwng eu cysylltiadau a'u gwaith o ddydd i ddydd yn eu cymunedau gwledig, gan eu hannog i 'Stopio, meddwl a chydnabod bod pob fferm yn cynnwys peryglon posibl, yn enwedig i blant chwilfrydig nad ydynt yn aml yn sylweddoli'r peryglon.'

Mae Alun Elidyr yn dweud bod ffermydd yn safleoedd gwaith prysur sy'n llawn peryglon difrifol ac er mai amgylchedd gwaith ydynt yn anad dim, maent yn gartrefi teuluol hefyd.  Mae'n dweud ei bod yn hanfodol bod ffermwyr yn ceisio gwahanu eu bywyd gwaith a'u bywyd cartref trwy sicrhau na fydd plant byth yn cael eu gadael ar eu pen eu hunain a'u bod bob amser yng nghwmni oedolion cyfrifol sy'n rhydd i ganolbwyntio ar eu diogelwch nhw yn llwyr, heb i waith fferm dynnu eu sylw.

“Yn aml, bydd pobl yn credu bod plant sy'n byw ar ffermydd yn deall y risgiau ar ffermydd, ond nid yw hyn yn wir, ac mae'r rhan fwyaf o'r rhai sy'n cael damwain ar y fferm yn aelodau o'r teulu ac mae'n drist nodi ein bod yn clywed bob blwyddyn am ddamweiniau angheuol neu sy'n newid bywyd rhywun ac y maent yn cynnwys plant, yng Nghymru ac ar draws y DU,” dywedodd Alun.

“Ni ddylai ffermydd fyth fod yn lleoedd chwarae, felly mae angen lle diogel i blant chwarae, nad yw'n rhan o'r gweithle a'r risgiau sy'n gysylltiedig ag unrhyw amgylchedd fferm nodweddiadol.

“Da byw ac anifeiliaid fferm;  cerbydau sy'n symud megis ceir, beiciau modur ATV a thractorau;  peiriannau;  sylweddau peryglus;  tasau gwair, gwellt a silwair, seilos a phyllau slyri, ysgolion a gatiau – ac wrth gwrs, mae llawer mwy – ond dyma rai safleoedd gwaith nodweddiadol sy'n gallu bod yn angheuol i feddwl ifanc a chwilfrydig.

“Os bydd angen i'ch plant ddod i'ch man gwaith, cofiwch fod goruchwyliaeth oedolion yn hanfodol, a bydd trefniadau o'r fath yn bwysicach fyth yn ystod y gwyliau ysgol ac ar benwythnosau, pan fydd plant yn treulio mwy o oriau gartref cyn iddi nosi ac yn aml, byddant yn cael eu temtio i fynd allan ar eu pen eu hunain, ac weithiau, ni fydd oedolion yn sylwi arnynt yn mynd.”

wfsp 2 0
Dywedodd Glyn Davies, sy'n un o fentoriaid diogelwch fferm cymeradwy Cyswllt Ffermio, bod Partneriaeth Diogelwch Fferm Cymru, sydd wedi sefydlu ei sianelau ei hun ar Facebook a Twitter yn ddiweddar, yn dymuno gweld pob sefydliad gwledig yn annog pob teulu fferm i fanteisio ar swm sylweddol yr arweiniad, y cymorth, y wybodaeth a'r hyfforddiant sydd ar gael ynghylch diogelwch ar y fferm.  I ddarganfod mwy, ewch i wefan Cyswllt Ffermio sy'n cynnig cyrsiau hyfforddiant a gwasanaeth mentora un-i-un cyfrinachol ac wedi'i ariannu'n llawn ynghylch diogelwch ar y fferm ac EASI, sefydliad sy'n cynnig cyrsiau hyfforddiant arbenigol ynghylch beiciau modur ATV.

“Os byddwn oll yn cydweithio fel diwydiant, gan gyfleu'r neges ynghylch pa mor hanfodol yw hi i sicrhau bod eich fferm yn ddiogel a bod aelodau'r teulu yn cymryd cyfrifoldeb dros gydymffurfio â'r gyfraith a diogelu plant, dylem fod yn gallu lleihau nifer y damweiniau trasig sy'n digwydd bob blwyddyn.”

Am wybodaeth bellach ynghylch sicrhau bod eich fferm chi yn lle diogel i blant, ewch i wefan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch.

 

Cyngor defnyddiol er mwyn cadw plant yn ddiogel ar y fferm a chydymffurfio â'r gyfraith:

  • Dylid cadw plant allan o'r gweithle – dylech greu lle chwarae diogel penodedig yn yr awyr agored i blant iau, y mae'n rhaid eu cadw oddi ar y fferm, a dylid gosod ffens o'i gwmpas.
  • Dylid sicrhau bod plant dan 16 oed (gan gynnwys y rhai sydd ar brofiad gwaith neu ymweliadau addysgol), yn cael eu goruchwylio bob amser gan oedolyn cyfrifol sy'n canolbwyntio arnyn nhw yn unig ac nad ydynt yn cyflawni gwaith ar y fferm ar yr un pryd.
  • Ni ddylech ganiatáu plentyn dan 13 oed i deithio ar neu yrru unrhyw beiriannau amaethyddol hunanyredig (megis tractorau a beiciau modur ATV) neu ddefnyddio peiriannau eraill ar y fferm.  Os byddwch yn gwneud hynny, byddwch yn torri'r gyfraith.
  • Bydd angen i chi gael asesiad risg os byddwch yn cyflogi pobl ifanc dan 18 oed.  Bydd angen i chi ystyried eu diffyg profiad, eu hanaeddfedrwydd a'u diffyg ymwybyddiaeth o risgiau perthnasol yn llawn.  Os na fyddwch yn gwneud hynny, byddwch yn torri'r gyfraith!
  • Dylid atal mynediad i ardaloedd peryglus ac uchder.
  • Dylid cadw plant i ffwrdd o beiriannau a cherbydau.
  • Dylid cadw plant bellter diogel i ffwrdd o dda byw.
  • Dylid storio cemegau ac offer mewn ffordd gywir, dan glo a thu hwnt i gyrraedd.

Related Newyddion a Digwyddiadau

Digwyddiadau Cyswllt Ffermio i roi cyngor i ffermwyr ar gynllunio olyniaeth a’r gostyngiad arfaethedig i ryddhad Treth Etifeddiant (IHT).
8 Ionawr 2025 Wrth i deuluoedd ffermio yng Nghymru ystyried
Arolwg Safbwyntiau Ffermwyr
Mae arolwg o ffermwyr Cymru wedi cael ei lansio i archwilio sut
Bod yn aelod o grŵp trafod yn helpu fferm deuluol i ddefnyddio syniadau newydd
12 Rhagfyr 2024 Mae cynhyrchydd bîff pedigri ar raddfa fach yn