10 Chwefror 2026

Mae enillion mamol a gyflawnwyd trwy gofnodi perfformiad yn galluogi fferm coleg yng Nghymru i ŵyna ei mamogiaid sy'n cario mwy nag un oen yn yr awyr agored ar dir rhwng 1000 a 1300 troedfedd.

Mae diadell o 120 o ddefaid Mynydd Cymreig pur Coleg Cambria Llysfasi ger Rhuthun yn pori ar dir mynydd.

Gyda’r gaeaf ar adegau’n arw, mae angen nodweddion ar y defaid hynny sy’n eu galluogi i oroesi a ffynnu yn yr amgylchedd mynyddig hwnnw.

Mae cofnodi perfformiad wedi darparu llwybr newydd a gwerthfawr i wella nodweddion allweddol sy'n galluogi hynny.

Yn 2023, gwnaeth y coleg gais llwyddiannus i ymuno â Rhaglen Geneteg Defaid Cymru Cyswllt Ffermio i wella'r ddiadell yn enetig.

Ers hynny, defnyddiwyd Gwerthoedd Bridio Tybiedig (EBVau) i dargedu nodweddion dethol, gan gynnwys gallu mamol a chyfraddau twf yr ŵyn.

Er bod cofnodi perfformiad yn strategaeth hirdymor sy'n golygu y gall gymryd peth amser i'r enillion o ganlyniad i welliannau ddod i'r amlwg, mae Llysfasi wedi gweld y gwelliannau hynny dim ond tair blynedd i mewn i'r rhaglen.

Yn hanesyddol, roedd mamogiaid a oedd yn cario tripledi yn wyna dan do, gan ychwanegu cost a llafur at y system, ond mae gallu mamol wedi gwella i lefel fel bod gan y bugail Alun Jones yr hyder i ŵyna'r rhain ar y mynydd.

“Mae’r mamogiaid yn cynnal eu cyflwr corff yn well, nid ydym wedi cael unrhyw broblemau wrth eu hŵyna yn yr awyr agored ac maen nhw’n cadw eu hŵyn yn dda iawn,” meddai Alun.

Mae hynny'n wir am y ddiadell gyfan o famogiaid Mynydd Cymreig, ychwanega. “Rydym yn colli llai o ŵyn, does dim mamog sy’n methu â magu, ac mae angen llai o ymyrraeth – yn nhymor wyna 2025 dim ond dwy ddafad allan o 120 oedd angen i ni eu cynorthwyo.”

Mae Llysfasi yn rhedeg 600 o famogiaid i gyd gyda 120 arall o ddefaid Mynydd Cymreig wedi'u croesi ag Abertex i gynhyrchu oen benyw miwl, a 380 o famogiaid miwl wedi'u croesi â hwrdd Beltex neu Texel.

Roedd penderfyniad wedi'i wneud i ddileu'r defaid Mynydd Cymreig yn raddol ychydig flynyddoedd yn ôl a lleihawyd y niferoedd i 80 ond fe wnaeth gwerth y brîd hwnnw i'r system ysgogi i ni ailystyried ac ailadeiladu'r niferoedd.

Roedd hyn yn rhannol yn rheswm dros ymuno â Rhaglen Geneteg Defaid Cymru, meddai Dewi Jones, rheolwr fferm Llysfasi.

“Gan ein bod ni’n ailadeiladu’r ddiadell roedden ni eisiau cael mamogiaid gwell felly roedd ymuno â grŵp o ffermwyr sy’n meincnodi ac yn cofnodi yn gyfle da.”

Hyd at 2023, roedd y brîd Mynydd Cymreig yn frîd caled yng Ngogledd Cymru, ond symudodd y bridio i ddefaid Penwyn Llanymddyfri a defaid Cymreig Talybont, defaid â ffrâm fwy a all gynhyrchu ŵyn gyda gwerth uwch o fewn yr un amgylchedd.

Dechreuodd y broses o gofnodi perfformiad ym mis Hydref 2023 ac roedd yn cynnwys y 120 o famogiaid Mynydd Cymreig ieuengaf.

Cymerwyd samplau meinwe ynghyd â sgôr cyflwr y corff (BCS) a phwysau.

“Ar y cam hwnnw roedden ni’n creu llinell sylfaen o ddata, tan hynny dim ond yn oddrychol drwy gofnodi pwysau roedden ni wedi bod yn ei wneud ond o ran data yn gyffredinol, doedden ni ddim yn cael y manylder, y dystiolaeth galed,” meddai Alun.

Defnyddir Gwerthoedd Bridio Tybiedig (EBVau) bellach i wella nodweddion dethol, gan gynnwys gallu mamol, arwynebedd cyhyrau, pwysau, a chyfraddau twf yr ŵyn.

Mae’r defaid Mynydd Cymreig, sydd ond yn cael blociau mwynau fel atchwanegiadau, yn ŵyna o'r ail wythnos ym mis Ebrill.

Mae ŵyn yn cael dwysfwyd i’w pesgi, ac er bod y rhain yn cael eu gwerthu ar hyn o bryd rhwng mis Tachwedd a mis Ionawr, yr uchelgais yw gallu eu gwerthu’n gynharach o ychydig fisoedd a heb ddwysfwyd.

Mae ŵyn yn cael eu gwerthu ym marchnad dda byw Rhuthun ac i ABP, gyda phwysau byw cyfartalog rhwng 38 a 42kg a phwysau ar y bach rhwng 17 a 18kg.

Er bod Dewi yn derbyn y bydd bridio ar gyfer nodweddion dymunol yn y defaid Mynydd Cymreig yn broses araf, mae'n dweud bod gwelliannau mewn gallu mamol bellach yn amlwg.

“Gan ein bod ni hefyd yn defnyddio’r famog Mynydd Cymreig ar gyfer croesi, bydd rhai o’r nodweddion o ran twf ac arwynebedd cyhyrau yn dod ychydig ymhellach i lawr y llinach, o ochr y tad.

“Nid yw gwelliannau o reidrwydd yn llinol oherwydd bod gan yr hwrdd gryn dipyn o ddylanwad, er enghraifft ein pwysau cyfartalog dros wyth wythnos yw 28.1kg sy'n ein rhoi yn y 25% uchaf ar gyfer y brîd ond ar y mynegai EBV rydym yn y 5% uchaf.''

Ymhlith manteision cofnodi perfformiad mae'r cyfle i gael gwared ar y defaid sydd ar y gwaelod o ran perfformiad, ychwanega.

“Pan ddechreuon ni gofnodi, gallem weld bod rhai o’n mamogiaid eisoes yn perfformio’n dda iawn, cawsom ein synnu pa mor dda, ond yn sydyn roedden ni mewn sefyllfa o wybod pa famogiaid nad oedd yn perfformio ar EBVau fel nad oedden ni’n bridio oddi wrthyn nhw, gan gael gwared ar yr elfen hon o nodweddion llai dymunol trwy fridio dethol.”

Drwy gael gwared ar yr 20% isaf, mae'r mynegai cyffredinol ar gyfer y ddiadell fynydd pur wedi gwella o £13 i £16.24.

Mae Dewi yn disgwyl i'r gwelliannau gyrraedd y ddiadell ehangach.

“Mae angen i ni wneud yn siŵr ein bod ni’n cael y famog Gymreig yn iawn yn gyntaf, rydyn ni wedi dewis ein mamogiaid gorau ar gyfer y mamogiaid pur, a byddwn ni’n cynhyrchu mamogiaid croes o rai o’r lleill ond yn y pen draw, pan fydd nifer y mamogiaid Cymreig pur yn cynyddu, bydd gennym ni fwy o ddewis o famogiaid ar gyfer cynhyrchu’r famog groes hefyd.”

Fe wnaeth cael gwerthoedd bridio'r ddiadell helpu i lywio'r dewis o hwrdd yn arwerthiant Prohill yn 2025.

“Dyma le mae’r hud yn digwydd, mae gallu cael mynegai’r hyrddod mynydd a mynegai unigol pan rydych mewn arwerthiant yn golygu ein bod ni’n gallu rhoi llinell goch yn erbyn yr hyrddod na fyddem ni’n eu prynu oherwydd nad oedd y data’n ddigon da,’’ eglura Dewi.

“Fodd bynnag, mae math yn bwysig hefyd, mae angen y math cadarn da hwnnw arnom yn ogystal â ffigurau, mae hwnnw'n feini prawf pwysig.

“Byddai rhai bridwyr yn dweud bod y data yn fonws ond mae angen y ddau arnoch chi, data yw grym eich dadl dros ddewis, mae'n eich helpu gyda dewis oherwydd unwaith y byddwch chi'n gwybod sut famogiaid sydd gennych, mae'n gymhelliant da i beidio â phrynu hwrdd a fydd yn eu tynnu i'r cyfeiriad anghywir.”

Mae'n amlwg o ddata Llysfasi fod mynegeion rhai o'i ŵyn hyrddod ei hun yn debyg i’r hyrddod yn yr arwerthiant Prohill hwnnw.

Mae Dewi yn gweld cyfleoedd yn hyn o beth yn y dyfodol.

“Nawr rydyn ni’n gwybod pa ŵyn hyrddod sydd â’r mynegeion hynny, gan fod yn ymwybodol o fewnfridio gallem ddefnyddio rhywfaint o’n stoc ein hunain ar gyfer bridio neu o bosibl eu gwerthu, anifeiliaid a fyddai wedi mynd i’w difa cyn i ni ddechrau cofnodi.’’

Mae gan Lysfasi fuches odro hefyd ac mae Dewi wedi gweld y manteision y mae cofnodi wedi'u darparu i'r fuches a'r sector llaeth yn gyffredinol.

Wrth symud ymlaen, mae'n gobeithio y bydd cynhyrchwyr defaid yn cydnabod y potensial sydd gan Werthoedd Bridio Tybiedig iddynt hwy hefyd.

“Nid yw’r diwydiant defaid yn cael ei lywio cymaint gan ddata â’r diwydiant llaeth, felly mewn rhai ffyrdd, rydym yn gwneud llawer o ymdrech i gofnodi a chasglu data, ond nid yw’r data hwnnw’n cael ei ddefnyddio na’i ddeall yn eang.

“Mae’r gwobrau masnachol yno am gael y data hwnnw ond gyda chymorth y math, mae’n ymwneud â sicrhau cydbwysedd.’’

Mae Rhaglen Geneteg Defaid Cymru wedi bod yn gyflwyniad ardderchog i gofnodi perfformiad, ychwanega, ac ychydig o anfanteision mae’n ei weld wrth gofnodi. Mae’n debyg mai amser ac ymdrech yn ogystal â chost yw'r cyfyngiadau mwyaf.

“Rydym yn cynhyrchu llawer iawn o ddata gyda’r buchod ac ydyn, rydyn ni’n talu pobl eraill i’n cynorthwyo gyda’r gwaith casglu data hwnnw ond ar y cyfan mae’n cael ei wneud yn awtomatig wrth i’r buchod fynd trwy’r parlwr.

“Gyda defaid, mae’r broses yn un â llaw, fodd bynnag, os na wnawn ni hynny, sut ydyn ni’n gwella, a sut fyddwn ni’n gwybod a ydym ni wedi gwella?”
 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Bwydo glaswellt trwy'r dail yn rhoi hwb i borthiant india-corn mewn cyfnod o sychder, yn ôl arbrawf fferm
Bu i ddefnyddio’r dull bwydo drwy’r dail ar india-corn a oedd yn
Sut mae bwydo silwair meillion yn lleihau costau yn y cyfnod cyn ŵyna
22 Ionawr 2025 Mae silwair meillion coch a gwyn o ansawdd uchel
Dirprwy Brif Weinidog yn llongyfarch enwebeion Gwobrau Lantra Cymru mewn seremoni yn dathlu rhagoriaeth mewn datblygu sgiliau a dysgu gydol oes
16 Ionawr 2026 Mae’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y