Symudedd y fuwch yw un o’r ffactorau pwysicaf o ran iechyd y fuches, a chloffni yw’r broblem lles mwyaf arwyddocaol sy’n effeithio ar fuchesi llaeth. Gall achosion o gloffni fod yn gostus, a gallant hefyd effeithio ar gynhyrchiant llaeth a ffrwythlondeb, felly gall gweithdrefnau iechyd y traed helpu i gynyddu cynhyrchiant a phroffidioldeb.

Yn ystod digwyddiad Cyswllt Ffermio ym Mrynbuga, bu’r  milfeddyg Sara Pederson, sy’n arbenigo mewn iechyd gwartheg, yn amlinellu’r prif faterion sy’n effeithio ar symudedd mewn buchesi llaeth, ac yn trafod yr arfer gorau wrth ymdrin â’r achosion cloffni.

“Mae’n rhaid i ni asesu beth yw lefelau cloffni yn y fuches, beth sy’n eu hachosi a thargedu unrhyw ffactorau risg,” meddai. “Mae pedwar maes sy’n effeithio ar gloffni ac iechyd y traed: pwysedd isel o ran heintiau; ansawdd a siâp y carn; cyn lleied o bwysau â phosib ar y traed; a chanfod y broblem yn gynnar er mwyn rhoi triniaeth effeithiol a phrydlon i wartheg cloff.”

Bydd cynnal lefel isel o berygl heintiad ar fferm trwy hylendid da, rheolaeth slyri a golchi traed gwartheg yn helpu i gadw bacteria sy’n gallu achosi dermatitis digidol oddi wrth y traed. Bydd siap ac ansawdd y carn yn cynyddu’r gallu i ddal pwysau’r fuwch ac yn lleihau’r perygl o gael clwyfau ar wadn y droed a chlefyd y llinell wen. Mae clwyfau ar wadn y droed yn fwy tebygol o ddatblygu os bydd diffyg cyfforddusrwydd i’r fuwch a phan fo llif gwartheg yn broblem ar fferm, gall clefyd y llinell wen fod yn fwy cyffredin.

“Y cynharaf oll y gallwn drin y gwartheg, y cynharaf oll y byddant yn gwella. Mae hynny’n wir i bob achos o gloffni, felly mae sgorio symudedd yn bwysig iawn,” ychwanegodd Sara.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Academi Amaeth 2025 yn dod i ben gydag enillwyr yr her yn derbyn gwobrau
24 Tachwedd 2025 Mae unigolion uchelgeisiol y mae eu dyfodol yn
Pam mae dwysedd porfeydd yn hanfodol ar gyfer tros-hau llwyddiannus
14 Tachwedd 2025 Mae tros-hau porfeydd gyda chymysgedd aml
Dechrau Ffermio: Cyfleoedd ar gyfer lleoliad gwaith ledled Cymru!
13 Tachwedd 2025 Mae Cyswllt Ffermio yn cynnig cyfleoedd ar gyfer