alwyn and gethin with plate meter 1

Mae trosi i bori cylchdro o system stocio sefydlog wedi rhoi cyfle i ffermwr defaid o Gymru gynyddu ei gyfraddau stocio o 25%.

Mae Alwyn Phillips, sy’n cadw a chofnodi perfformiad dwy ddiadell o ddefaid pedigri Texel a Poll Dorset ger Caernarfon, yn arloesi gyda’i ddull o reoli glaswelltir, gan brofi bod newid ffordd o feddwl yn gallu creu manteision mawr i berfformiad busnes.

Trwy rannu caeau yn goralau un hectar – a elwir yn gelloedd - mae’n gweld gwelliant mawr yn swm ac ansawdd y glaswellt. Trwy hyn mae wedi gallu cynyddu niferoedd ei famogiaid o 100 i 500.

Cost gychwynnol sefydlu’r system oedd £341.79/ha (£136.72/erw) ac roedd yn cynnwys 2500 metr o ffens drydan rhannol-barhaol Kiwitech a 1200 metr o bibell ddŵr ond amcangyfrifir y bydd yn talu amdano ei hun mewn llai na dwy flynedd.

Yn Seland Newydd y gwelodd Mr Phillips, Ffermwr Ffocws Cyswllt Ffermio, bori celloedd am y tro cyntaf a gwyddai y byddai’n gallu gweithio ar ei fferm. “Roeddwn yn gallu gweld sut y gallai rheolaeth dda ar laswelltir wneud y mwyaf o botensial ein geneteg ragorol,” mae’n cofio.

Mae wedi bod yn cofnodi ei ddiadell ar laswellt ers 1980 a dywed bod gallu ŵyn i drosi glaswellt yn gig yn wahanol i’r rhai sy’n trosi porthiant dwysfwyd. “Mae gan fy nefaid Texel un o’r gwerthoedd bridio tybiedig uchaf o ran cyhyrau – yr 1% uchaf ar gyfer cyhyrau yw 3.49mm ac mae’r hyrddod gorau ar 7.15mm - ond ni allaf gystadlu â’r gwerth bridio tybiedig tyfiant pwysau 20 wythnos mewn cymhariaeth ag ŵyn ar borthiant crîp parhaus. Er mwyn gwella cyfradd dyfu fy ŵyn, roeddwn yn gwybod bod raid i mi wella fy rheolaeth ar laswelltir.’’

Comisiynydd Mr Phillips James Daniels, o Precision Grazing Ltd, i ddylunio a gosod system bori gylchdro ar bedwar cae yn cynnwys 24 hectar (59 erw) ar Fferm Pengelli. Rhannwyd yr ardal yn 24 o gelloedd 1ha.

Modelwyd y dognau porthiant gan amcangyfrif ffigyrau tyfiant glaswellt tybiedig i bennu’r gyfradd stocio bosibl a hyd angenrheidiol y cylchdro. Roedd hyn yn caniatáu i’r nifer o gelloedd a’u maint gael eu cyfrifo. “Addaswyd hyn wedyn yn ôl y caeau a ddewiswyd a lleoliad y cyswllt rhwng y ffens drydan â’r cyflenwad trydan a’r cyflenwadau dŵr,” meddai Mr Daniels.

Rhannwyd y caeau gyda ffensys rhannol barhaol; cludwyd y trydan a’r dŵr ar hyd ffensys y lôn ganol i’r celloedd pellaf. Yn y ddau gae gyda’r gwndwn gorau rhannwyd y celloedd wedyn gyda poly-wifren a physt gwydr ffeibr; gall y rhain gael eu symud yn rhwydd i dorri silwair. “Llwyddwyd i rannu’r caeau eraill yn llai trwy ddefnyddio pyst gwydr ffibr sy’n cynnal gwifren ddur tra hydwyth. Mae trefniant spring hydwyth iawn yn gadael i’r gwifrau yn y ffensys ymestyn,” meddai Mr Daniels.

“Felly, os bydd anifail yn cyffwrdd y wifren, mae’r ffens yn rhoi yn hytrach na thorri. Mae’n golygu hefyd y gall y ffens gael ei phegio i lawr i stoc a cherbydau fedru symud drosti, gan arbed arian a lleihau’r angen am giatiau parhaol.”

Rhaid i ddefaid gael eu hyfforddi i ddefnyddio’r system ond rhyw ddau ddiwrnod mae hyn yn ei gymryd. “Mae hyfforddiant yn hanfodol, achos unwaith y maen nhw’n dysgu arferion drwg mae’n anodd eu stopio,” meddai Mr Phillips. “Fe wnaethon ni hyn trwy sicrhau bod foltedd y ffens ar isafswm o 7000V a dychwelyd unrhyw anifeiliaid oedd yn herio’r ffens yn ôl at y ddiadell yn gyflym. Chawson ni ddim problemau wedyn ond rydym yn profi’r ffens yn gyson i sicrhau bod y foltedd yn aros dros 5000V. 

“Pan fyddwn yn eu symud i borfa ffres, rydym yn pegio’r ffens ar y ddaear oherwydd bod y gwifrau yn ymestyn. Mae’r defaid yn camu dros y gwifrau oherwydd eu bod yn dysgu eu bod yn cael mynd at borfa ffres wrth wneud hyn.”

Symudir cafnau symudol, sydd wedi eu cynllunio i gael eu gwagu yn rhwydd a’u llusgo â llaw neu tu ôl i gerbyd, o gell i gell hefo’r defaid. Yna byddant yn cael eu cysylltu â’r pibelli dŵr sy’n rhedeg ar y wyneb trwy gysylltydd arbennig.

Mae’r system bori cylchdro ym Mhengelli yn cael ei stocio ar 4 o unedau byw i bob hectar (8 mamog/yr erw) gyda’r gyfradd stocio uchaf yn fwy na 6 o unedau byw yr hectar (12 mamog/yr erw) ym mis Gorffennaf pan gymerwyd 8ha allan o’r cylch i dorri silwair. Bydd gwerthu ŵyn wedi’i pesgi yn lleihau’r gyfradd stocio i 2.5 o unedau byw yr hectar (5 mamog/yr erw) erbyn mis Tachwedd i baratoi ar gyfer cylchdro’r gaeaf o borfa a gadwyd a silwair. “Byddai cynyddu’r ddiadell o 100 wedi gofyn am 8 hectar ychwanegol (20 erw) dan system bori draddodiadol Mr Phillips. O gymryd bod ardal o’r maint hwn ar gael yn lleol ar rent byddai hyn yn cynyddu ei gostau yn sylweddol. Yn hytrach mae wedi buddsoddi mewn seilwaith a fydd yn ychwanegu gwerth at ei dir,” meddai Mr Daniels.

Dangosodd gwaith ymchwil bod systemau pori cylchdro yn arwain at gynnydd o 2300 tunnell o gynnwys sych yr hectar mewn glaswellt a ddefnyddir, ar sail ffigyrau AHDB, a bod iddo werth o £99.00 yr hectar y flwyddyn.

“Bydd y cynnydd yn niferoedd y mamogiaid yn creu cynnydd o £8,700 fe amcangyfrifir yn yr elw gros.  Nid yw hyn yn cynnwys y manteision ychwanegol fel cyfraddau tyfu cyflymach yr ŵyn a gwell cyfansoddiad i’r borfa,” esboniodd Mr Daniels. “Bydd y system wedi talu amdani ei hun mewn llai na dwy flynedd.”

Mesurir y glaswellt yn wythnosol gan Mr Phillips a Gethin Davies, Cyswllt Ffermio, a’u hanfon at Precision Grazing Ltd, sy’n dadansoddi’r ffigyrau ac yn ymateb mewn 24 awr gyda chynllun rheoli.  Codir ffi reoli fisol ar Mr Phillips am y gwasanaeth sy’n seiliedig ar ardal y system.  “Mae’n golygu ein bod yn gwybod ble yr ydym yn mynd i fod gyda’r system bori mewn tair neu bedair wythnos, pa gelloedd sydd angen gwrtaith, beth sydd angen ei dorri a phryd y bydd angen i ni symud stoc,” meddai Mr Phillips.

“Byddem yn anelu at fynd i gae ar 2000kg o gynnwys sych yr hectar a dod allan ar 1400-1500 ond mae wedi bod yn dymor tyfu mor eithriadol fel ein bod yn mynd i mewn ar 2500.”

Nid yn unig mae’r system yn galluogi Mr Phillips i dyfu rhagor o laswellt gyda llawer o feillion ynddo ond hefyd i leihau faint o wrtaith a ddefnyddir.  Chwalodd 50kg/yr erw o 22-6-8 ‘Cut and Graze’ ar 10 Mai ar y celloedd i gyd a 75kg arall ar 25 Mehefin i’r 8ha (20 erw) o dir silwair.

Pan fydd tyfiant y glaswellt yn fwy na’r galw gall nifer o gelloedd gael eu tynnu o’r system i dorri silwair oherwydd bod y ffensys yn hawdd eu symud a’u hail osod.

Mae Mr Phillips yn rhedeg hyd at bump o grwpiau gwahanol o ddefaid ar unrhyw adeg sy’n profi, meddai, bod pori cylchdro yr un mor addas ar gyfer systemau cymhleth ag y mae i rai syml. “Rydym yn ei reoli fel bod y grwpiau sy’n cael blaenoriaeth yn cael y borfa orau, er enghraifft bydd yr ŵyn ar ôl eu diddyfnu yn pori o flaen y mamogiaid sych. 

“Rhaid i’r rheolaeth ar bori fod yn iawn i ddefaid ar y system hon oherwydd, yn wahanol i fferm laeth, nid oes gennym y rhwyd ddiogelwch o borthi ‘byffer’, mae llai o ddewisiadau. Bydd y gofynion yn newid hefyd wrth ddiddyfnu a pharatoi defaid at yr hwrdd, mae llawer o ffactorau amrywiol sy’n cymhlethu’r system.”

Nod Mr Phillips yn awr yw sefydlu system bori gylchdro i’w fuches o 40 o wartheg bîff Limousin yn bennaf y flwyddyn nesaf.

Bydd Cyswllt Ffermio yn rhedeg digwyddiad dilynol ym Mhengelli yn hwyrach yr haf hwn i ffermwyr gael gweld y system ar waith a bydd yn dilyn hynny â diwrnod agored yn y gaeaf.

Dywed Mr Phillips mai’r prif reswm dros fabwysiadu’r system hon oedd lleihau costau cynhyrchu ŵyn. “Gyda phob 1kg o gynnwys sych sy’n cael ei bori yn costio tua chwarter dwysfwyd sy’n cael ei brynu i mewn, mae’n gwneud synnwyr gwneud y gorau o botensial tyfu’r glaswellt ar y fferm. Mae fy nghwsmeriaid hyrddod yn gwerthfawrogi’r dull hwn sy’n ddibynnol ar laswellt, gan eu bod yn cynhyrchu’r ŵyn gorau oddi ar laswellt hefyd. Mae’r hyn yr ydym wedi ei gyflawni yma yn dangos ei fod yn bosibl. Cred rhai ei fod yn golygu llawer o waith ychwanegol, ond unwaith y mae’r defaid wedi cael eu hyfforddi mae’n syml iawn, ar yr amod bod gennych system wedi ei dylunio’n dda.”

 

* Mae Cyswllt Ffermio wedi creu rhwydwaith o safleoedd ‘Ffocws’ ar draws Cymru i roi cyfle i ffermwyr a choedwigwyr weld yr arferion, datrysiadau ac offer integredig blaengar diweddaraf drostynt eu hunain a all gefnogi datblygiad eu busnes yn y dyfodol.

 

poll dorsets moving cell
  

 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Digwyddiadau Cyswllt Ffermio i roi cyngor i ffermwyr ar gynllunio olyniaeth a’r gostyngiad arfaethedig i ryddhad Treth Etifeddiant (IHT).
8 Ionawr 2025 Wrth i deuluoedd ffermio yng Nghymru ystyried
Arolwg Safbwyntiau Ffermwyr
Mae arolwg o ffermwyr Cymru wedi cael ei lansio i archwilio sut
Bod yn aelod o grŵp trafod yn helpu fferm deuluol i ddefnyddio syniadau newydd
12 Rhagfyr 2024 Mae cynhyrchydd bîff pedigri ar raddfa fach yn