Mae cloffni yn y ddiadell yn genedlaethol yn arwain at oblygiadau economaidd yn ogystal â lles. Atal clefydau yw’r dewis gorau, ond mae rheoli’r cyflwr yn hanfodol ar ffermydd sy’n cael eu heffeithio.

Mae’r tywydd cynnes a gwlyb diweddar wedi arwain at nifer o ddiadelloedd yn dioddef achosion o gloffni ac oherwydd y llafur sy’n gysylltiedig ag ymateb i lefelau uchel o’r clefyd a’r effaith ar gynhyrchiant y ddiadell, mae cynhyrchwyr yn chwilio am ddulliau gwell o reoli’r clefyd.

Yn ffodus, mae ymatebion ar gael sy’n cyfuno'r wybodaeth wyddonol a milfeddygol presennol gyda phrofiad ymarferol ffermwyr sydd wedi sicrhau lefelau isel o ran cloffni  yn eu diadelloedd.

Mae’r strategaethau rheolaeth, a elwir yn gynllun 5 pwynt, yn cynnwys:

1.   Triniaeth gynnar

2.   Osgoi cronni’r clefyd

3.   Brechu

4.   Difa

5.   Cadw stoc newydd mewn cwarantîn

Gyda’r arwerthiannau bridio’n cymryd lle ar hyn o bryd, nawr yw’r amser i feddwl am sut mae defaid sy’n dod i’r fferm yn cael eu rheoli a’u cyflwyno i’r ddiadell.

sheep in footbath

Bioddiogelwch yw un o’r negeseuon allweddol yng nghynllun gweithredu Fframwaith Iechyd a Lles Anifeiliaid Cymru ar gyfer 2015-2016. Mae cydymffurfiaeth gofalus gyda safonau bioddiogelwch da yn hanfodol er mwyn rheoli clefydau. Dylid trafod hyn gyda’ch milfeddyg, a’i gynnwys mewn cynllun iechyd diadell. Yn ogystal â’r perygl o ddod â pharasitiaid gydag ymwrthedd a chlefydau newydd gyda stoc a brynir i mewn, gellir hefyd cyflwyno mathau newydd o glwy’r traed yn ogystal â Dermatitis Carnol Defeidiog Heintus (CODD). Dylid archwilio’r holl anifeiliaid ar gyfer arwyddion o glwyfau ar y traed a allai fod yn weledol cyn i’r defaid fynd yn gloff. Ystyriwch olchi traed wrth iddynt gyrraedd a rhowch driniaeth i achosion newydd cyn gynted â phosib. Dylid trafod triniaethau posib ynghyd â golchi traed gyda’ch milfeddyg. Cadwch ddefaid newydd ar wahân am o leiaf 28 diwrnod a rhowch driniaeth i unrhyw broblemau pan fyddant yn codi cyn iddynt ymuno â gweddill y ddiadell.

Nawr yw’r amser hefyd pan fo nifer o ffermwyr yn cyflwyno brechiadau i’w trefniadau rheolaeth. Mae defnyddio brechiad clwy’r traed wedi profi’n hanfodol wrth reoli clwy’r traed ynghyd â ffactorau rheolaeth eraill mewn nifer o astudiaethau ymarferol. Darllenwch a chydymffurfiwch â chanllawiau’r gwneuthurwyr a chyngor milfeddygol. Mae’r cyfnod cyn hyrdda yn amser delfrydol i gychwyn ar y broses. Yn dilyn cyngor gan eich milfeddyg, gallwch wneud penderfyniadau p’un ai yw brechu’n addas ar gyfer eich diadell. Er nad yw wedi’i anelu at glefyd CODD, gellir ystyried brechu’n ffordd ddefnyddiol o drechu’r clefyd. Mae clwy’r traed a CODD yn bresennol mewn nifer o ddiadelloedd, a gall lleihau lefelau clwy’r traed hefyd leihau nifer yr achosion o CODD. Mae’n bwysig cofio fodd bynnag bod triniaeth ar gyfer CODD yn gofyn am fath gwahanol o driniaeth wrthfiotig na chlwy’r traed. Ar yr un pryd â thrafod brechiad gyda’ch milfeddyg, holwch a oes posibilrwydd bod CODD yn bresennol ar y fferm a’r driniaeth fwyaf addas ar gyfer eich sefyllfa.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Arbrawf tyfu cnau yn edrych ar hyfywedd cynhyrchu cnau Ffrengig yng Nghymru
08 Mai 2024 Mae cwpwl o Sir Gâr yn arbrofi gyda thyfu cnau ar eu
Bydd modiwlau newydd Cyswllt Ffermio yn helpu ffermwyr i drosglwyddo i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy
30 Ebrill 2024 Mae Cyswllt Ffermio wedi lansio set newydd o
Arbrawf llaeth yn edrych ar iechyd lloi ar fferm laeth yn Sir Benfro
25 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yn Sir Benfro sy’n lloia yn y