6 Medi 2018
Mae’n bosibl y gallai fferm laeth gyda buches o 500 o wartheg wneud arbedion o bron i £50,000 y flwyddyn a lleihau ei risg o lygru cyrsiau dŵr drwy dynnu’r dŵr o’r slyri a’i buro, yn ôl arbrawf ar fferm yng Nghymru.
Mae Fferm Gelli Aur Coleg Sir Gâr, un o Safleoedd Arloesedd Cyswllt Ffermio, yn treialu technoleg sy’n tynnu dŵr ac yn puro slyri, prosiect gwerth £1.1 miliwn, sef Prosiectslyri, a ariennir gan Lywodraeth Cymru drwy’r Rhaglen Datblygu Gwledig.
Mae’r safle trin ar Gampws Gellir Aur Coleg Sir Gâr yn ei wythnos gyntaf ac mae ffermwyr wedi cael y cyfle i weld sut mae’n gweithio a manteision posibl cyflwyno’r dechnoleg yn eu systemau eu hunain.
Mynychodd dros 250 o ffermwyr o ledled y DU ddiwrnod agored a gynhaliwyd ar y cyd rhwng Prosiectslyri a Cyswllt Ffermio.
Mae’r safle trin yng Ngelli Aur yn prosesu 35 tunnell o slyri bob dydd ac mae eisoes yn gwneud mwy na’r hyn a ddisgwyliwyd - roedd y cwmni y tu ôl i’r dechnoleg, Power and Water o Abertawe, wedi rhagweld y byddai 80% o hylif yn cael ei echdynnu o’r slyri ond mae’n cyrraedd 90%.
Mae angen gwaith pellach ar y broses buro - nid yw’r dŵr wedi'i hidlo yn ddigon glân eto i’w ryddhau i gyrsiau dŵr lleol neu i’w ail-ddefnyddio ar y fferm ond mae hyn o fewn cyrraedd, meddai Gareth Morgan, prif weithredwr Power and Water.
"Rydym yn mireinio’r prosesau wrth i ni fynd ymlaen,” meddai. “Mae angen dadansoddi’r dŵr sy’n cael ei drin cyn iddo gael ei ryddhau. Rydym yn gweithio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru i ddiffinio paramedrau ansawdd rhyddhau.''
Mae'r system yn gweithio drwy bwmpio slyri yn ei ffurf wreiddiol o’r ciwbiclau i wahanwr.
Mae’r deunydd solet, sy’n un rhan o ddeg o’i gyfaint gwreiddiol oherwydd bod y dŵr wedi’i echdynnu, yn disgyn i’r ardal storio o dan y gwahanwr. Unwaith y bydd yr ardal dal yn llawn mae’r deunydd hwn y gellir ei bentyrru yn cael ei gasglu a’i storio mewn ardal dan do, yn barod i’w wasgaru.
Mae’r hylif wedi’i hidlo, sydd tua 4-5% o ddeunydd sych (DM) unwaith mae wedi bod drwy’r gwahanwr, yn symud i ran arall o’r safle trin lle mae system ocsideiddio â phatent yn torri’r amonia i lawr yn nitrogen a hydrogen ac yn cael gwared ar y solidau hynny sy’n weddill ac sydd yna’n cael eu cludo’n ôl i ddechrau’r broses drin ar gyfer ychwanegu at y slyri cywasgedig o dan y gwahanwr.
Mae dwy system wahanu yn cael eu treialu - mae un yn defnyddio grym allgyrchol i gael gwared ar y solidau ac mae’r llall, hidlydd gwasgu sgriw, yn gwthio’r slyri drwy sgrin rhwyll.
Dywed Mr Morgan bod y system allgyrchol yn fwy dwys o ran ynni ond mae’n cynhyrchu mwy o solidau tra bod y gwasg sgriw yn gryn dipyn yn llai o wariant cyfalaf ond mae llai o wahanu’n cael ei gyflawni.
“Byddwn yn canfod pa un sy’n cynhyrchu’r canlyniadau gorau,” meddai.
Mae'r prosiect yn cyfrifo arbedion sylweddol o'r dull gweithredu hwn. Yng Ngelli Aur gyda'r fuches o 500 o
wartheg, gallai olygu arbedion blynyddol o £16,908 ar wrtaith artiffisial oherwydd cynnwys maethol uwch y slyri cywasgedig a gwell defnydd yn cael ei wneud o’r maetholion hyn. Bydd y prosiect hefyd yn ceisio cadarnhau’r amcangyfrifon hyn, ac yn asesu gwerth maethol slyri wedi'i ddadhydradu pan fydd yn cael ei roi ar y tir.Byddai ailddefnyddio’r dŵr a lleihau costau gwasgaru a disel yn arwain at arbedion pellach o £32,296.
Dywed John Owen, rheolwr fferm yng Ngelli Aur, sy'n rheoli'r prosiect, bod y diwydiant ffermio yn ymwybodol iawn o'r materion sy'n gysylltiedig â rheoli maetholion ar ffermydd.
"Fel diwydiant rydym yn cymryd yr awenau, gan fabwysiadu technoleg newydd sydd wedi'i defnyddio mewn sectorau eraill i wneud gwell defnydd o'r maetholion a gynhyrchwn.
"Mae'n dechnoleg newydd felly bydd y ddwy flynedd nesaf yn ymwneud â gwerthuso.''
Yn ôl Mr Owen, mae angen i’r system fod yn briodol i bob fferm, beth bynnag eu maint.
"Nid rhywbeth i’r ffermydd mawr yn unig yw hwn, mae’n rhaid iddo fod yn addas i bawb. Os na fyddai, ni fyddai’n gwneud llawer o wahaniaeth i ansawdd dŵr cyffredinol.”
Mae slyri yn cynnig maeth i’r glaswellt ond yn llygru afonydd a llynnoedd felly bydd lleihau ei gyfaint wrth gynhyrchu gwrtaith o ansawdd uchel yn lleihau’r risgiau cysylltiedig â storio a rheoli maeth ar ffermydd yng Nghymru, meddai Dewi Hughes, Rheolwr Datblygu Technegol Cyswllt Ffermio.
"Mae galw am y math hwn o dechnoleg,” meddai.
"Mae Cyswllt Ffermio yn edrych ymlaen at weithio gyda Gelli Aur wrth gyfleu canlyniadau'r prosiect hwn i'r diwydiant fel y gall ffermwyr wneud penderfyniadau gwybodus i weld a yw'n addas ar gyfer eu ffermydd a'u systemau.''
Hefyd, gall ffermwyr ddysgu mwy am reoli maeth drwy ddigwyddiadau a phrosiectau eraill Cyswllt Ffermio.
Mae cyngor technegol drwy’r Gwasanaeth Cynghori yn cael ei ariannu 100% ar gyfer grwpiau neu 80% ar sail un i un.
Hefyd mae cyfle i ffermwyr fanteisio ar gyllid Partneriaeth Arloesi Ewrop (EIP Wales). Mae hyd at £40,000 ar gael i ffermwyr ddod ynghyd i ddarganfod datrysiadau technegol i gynyddu cynhyrchiant neu effeithlonrwydd adnoddau.
Darparwyd cyllid ar gyfer y prosiect gan Raglen Datblygu Gwledig Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru 2014-2020.