07 Mai 2025

Mae menter Casglu Eich Hun (PYO), sy’n tyfu pwmpenni ar 1.5 erw o dir, wedi bod yn un broffidiol i newydd-ddyfodiad i’r byd ffermio, yn ôl arbrawf gan raglen Cyswllt Ffermio.

Mae Laura Pollock a Matt Brooks yn ffermio Lower House Farm, sef fferm 114 erw islaw Bryniau Coed Gwent yn ardal Llanfair Disgoed yn Sir Fynwy. Prif fentrau’r fferm yw magu lloi a chynhyrchu cig oen. 

Arallgyfeiriodd y pâr i dyfu pwmpenni yn 2024, gan dyfu tua 2,500. Maen nhw bellach yn eu hail flwyddyn o weithio mewn partneriaeth â rhaglen Cyswllt Ffermio ar gyfer treialon yn ymwneud â chynhyrchion garddwriaethol. Eleni, fe fyddan nhw’n ehangu tymor y fenter PYO trwy dyfu blodau haul.

Fe wnaeth yr arbrawf gymharu gwahanol ffyrdd o luosogi, gan dreialu amrywiaeth o wahanol fathau o blanhigion, gan gynnwys gwrdiau (squash). Fe wnaethon nhw hefyd ystyried gwerth elfennau twristaidd ychwanegol sy’n cynhyrchu refeniw ar gyfer y diwrnodau PYO agored, gan gynnwys cyfleusterau arlwyo.

Canfyddiad amlwg o’r arbrawf oedd pa mor broffidiol y gall y math hwn o arallgyfeirio fod.
Llwyddodd Laura a Matt i wneud £17,330 o elw o’u pwmpenni a’r profiadau ychwanegol i ymwelwyr.

Gwreiddiwyd y pwmpenni gan ddefnyddio hadau a phlanhigion plwg.

Er bod yr hadau yn llawer rhatach na phrynu planhigion ifanc, roedd y plygiau’n fwy dibynadwy wrth wreiddio, yn enwedig yn y misoedd cyntaf. Roedd y plygiau hefyd yn gallu gwrthsefyll cyfnodau sych yn well, ac yn cael eu heffeithio llai gan y tywydd a’r chwyn o’u cymharu â’r hadau.

Yn ôl Hannah Norman, Swyddog y Sector Garddwriaeth gyda rhaglen Cyswllt Ffermio, chwyn oedd y brif broblem yn ystod y treial, yn enwedig ysgall a oedd yn bygwth yn gyflym rai o’r planhigion llai a gafodd eu drilio’n uniongyrchol i’r ddaear.

Roedd hyn yn ffactor yn y penderfyniad i gynaeafu’r pwmpenni o’r cae cyn i’r busnes agor i’r cyhoedd, gan fod yr ysgall yn ei gwneud hi’n anodd cael mynediad i’r cae.

Roedd y ddaear hefyd yn wlyb iawn ac roedd rhai o’r pwmpenni wedi dechrau pydru (collwyd tua 200). 

Cafodd y pwmpenni a gynaeafwyd eu hailgyflwyno i’r cae ar ôl i hwnnw gael ei dopio. Mae hon yn broses sy’n cymryd llawer o amser ac yn ddwys o ran llafur.  

Agorodd Laura a Matt y fferm i’r cyhoedd am 12 diwrnod dros gyfnod o dair wythnos o 12 Hydref, gan dderbyn archebion ar gyfer slotiau amser pwrpasol trwy system ar-lein. Y tâl mynediad oedd £9 y car. Cynhyrchodd y cyfleusterau arlwyo incwm o werthu bwyd. 

Roedd y fenter mor llwyddiannus yn ariannol fel bod y pâr bellach am ei gwneud yn rhan sefydlog o’u model busnes yn y dyfodol.

Ymhlith y gwersi a ddysgwyd oedd bod angen llogi peiriannau neu gontractwr i sefydlu’r cnwd, gan fod gwneud hyn â llaw yn cymryd llawer o amser. 

Daethpwyd i’r casgliad hefyd y byddai system chwistrellu yn fwy addas na dibynnu ar bibell ddŵr i ddyfrhau.

Eleni, bydd y pwmpenni yn cael eu plannu mewn blociau o wahanol fathau. Bydd yno hefyd lwybrau yn y cae fel y gall ymwelwyr a thractorau eu defnyddio. Bydd hyn yn gwneud y gwaith o reoli’r cae yn haws.

Bydd planhigion yn cael eu sefydlu mewn hen wely hadau i leihau chwyn.

Dywed Hannah fod y rhan fwyaf o’r mathau o bwmpenni a ddefnyddiwyd yn y treial wedi tyfu’n dda ac roedd y cynnig amrywiol yn boblogaidd gydag ymwelwyr. 

“Y mathau mwy anarferol a diddorol oedd fwyaf poblogaidd,” meddai.

Roedd codi tâl fesul car ac yna ar wahân am y pwmpenni yn rhoi opsiynau i ymwelwyr yn dibynnu ar fforddiadwyedd, ychwanegodd.

“Roedd codi tâl fesul car yn sicrhau incwm i Laura a Matt, a doedd dim pwysau ar ymwelwyr i brynu pwmpenni unwaith roedden nhw ar y fferm.

“Roedd digon o weithgareddau am ddim a chyfleoedd i dynnu lluniau ar gael i ymwelwyr, a daeth gwerth ychwanegol yr arlwyo ag incwm ychwanegol.”

Wrth i dymor tyfu 2025 ddechrau, mae Lower House Farm yn gweithio gyda rhaglen Cyswllt Ffermio i edrych ar fenter arall. Mae rhan o’r fferm wedi’i neilltuo i gynhyrchu blodau haul i ymestyn tymor y fenter PYO ac i gynnig yr opsiwn o werthu blodau wedi’u torri. 

Bydd yr arbrawf yn edrych ar addasrwydd gwahanol fathau o flodau haul, ac yn ystyried a yw’r blodau hyn yn cynhyrchu elw ar fuddsoddiad sy’n ddigon da i sefydlu’r fenter fel un flynyddol ar y fferm.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Academi Amaeth 2025 yn dod i ben gydag enillwyr yr her yn derbyn gwobrau
24 Tachwedd 2025 Mae unigolion uchelgeisiol y mae eu dyfodol yn
Pam mae dwysedd porfeydd yn hanfodol ar gyfer tros-hau llwyddiannus
14 Tachwedd 2025 Mae tros-hau porfeydd gyda chymysgedd aml
Dechrau Ffermio: Cyfleoedd ar gyfer lleoliad gwaith ledled Cymru!
13 Tachwedd 2025 Mae Cyswllt Ffermio yn cynnig cyfleoedd ar gyfer