04 Rhagfyr 2023

 

Gallai amser pesgi ŵyn gael ei leihau’n sylweddol ar fferm da byw ym Mhowys yr hydref hwn ar ôl sefydlu gwndwn meillion coch a gwyn yn y cylchdro pori.

Mae Fferm Awel y Grug ger Y Trallwng, fferm sy’n rhan o rwydwaith ‘Ein Ffermydd’ Cyswllt Ffermio, yn awyddus i leihau faint o borthiant a brynir ac a ddefnyddir yn y mentrau defaid a gwartheg sugno, er mwyn lleihau costau cynhyrchu a gwella safonau amgylcheddol.

Mae rhwydwaith ‘Ein Ffermydd’ Cyswllt Ffermio yn cynnwys 15 fferm ledled Cymru sy’n cynnal arbrofion a phrosiectau sy’n canolbwyntio ar arloesi a defnyddio technolegau newydd i’w helpu nhw a ffermydd eraill yng Nghymru i gyrraedd sero net erbyn 2050, ac i wella gwytnwch a chynaliadwyedd mewn hinsawdd sy’n newid.

Fel un o’u prosiectau ‘Ein Ffermydd’, mae’r tad a’r mab Glyn a Chris Davies wedi plannu meillion coch a rhygwellt ar 12 erw o’u fferm ucheldir 320 erw, ac wedi plannu meillion gwyn a rhygwellt ar chwe erw, er mwyn cymharu perfformiad.

Mae meillion yn sefydlogi swm sylweddol o nitrogen, gan gynyddu gwerth porthiant a dyfir ar y fferm yn sylweddol, yn ogystal â chynnig cyfle i leihau’r angen i ddefnyddio gwrtaith.

Mae’r ymgynghorydd amaethyddol, James Holloway, wedi darparu arweiniad arbenigol ar gyfer y prosiect, gan ddewis y cymysgeddau hadau a darparu cynllun Rheoli Maethynnau’r Pridd.

Sefydlwyd y gwndwn ym mis Awst 2023 gyda chyngor gan James o ran sefydlu a rheoli.

Mae ŵyn Texel x Miwl wedi bod yn pori ar system gylchdro yn ystod yr hydref i annog y gwndwn i dyfu yn ystod camau cychwynnol y prosiect. 

Mae meillion yn cael ei dreialu gyda’r nod o alluogi’r teulu Davies i gyrraedd sero net yn eu busnes, gan y byddai lleihau nifer y dyddiau cyn lladd yn lleihau lefelau allyriadau nwyon tŷ gwydr o’r ddiadell.

Mae gwella iechyd y pridd yn nod arall gan fod dosbarthiad gwreiddiau meillion yn lleihau cywasgiad, ac felly’n gwella strwythur ac iechyd y pridd, ymdreiddiad dŵr, ac yn lleihau dŵr ffo.

Mae ymestyn y tymor pori drwy gyflwyno system bori cylchdro hefyd yn nod ar y fferm, a fydd yn gwella’r gallu i ddal a storio carbon ar Fferm Awel y Grug.

A thrwy leihau dibyniaeth ar fwyd a brynir i mewn, y gobaith yw y bydd ôl troed carbon y fferm gyfan hefyd yn lleihau.

Bydd Cyswllt Ffermio yn casglu data i weld pa mor dda y mae’r defaid yn perfformio ar y meillion, a bydd y data hwn yn cael ei rannu gyda ffermwyr yn ystod diwrnod agored ar y fferm yn 2024.

Yn ystod y flwyddyn nesaf, mae Chris yn gobeithio cael tri thoriad silwair o’r gwndwn meillion coch a dau doriad o’r meillion gwyn gyda’r nod o leihau ei ddefnydd o ddwysfwyd ar gyfer y ddiadell.

Bydd yr arbenigwr defaid annibynnol, Kate Phillips, yn dadansoddi’r silwair ac yn cynghori Chris ynghylch sut y gallai leihau ei ddefnydd o ddwysfwyd drwy ei ychwanegu i’r diet, gan hefyd sicrhau’r maeth gorau posibl i’r mamogiaid cyn ŵyna.

Mae hi wedi bod yn dadansoddi samplau o borthiant ar Fferm Awel y Grug yn ystod yr hydref hwn ac yn llunio dognau ar gyfer cadw’r stoc dan do dros y gaeaf. 

Mae Owain Pugh, swyddog sector cig coch Cyswllt Ffermio ar gyfer Canolbarth Cymru, yn goruchwylio’r prosiect Ein Ffermydd.

“Mae mewnbwn Owain wedi bod yn werthfawr iawn. Mae wedi ein hysgogi gyda’i frwdfrydedd a’i wybodaeth, ac o ganlyniad, mae ein busnes yn dod yn fwy effeithlon  a chynaliadwy,” meddai Chris.

Mae Chris yn hyderus y bydd y meillion coch yn gallu darparu ffynhonnell gynaliadwy o brotein o ansawdd uchel i’r stoc, ac o ganlyniad, mae’n bwriadu tyfu 10 erw ychwanegol y flwyddyn nesaf.

Dywed Owain ei bod hi’n bwysicach nag erioed erbyn hyn i ffermwyr dyfu cymaint o brotein â phosibl ar y fferm.

“Mae dibynnu ar brynu protein ar ffurf dwysfwyd neu flawd yn golygu bod busnesau fferm yn agored i fygythiad o farchnad amrywiol a chyfnewidiol,” meddai.

Ystyrir bod meillion coch yn “ddewis ardderchog” ar gyfer hyn, meddai. “Mae’n bosibl i 70% o’r protein mewn glaswellt gael ei golli yn y rwmen, ond mae’r lefel uchel o brotein anniraddawy mewn meillion coch yn golygu bod da byw yn gallu gwneud gwell defnydd o’r protein hwnnw, gan wella effeithlonrwydd.’’

Bydd gwella effeithlonrwydd yn allweddol wrth symud ymlaen, meddai Owain, i helpu busnesau ffermio da byw i ffynnu gan hefyd gyflawni sero net ac amcanion eraill yn ymwneud â Rheoli Tir yn y Gynaliadwy. 

“Gyda’r arbrofion ar fferm Awel y Grug a phob fferm sy’n rhan o rwydwaith ‘Ein Ffermydd’ Cyswllt Ffermio, ein nod yw casglu data y gall ffermwyr yng Nghymru ei ddefnyddio i’w helpu i gyrraedd eu targedau.’’

Gall pob ffermwr sydd wedi cofrestru gyda Cyswllt Ffermio ymgeisio am gyngor a mewnbwn tebyg gan James a Kate a chynghorwyr eraill.

“Gall Kate a chynghorwyr eraill lunio dognau syml, ac mae’r gwasanaeth hwn wedi’i ariannu’n llawn drwy ein Cymorthfeydd un i un,’’ meddai Owain.

Yn yr un modd, gellir derbyn cyllid o hyd at 90% trwy Wasanaeth Cynghori Cyswllt Ffermio tuag at gyngor gan James a chynghorwyr eraill yn ymwneud â dethol cymysgeddau hadau a sefydlu a rheoli gwyndonnydd newydd, neu Gynlluniau Rheoli Maethynnau’r Pridd.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Arbrawf llaeth yn edrych ar iechyd lloi ar fferm laeth yn Sir Benfro
25 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yn Sir Benfro sy’n lloia yn y
Sut mae dod yn ystadegyn damweiniau wedi gwneud ffermwr yn bencampwr iechyd a diogelwch fferm
23 Ebrill 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites
Fferm Rhyd Y Gofaint yn treialu defnyddio meillion gwyn i leihau costau gwrtaith a hybu cynhyrchiant
18 Ebrill 2024 Mae Deryl a Frances Jones o fferm Rhyd Y Gofaint