8 Gorffennaf 2019

 

royal welsh show y sioe frenhinol 0
Pwyslais Cyswllt Ffermio yn y Sioe Frenhinol eleni (22-25 Gorffennaf, Llanelwedd) fydd dangos y gefnogaeth, cyfarwyddyd, hyfforddiant a mentora sydd ar gael i ffermwyr a choedwigwyr yng Nghymru trwy ei raglen ‘siop un stop’ amlochrog unigryw.  Gyda’r rhan fwyaf o’r gwasanaethau naill ai wedi eu hariannu’n llawn neu gyda chymhorthdal o hyd at 80%, mae hwn yn gyfle y mae dros 10,000 o fusnesau wedi cael budd ohono.

O ystyried yr ansicrwydd economaidd a gwleidyddol presennol, mae Eirwen Williams, cyfarwyddwr rhaglenni gwledig gyda Menter a Busnes, sy'n darparu Cyswllt Ffermio gyda Lantra Cymru ar ran Llywodraeth Cymru, yn dweud na fu amser pwysicach erioed i’r diwydiant, perchenogion busnes yn arbennig, baratoi ar gyfer y dyfodol a sicrhau bod pob busnes yn cyflawni ei botensial ar draws pob maes. 

“Yn y Sioe Frenhinol eleni, byddwn yn lansio enwau a lleoliadau’r rhwydwaith o fusnesau a recriwtiwyd fel safleoedd arddangos. 

“Rydym yn gobeithio y byddwch yn dod i’n gweld yn Adeilad Lantra (Rhes K) lle bydd ein timau technegol a’n swyddogion datblygu rhanbarthol yn ceisio cael ymateb y diwydiant wrth i ni gynllunio’r rownd nesaf o dreialon a phrosiectau ar gyfer y rhwydwaith arddangos fel rhan o’r cylch cyflwyno tair blynedd. 

“Profwch heddiw y gwahanol systemau y gallwch eu gweithredu yn hyderus a gwybodus yfory” fydd ein mantra wrth i ni gynllunio rhaglen gynhwysfawr o ddyddiau agored a digwyddiadau i sicrhau bod y diwydiant yn dysgu oddi wrth yr ymchwil mwyaf cyfredol, y dechnoleg fwyaf blaengar a ffyrdd arloesol, mwy effeithlon a phroffidiol o weithio,” dywedodd Mrs Williams.

Os oes gennych unrhyw awgrymiadau ar sut y gall amaethyddiaeth gyfrannu at darged Llywodraeth Cymru o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, a barn am y ‘pethau gorau’ yn y Gymru wledig, dylech roi eich amser i ymweld â Bwth Amaeth Cyswllt Ffermio, yn adeilad Lantra hefyd.  Mae’n rhan o gynllun ‘Iaith y pridd’ Cyswllt Ffermio sy’n annog busnesau Cymru i ychwanegu gwerth at eu cynnyrch trwy ddefnyddio’r iaith a’r dreftadaeth Gymreig, mae’n gyfle i chi roi eich barn i helpu i siapio’r gwasanaethau Cymraeg a roddir i’r diwydiant yn y dyfodol. 

Bydd cyfle i chi ‘gyfarfod mentor’ bob dydd yn y sioe am 2.30pm, ac mae Cyswllt Ffermio yn gobeithio y bydd hyn yn eich annog i ymgeisio am hyd at 22.5 awr o gefnogaeth annibynnol wedi ei hariannu yn llawn ar unrhyw sialensiau penodol neu bryderon all fod gennych.  Ewch i wefan Cyswllt Ffermio i ddysgu rhagor am y cynllun poblogaidd hwn. 

Bydd y stondin yn cynnwys taflenni gwybodaeth, podlediadau a fideos a fydd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am amrediad o faterion, yn ogystal â llyfrynnau am iechyd a diogelwch ar y fferm. 

“Yn anffodus, mae gan amaethyddiaeth nifer uwch o ddamweiniau yn y gweithle na bron unrhyw sector arall. Rydym yn eich annog i ddod i’r stondin a chymryd un o’n llyfrynnau defnyddiol. Hyd yn oed os mai dim ond un o aelodau eich teulu fydd yn darllen ac yn cymryd rhai camau syml, byddwch wedi helpu i leihau’r risg o ddamwain ar y fferm.  Yn ogystal, efallai y bydd teuluoedd yn dymuno troi at y 'gornel blant' boblogaidd, lle y cynhelir cystadlaethau dyddiol er mwyn helpu plant i adnabod safleoedd peryglus posibl ar ffermydd,” dywedodd Mrs Williams.

Darperir Cyswllt Ffermio gan Menter a Busnes a Lantra Cymru ac fe'i ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru. 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Cymorth i Dyfwyr a Ffermwyr yng Ngŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad
13 Mai 2024 Mae Gŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad ar Faes Sioe Frenhinol
Arbrawf tyfu cnau yn edrych ar hyfywedd cynhyrchu cnau Ffrengig yng Nghymru
08 Mai 2024 Mae cwpwl o Sir Gâr yn arbrofi gyda thyfu cnau ar eu
Bydd modiwlau newydd Cyswllt Ffermio yn helpu ffermwyr i drosglwyddo i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy
30 Ebrill 2024 Mae Cyswllt Ffermio wedi lansio set newydd o