19 Gorffennaf 2019

 

Mae Cyswllt Ffermio wedi cyhoeddi enwau’r 36 ymgeisydd llwyddiannus sydd wedi’u dewis i gymryd rhan yn yr Academi Amaeth eleni sef rhaglen datblygu bersonol blaengar y prosiect.

Yn dilyn proses ddethol fanwl, dywedodd y panel o feirniaid, dan arweiniad yr Athro Wynne Jones, eu bod wedi derbyn nifer sylweddol o geisiadau, oedd yn cynrychioli trawstoriad eang o sectorau ffermio a bywyd cefn gwlad yng Nghymru. 

“Mae ychydig o dan 50% o’r ceisiadau gan fenywod, sy’n argoeli’n dda ar gyfer y dyfodol, gyda chynifer o fenywod yn gweithio mewn amaeth ac yn helpu i yrru’r diwydiant yn ei flaen,” meddai Einir Davies, Rheolwr Datblygu a Mentora ar gyfer Menter a Busnes sy’n darparu Cyswllt Ffermio ac a sefydlodd yr Academi Amaeth yn 2012.

Mae’r panel dethol eleni’n cynnwys Llŷr Jones, sydd newydd ei benodi’n Arweinydd rhaglen Busnes ac Arloesedd yr Academi Amaeth. Mae Llŷr yn ffermio yn Derwydd ger Corwen ac yn cadw Bîff, Defaid a Dofednod. Mae hefyd yn berchennog rhannol Blodyn Aur sy’n gwerthu 6,000 o boteli o olew had rêp y mis i Asda, Sainsbury’s a Morrisons. Cymerodd ran yn rhaglen Busnes ac Arloesedd yr Academi Amaeth yn 2013 ac mae'n edrych ymlaen at hwyluso’r broses dethol ymgeiswyr eleni.

Mae ymgeiswyr llwyddiannus eleni yn cynnwys ffermwyr; milfeddygon; darlithydd coleg; genetegwyr; arbenigwyr cyfathrebu a chaffael; a myfyrwyr a’u diddordebau’n cynnwys pêl-droed i dreialon cŵn defaid a moch i ddofednod.  Ar y cyd, byddant yn codi nifer yr aelodau i 236 ers i’r rhaglen gael ei lansio 7 mlynedd yn ôl. 

I gyn-aelodau, mae’r rhaglen ddwys o fentora, hyfforddiant a theithiau astudio wedi rhoi hyder iddynt a chyflwyno rhwydweithiau newydd sydd wedi’u helpu i gyflawni eu huchelgeisiau personol a chreu cyfleoedd busnes newydd.

“Mae llawer mwy, sydd eisoes wedi cyflawni eu nod o ran gyrfa cyn ymuno â’r Academi, yn cydnabod bod y profiad yn gyfle unigryw i ddatblygu hyd yn oed ymhellach a chyflawni eu huchelgeisiau personol eu hunain,” meddai Aled Rhys Jones, Arweinydd Rhaglen yr Ifanc yr Academi Amaeth Iau sydd hefyd yn un o Gyn-aelodau’r Academi Amaeth.

Mae’r Academi Amaeth yn cynnwys tair rhaglen benodol. Eleni, ceir 12 ymgeisydd ar y rhaglen Busnes ac Arloesedd; 12 ymgeisydd ar y rhaglen Arweinyddiaeth Wledig, sy’n fenter ar y cyd gyda Chymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru a 12 ymgeisydd ar Raglen yr Ifanc, sy’n fenter ar y cyd gyda CFfI Cymru.

Wrth longyfarch ‘Dosbarth 2019’, meddai Aled,

“Cydnabyddir yr Academi Amaeth yn eang gan nifer o gyflogwyr nid yn unig fel ychwanegiad gwerthfawr ar CV ond cydnabyddir hefyd ei fod yn rhoi hwb i hyder ymgeiswyr ac yn eu hannog i osod nod uchelgeisiol.

“Bob blwyddyn, rydym yn gweld cyn-aelodau’n ymgymryd â swyddi lle gallan nhw gyfrannu cymaint tuag at wneud amaethyddiaeth yng Nghymru’n gynaliadwy, yn broffidiol ac yn gadarn.

“Maen nhw’n llysgenhadon gwych ar gyfer yr Academi Amaeth ac yn dangos gwerth datblygiad proffesiynol parhaus.” 

Mae Academi Amaeth Cyswllt Ffermio, sy’n cael ei ddarparu gan Fenter a Busnes a’i ariannu gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig, yn cynnig rhaglen lawn o fentora, cefnogaeth a hyfforddiant a ddarperir gan rai o arweinwyr a phobl fusnes mwyaf llwyddiannus y diwydiant. 

Bydd y tair rhaglen yn cynnwys taith astudio, gydag ymgeiswyr y rhaglen Arweinyddiaeth Wledig yn ymweld â phencadlys Sefydliad Masnach y Byd yng Ngenefa; bydd ymgeiswyr y rhaglen Busnes ac Arloesedd yn ymweld â busnesau amaethyddol mwyaf arloesol yr Iseldiroedd; tra bydd ymgeiswyr Rhaglen yr Ifanc yn cymharu gwahanol systemau ffermio yng Ngwlad yr Ia yn ystod hanner tymor yr hydref.

 

Yn fyr - dyma beth sydd gan dri o ymgeiswyr eleni i’w ddweud:

 

Rhys Beynon-Thomas,  Rhaglen Arweinyddiaeth Wledig

rhys 0
Ers ei fod yn ifanc iawn roedd Rhys Beynon-Thomas o Bontarddulais, sy’n filfeddyg anifeiliaid fferm ac yn ffermwr rhan amser, â’i olygon ar yrfa’n gweithio gydag anifeiliaid fferm. Mae Rhys, sy’n gweithio i filfeddygfa yn Sir Gaerfyrddin, yn optimistaidd y bydd yr hinsawdd wleidyddol ansicr presennol yn arwain at gyfleoedd newydd.

“Credaf y bydd mwy o gyfleoedd i gynhyrchu bwyd o ansawdd da gan fod safonau amaeth ac iechyd a lles anifeiliaid mor uchel yng Nghymru.

“Hoffwn roi rhywbeth yn ôl i’r diwydiant a gobeithio y bydd bod yn rhan o’r Academi Amaeth yn rhoi i mi’r hyder i fod yn llefarydd dros faterion a fydd, yn fy marn i, yn sicrhau bod ffermydd Cymru’n dal i wneud eu marc mewn marchnad gystadleuol.”

 

Heledd Mair Jones, Rhaglen Busnes ac Arloesedd

heledd 0
Mae Heledd Mair Jones a’i phartner yn denantiaid fferm ger Dolgellau.   Enillodd Heledd radd Gwyddor Anifeiliaid o Brifysgol Aberystwyth ac mae'n cyfuno ei chwrs Meistr yn yr un pwnc ochr yn ochr â’i swydd bresennol yn gweithio i un o gyflenwyr amaethyddol blaenllaw Cymru.

“Credaf y bydd yr Academi Amaeth yn agor y drws i syniadau newydd ac edrychaf ymlaen at gael cyngor a chymorth parod nid yn unig gan yr arbenigwyr a’r bobl fusnes y byddaf yn eu cyfarfod ond hefyd gan bobl uchelgeisiol o’r un anian â ni sydd mewn sefyllfa debyg i ni, sydd eisiau dechrau eu busnes ffermio cynaliadwy a phroffidiol eu hunain.”

 

Ifan Prys Thomas,  Rhaglen yr Ifanc

ifan 0
Mae’r ffermwr ifanc Ifan Thomas, sy’n fyfyriwr amaethyddol yng Ngholeg Llysfasi, yn byw gartref ar fferm eidion a defaid y teulu ym Mhontrug, Caernarfon.

“Rwy’n gobeithio y bydd fy mhrofiad fel rhan o Raglen yr Ifanc yr Academi Amaeth yn fy nghyflwyno i ffermwyr ifanc o’r un anian â mi, sydd eisiau ennill bywoliaeth dda yn y diwydiant amaeth, er gwaetha’r anawsterau sy’n wynebu llawer.

 

I weld holl ymgeiswyr yr Academi Amaeth eleni, cliciwch yma.

Mae Cyswllt Ffermio, sy’n cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra, yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Cymorth i Dyfwyr a Ffermwyr yng Ngŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad
13 Mai 2024 Mae Gŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad ar Faes Sioe Frenhinol
Arbrawf tyfu cnau yn edrych ar hyfywedd cynhyrchu cnau Ffrengig yng Nghymru
08 Mai 2024 Mae cwpwl o Sir Gâr yn arbrofi gyda thyfu cnau ar eu
Bydd modiwlau newydd Cyswllt Ffermio yn helpu ffermwyr i drosglwyddo i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy
30 Ebrill 2024 Mae Cyswllt Ffermio wedi lansio set newydd o