10 Gorffennaf 2018

 

Mae Cyswllt Ffermio wedi cyhoeddi enwau’r 36 ymgeisydd llwyddiannus sydd wedi’u dewis i gymryd rhan yn yr Academi Amaeth eleni sef rhaglen datblygu bersonol blaengar y prosiect.

Yn dilyn proses ddethol manwl, cafodd y panel o feirniaid ei arwain gan yr Athro Wynne Jones OBE FRAgS unwaith eto a ddywedodd eu bod wedi cael eu syfrdanu gan safon uchel yr ymgeiswyr eleni sy’n cynrychioli nifer o sectorau ffermio a bywyd cefn gwlad yng Nghymru.

“Am y tro cyntaf, roedd 55% o’r ceisiadau gan fenywod, sy’n argoeli’n dda ar gyfer dyfodol ein diwydiant gyda chynifer o fenywod mewn amaeth bellach yn ffynnu mewn proffiliau mwy amlwg a blaenllaw,” dywedodd yr Athro Wynne.

Mewn cam nodedig arall ar gyfer yr Academi Amaeth, roedd ei gyd-feirniaid eleni yn gyn-aelodau o’r Academi Amaeth. Roedd y panel dethol yn cynnwys Llyr Jones, cyfarwyddwr y cwmni olew had rêp Blodyn Aur ac Ysgolhaig Nuffield a pheiriannydd llaeth Tom Allison, dau sydd bellach yn rhedeg eu busnesau eu hunain ar lefel rhyngwladol, yn ogystal ag Angela Evans, merch fferm o Geredigion a Chadeirydd Is-bwyllgor Rhyngwladol CFfI Cymru.

Mae ymgeiswyr llwyddiannus eleni yn cynnwys ffermwyr; Meddyg Teulu mewn ardal wledig; economydd; cyfreithwyr; nifer o werthwyr tir posib a myfyrwyr gyda’i diddordebau’n amrywio o bêl droed i gerddoriaeth ac o foch i ddofednod. Ar y cyd, byddant yn codi nifer yr alumni i 200 ers lansiad y rhaglen yn 2012.

I nifer o gyn-aelodau, mae’r rhaglen ddwys o fentora, hyfforddiant a theithiau astudio wedi rhoi hyder iddynt a chyflwyno rhwydweithiau newydd sydd wedi’u helpu i gyflawni eu huchelgeisiau personol a chreu cyfleoedd busnes newydd.

“Mae sawl un a oedd eisoes wedi cyflawni eu nodau gyrfa cyn ymuno â’r Academi, yn cydnabod bod y profiad yn darparu cyfle unigryw i ddatblygu ymhellach,” dywedodd yr Athro Wynne.

Mae’r Academi Amaeth yn cynnwys tair rhaglen benodol. Eleni, ceir 12 ymgeisydd ar y rhaglen Busnes ac Arloesedd; 12 ymgeisydd ar y rhaglen Arweinyddiaeth Wledig, sy’n fenter ar y cyd gyda Chymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru a 12 ymgeisydd ar Raglen yr Ifanc, sy’n fenter ar y cyd gyda CFfI Cymru.

 

Wrth longyfarch ‘Dosbarth 2018’, dywedodd yr Athro Wynne,

“Cydnabyddir yr Academi Amaeth yn eang gan nifer o gyflogwyr fel ychwanegiad gwerthfawr ar CV. Bob blwyddyn, rydym yn gweld mwy o gyn-aelodau’n ymgymryd â rolau pwysig a dylanwadol, gan wneud cymaint o gyfraniad personol tuag at wneud amaethyddiaeth yng Nghymru’n gynaliadwy, yn broffidiol ac yn wydn, sy’n hollbwysig wrth i ni ddod wyneb yn wyneb ag ansicrwydd Brexit.

“Rydych yn llysgenhadon gwych ar gyfer yr Academi Amaeth ac yn dangos gwerth datblygiad proffesiynol parhaus.”

Mae Academi Amaeth Cyswllt Ffermio, sy’n cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a’i ariannu gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig, yn cynnig rhaglen lawn o fentora, cefnogaeth a hyfforddiant a ddarperir gan rai o brif ffigyrau a phersonoliaethau’r diwydiant.

Bydd y tair rhaglen yn cynnwys taith astudio, gydag ymgeiswyr y rhaglen Arweinyddiaeth Wledig yn ymweld â’r Senedd Ewropeaidd ym Mrwsel a Senedd y DU yn Llundain; ymgeiswyr y rhaglen Busnes ac Arloesedd yn ymweld rhai o fusnesau amaethyddol mwyaf arloesol Gwlad yr Iâ; a bydd ymgeiswyr Rhaglen yr Ifanc yn trefnu taith astudio eu hunain a fydd yn cymryd lle yn ystod hanner tymor yr hydref.

 

Dyfyniadau rhanbarthol

 

eilir hughes 2 1
Dr Eilir Hughes, Pwllheli - RHAGLEN ARWEINYDDIAETH WLEDIG

Magwyd Dr Eilir Hughes ar fferm laeth ger Pwllheli cyn cwblhau ei addysg uwch ym Mhrifysgolion Bangor, Abertawe a Chaerdydd lle bu’n astudio seicoleg a meddygaeth.

Dychwelodd i fan ei eni yn 2017 fel Meddyg Teulu ac mae nawr yn gweithio dros ddau safle i gynnig gwasanaeth iechyd cymunedol i 4,500 o gleifion mewn ardal wledig iawn.

Yr un mor angerddol am ofalu am anghenion meddygol ei gleifion a diogelu dyfodol y fferm deuluol, mae Dr Hughes yn gobeithio y bydd bod yn rhan o Raglen Arweinyddiaeth Wledig yr Academi Amaeth yn ei gyflwyno i rwydwaith ehangach o weithwyr proffesiynol a chynghorwyr amaethyddol.

“Credaf y byddaf yn magu hyder yn fy ngallu i arwain a chyfrannu at fywyd yn y rhan hon o Gymru os byddaf yn manteisio ar gyfleoedd fel y rhai hynny a gynigir gan yr Academi Amaeth.”

 

robert evans 2 0
Robert Evans, Aberaeron – RHAGLEN BUSNES AC ARLOESEDD

Yn 2013, ar ôl treulio amser yn rheoli fferm deuluol 500 erw ar rent a nifer o ymweliadau dramor gyda’i waith, penderfynodd Robert a’i wraig fynd ar eu trywydd eu hunain a phrynu eu fferm eu hunain ym Merthlwyd.

Mae’n rheoli uned fagu ar gyfer 90 o loi o 90 a 30 o anifeiliaid cyfnewid Hereford a Friesian croes sy’n cael eu gwerthu yn y farchnad. Mae Robert yn mwynhau gwneud gwaith ar ran QWFC Cyf fel asesydd fferm er mwyn cefnogi aelodau i gyrraedd safonau yn rhan o achrediad FAWL.

Yn ogystal â chynhyrchu incwm da i’w deulu, mae Robert yn awyddus i gyflwyno arloesedd a syniadau newydd i’r busnes presennol.

“Yn aml iawn, mae ffermwyr yn cymryd y prisiau yn hytrach na gosod y prisiau yn, ac mae hynny’n sialens go iawn i’r busnes ac i’r diwydiant cyfan.

“Rwy’n gobeithio dysgu sut y gallaf gyfrannu at yr agenda hwn trwy Raglen Busnes ac Arloesedd yr Academi Amaeth, ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr iawn at ddysgu rhagor yn ystod y daith astudio yng Ngwlad yr Iâ.”

 

tabitha anthony 2 0
Tabitha Anthony, Pen-y-bont - RHAGLEN YR IFANC

Mae Tabitha Anthony, sy’n astudio ei lefel A ar hyn o bryd, yn ferch fferm pedwaredd genhedlaeth a fagwyd ar fferm fynydd y teulu ger Pen-y-bont. Mae ganddi ddiddordeb brwd mewn gwleidyddiaeth ac amaeth, ac mae’n benderfynol o ennill cymaint o brofiad gwaith â phosibl ochr yn ochr â’i hastudiaethau academaidd. Mae’n ffyddiog y bydd bod yn rhan o Raglen yr Ifanc yr Academi Amaeth yn ychwanegu at ei CV yn ogystal â’i chyflwyno i rwydweithiau newydd a fydd yn ei helpu i gyflawni ei nodau personol.  

“Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at fod yn rhan o’r Academi Amaeth ac rwy’n credu y bydd o gymorth i mi wrth ddatblygu fy mhrofiad yn y diwydiant ac ym myd busnes a fydd o werth mawr i mi wrth weithio tuag at fy nod o sicrhau gyrfa wleidyddol.”


Related Newyddion a Digwyddiadau

Arbrawf tyfu cnau yn edrych ar hyfywedd cynhyrchu cnau Ffrengig yng Nghymru
08 Mai 2024 Mae cwpwl o Sir Gâr yn arbrofi gyda thyfu cnau ar eu
Bydd modiwlau newydd Cyswllt Ffermio yn helpu ffermwyr i drosglwyddo i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy
30 Ebrill 2024 Mae Cyswllt Ffermio wedi lansio set newydd o
Arbrawf llaeth yn edrych ar iechyd lloi ar fferm laeth yn Sir Benfro
25 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yn Sir Benfro sy’n lloia yn y