Mae Partneriaeth Arloesi Ewrop yng Nghymru (EIP Wales), sydd yn cael ei redeg gan Menter a Busnes, wedi awdurdodi wyth prosiect ers derbyn y cytundeb gan Lywodraeth Cymru.

Gyda hyd at £40,000 o gyllideb i bob prosiect (uchafswm o 45 prosiect), mae EIP Wales yn annog pobl i ddod at ei gilydd i ddatrys problemau amaethyddol a choedwigaeth cyffredin gan ddefnyddio technoleg newydd a chynaliadwy.

Bwriad yr wyth prosiect unigryw ac arloesol sydd wedi cael eu hawdurdodi hyd yn hyn yw mynd i’r afael ag amrywiaeth o faterion o fewn y sector amaethyddol a choedwigaeth yng Nghymru:

Amcan prosiect clwyf tatws yw defnyddio’r ymchwil diweddaraf i helpu datblygu plaladdwr naturiol, effeithiol a chost-isel i atal clefyd tatws gan ddefnyddio cemegyn (Saponin) sy’n deillio o eiddew.

Mae’r grŵp cig eidion Mynyddoedd Cambria yn defnyddio arbenigwyr technegol perthnasol er mwyn ehangu’r adnoddau sydd ar gael i gynhyrchwyr mewn cymunedau gwledig. Y bwriad yw canfod anghenion busnes ffermio o ran marchnata cynnyrch yn uniongyrchol er mwyn sicrhau cadwyn gyflenwi fer ar gyfer y tymor hir, cyn mynd i’r afael â nhw.

Mae porfa i beillwyr yn archwilio sut mae adnoddau porthiant ar ffermydd godro yn medru cael eu rheoli er mwyn diogelu a chynyddu poblogaeth gwenyn a pheillwyr eraill. Amcan y prosiect yw cynyddu nifer ac amrywiaeth o blanhigion bwyd, a’r cyfnod maen nhw yn eu blodau yn ogystal â chynyddu cynhyrchiant a pherfformiad ariannol ffermydd.

Lleihau gwrthfiotigau yn ystod ŵyna - Mae’r prosiect hwn yn datblygu gwaith ymchwil ar sut mae newidiadau mewn rheoli diadell trwy wella maeth a glanweithdra yn medru lleihau’r angen am wrthfiotigau. Bydd cynhyrchiant yn cynyddu trwy gynnal safon uchel o iechyd a lles yr anifail.

Peiriannau effaith isel mewn coetiroedd fferm ar raddfa fechan - Y bwriad yw dangos manteision perthnasol y gwahanol fathau o reoli trwy geisio amlygu’r ffyrdd mwyaf addas o leihau’r amharu ar yr amgylchedd.

Cynhyrchu Serenyn (Squill) yng Ngogledd Cymru - Mae Serenyn (Urginea maritima) yn cael ei ddefnyddio mewn nifer o foddion peswch ac yn tyfu’n wyllt yn India a Gogledd Affrica yn draddodiadol. Y bwriad yw ceisio deall anghenion y planhigyn gan gynnwys agronomeg, cynaeafu a thechnegau echdynnu a’r gost o dyfu’r planhigyn yng Nghymru.

Chwynwr robotig mewn garddwriaeth ar raddfa fechan - Amcan y prosiect y canfod beth yw’r arbedion o ran costau llafur ac amser o ddefnyddio chwynwr cyfrifiadurol rhwng y rhesi mewn systemau garddwriaeth sydd wedi ei rheoli’n organig ar raddfa fach.

Profion genomig ar heffrod godro - Nod y prosiect tair blynedd hwn yw gwneud y mwyaf o’r cyfle i wneud prawf genomig ar heffrod er mwyn cyflymu cyfnod magu buches odro. Mae’r wyth fferm wedi rhestru’r nodweddion maen nhw’n bwriadu eu gwella yn eu buchesi a bydd y gwelliant yn rhain yn cael eu hasesu dros 3 cyfnod llaetha.

Mae Menter a Busnes yn gobeithio awdurdodi nifer o brosiectau eraill yn y dyfodol agos ac yn gobeithio cyrraedd y targed o 45 prosiect erbyn 2022 gyda sawl cais prosiect yn y broses ymgeisio ar hyn o bryd.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Bydd modiwlau newydd Cyswllt Ffermio yn helpu ffermwyr i drosglwyddo i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy
30 Ebrill 2024 Mae Cyswllt Ffermio wedi lansio set newydd o
Arbrawf llaeth yn edrych ar iechyd lloi ar fferm laeth yn Sir Benfro
25 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yn Sir Benfro sy’n lloia yn y
Sut mae dod yn ystadegyn damweiniau wedi gwneud ffermwr yn bencampwr iechyd a diogelwch fferm
23 Ebrill 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites