14 Hydref 2020

 

Mae Cyswllt Ffermio yn eich gwahodd i ychwanegu gwerth i’ch busnes, buddsoddi yn eich dyfodol, bod yn rhan o’ch stori lwyddiannus drwy gyfres o weminarau.

 

20/10/2020, 11:00- Tai coed: Ein profiad o arallgyfeirio

Bydd Laura Lewis yn ymuno â Cyswllt Ffermio i rannu ei phrofiad hi a’i theulu o arallgyfeirio a chreu busnes llwyddiannus Squirrel’s Nest.

 

20/10/2020, 15:00- A yw arallgyfeirio i’r farchnad briodasau yn opsiwn ar gyfer eich busnes?

Mae gan Kelly Chandler flynyddoedd o brofiad yn y diwydiant priodasau. Mae hi wedi gweithio gyda nifer o fusnesau gwledig i ychwanegu rhagor o incwm, boed hynny’n lansio lleoliad newydd ar gyfer priodasau neu addasu’r hyn sydd eisoes yn cael ei gynnig o fewn y sector priodasau.

 

20/10/2020, 20:00- Sut lwyddodd un busnes arallgyfeirio i ddod yn enwog ar draws y byd!

Bydd Sean Taylor, perchennog Zip World yn ymuno ag wythnos rithwir Arloesi ac Arallgyfeirio Cyswllt Ffermio. Bydd Sean yn cyflwyno gweminar awr o hyd yn amlinellu’r hyn sy’n gwneud Zip World yn atyniad twristiaid mor llwyddiannus ac enwog ar draws y byd.

 

21/10/2020, 10:30- Arloesi ym maes Garddwriaeth (Tatws/Moron a llysiau coesynnog)

Bydd Grace Choto yn trafod prosiect Best4soil rhwydwaith EIP-AGRI Horizon 2020 yr UE. Nod y prosiect yw gwella iechyd y pridd ar draws Ewrop drwy hyrwyddo pedwar o’r arferion gorau ar gyfer rheoli’r pridd a chylchdroi cnydau. Mae AHDB yn chwarae rhan ‘hwyluso’ er mwyn cyfathrebu canlyniadau’r prosiect a thannu adnoddau gyda ffermwyr a thyfwyr. Yn ystod y cyflwyniad, bydd Grace yn canolbwyntio ar gronfa ddata nematod Best4soil.

 

21/10/2020, 14:00- "Rhyngrwyd y Pethau ar ffermydd Cymru: Gwneud y broses o reoli ffermydd yn haws, yn well ac yn fwy proffidiol."

Yn ystod y weminar hon a gynhelir ar ffurf gweithdy, bydd mynychwyr yn: Mwynhau gweithdy anffurfiol wedi’i dargedu ar gyfer ffermwyr sy’n newydd i gysyniad gosodiadau “Rhyngrwyd y Pethau” ar ffermydd, cael eu hannog i rwydweithio ac i rannu syniadau a phrofiadau, clywed gan ddau gwmni sy’n arwain y ffordd yn y sector Technoleg Amaethyddol yng nghyd-destun technoleg Rhyngrwyd y Pethau, trafod syniadau ymarferol ynglŷn â sut y byddai modd defnyddio synwyryddion Rhyngrwyd y Pethau er budd ffermwyr yng Nghymru, dysgu sut i gael mynediad at byrth LoRaWAN Cyswllt Ffermio a osodwyd ar 18 o safleoedd o fewn y rhwydwaith arddangos.

 

21/10/2020, 20:00- Beth yw rôl technoleg Rhyngrwyd y Pethau mewn Amaethyddiaeth?

Yn ystod y weminar hon gyda’r nos, bydd Peter Williams yn trafod y dechnoleg LoRaWAN a bydd Dr Stephen Christie yn trafod Agxio, gwasanaeth data newydd ar gyfer busnesau amaethyddol.

 

22/10/2020, 10:30- Mapio’r Pridd yn Fanwl Gywir ar fferm Pantyderi

Bydd y weminar hon yn cyflwyno canlyniadau’r broses o fapio 60 hectar (ha) o dir âr a 40ha o laswelltir ar safle arddangos Pantyderi.

 

22/10/2020, 15:30- Gwerthu ar lein

Gweminar fachog awr o hyd yn trafod popeth sydd angen i chi ei wybod ynglŷn â gwerthu ar-lein ynghyd â dulliau i hyrwyddo eich gwefan.

 

22/10/2020, 20:00- Crynodeb o’r adroddiad ffermio arloesol

Ar ddiwedd cyfres o weminarau fel rhan o’r Wythnos Arloesi ac Arallgyfeirio, bydd Jonathan Birnie yn ymuno â Cyswllt Ffermio i roi crynodeb o’r adroddiad arloesi mewn ffermio a gynhyrchwyd ganddo.

 

Mae Cyswllt Ffermio, sy’n cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra, yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Bod yn aelod o grŵp trafod yn helpu fferm deuluol i ddefnyddio syniadau newydd
12 Rhagfyr 2024 Mae cynhyrchydd bîff pedigri ar raddfa fach yn
Gwaith samplo Cyswllt Ffermio yn amlygu cyfleoedd i wella iechyd pridd ar ffermydd Cymru
11 Rhagfyr 2024 Mae adroddiad gan Cyswllt Ffermio ar briddoedd
Sut mae anwybyddu clefydau heintus yn gallu arwain at broblemau sylweddol mewn diadelloedd yng Nghymru
29 Tachwedd 2024 Mae ffermwyr defaid yng Nghymru yn cael eu