cabinet secretary for environment and rural affairs and carwyn rees 1 1

Yn ystod ei chyfarfod gydag ymgeiswyr Academi Amaeth Cyswllt Ffermio eleni mewn derbyniad ar ddiwrnod cyntaf y Ffair Aeaf, cyhoeddodd Lesley Griffiths Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig mai’r syrfëwr siartredig Carwyn Rees (26), ffermwr llaeth yn wreiddiol o Lanymddyfri, sy’n gweithio yn Sir Benfro yn awr, oedd enillydd her Busnes ac Arloesedd yr Academi Amaeth y bu cystadlu brwd amdani.

Her eleni i’r grŵp o 11 o unigolion oedd llunio cynllun rheoli busnes pum mlynedd ar gyfer y teulu Hughes ar eu fferm ddefaid a bîff 25 hectar ar Ynys Môn i sicrhau bod y fferm yn cynnig dyfodol hyfyw a chynaliadwy i’r ferch, Branwen. 

Yn dilyn ymweliad y grŵp â’r fferm ym Medi 2016, y syniad buddugol gan Carwyn i ddatblygu ffynhonnell incwm newydd ar y fferm ym Miwmares, sydd â dynodiad ‘Ardal o Brydferthwch Eithriadol’, oedd ystyried dichonolrwydd troi adeiladau defaid nad oedd yn cael eu defnyddio yn llawn yn 20 uned llety ‘byncws’.  Cafodd y syniad groeso mawr gan y teulu.

Yn fuan ar ôl derbyn ei wobr gan yr Ysgrifennydd Cabinet, dywedodd Carwyn.

“Mae gan Ynys Môn lwybr arfordir 125 milltir anhygoel ac mae’r rhan fwyaf o’r ynys yn ‘Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol’.  Mae yno 27 o draethau rhagorol a thraethau bach creigiog gan gynnwys chwe Thraeth Baner Las a Marina Baner Las ac mae’r rhain i gyd o fewn cyrraedd rhwydd i Fiwmares. 

“Oherwydd lleoliad y teulu Hughes, credaf y byddai datblygiad o’r math hwn yn cynnig llety fforddiadwy ac apelgar i ystod eang o ymwelwyr gan gynnwys syrffwyr, cerddwyr, beicwyr a llawer o rai eraill a allai ddewis aros yng nghanol cefn gwlad yn hytrach na chyrchfan dwristaidd fwy poblog. 

“Mae Branwen yn syrffwraig alluog ac yn hoff iawn o chwaraeon dŵr, felly gobeithio, os gwnaiff y syniad hwn ddwyn ffrwyth yn y blynyddoedd i ddod, y bydd yn gallu manteisio ar greu hyd yn oed mwy o gyfleoedd i ddatblygu’r busnes yn y dyfodol. 

“Rhoddodd yr Academi Amaeth lwyfan ffantastig i’n grŵp ddysgu rhagor am y diwydiant ac fe ddysgais gymaint o’n taith astudio i Copenhagen gyda’r thema o gymharu arloesedd yn y diwydiant bwyd a diod yng Nghymru a Denmark.  Dangosodd y Daniaid bod arnoch angen hyder i dderbyn arloesedd, i fod yn barod i dreialu dulliau newydd o weithio, gan gael eich arwain gan y farchnad bob amser gan roi’r tarddiad a’r ansawdd gorau y mae eich cwsmeriaid yn eu disgwyl neu eu hangen.”

“Credaf fod yr athroniaeth hon yn un y bydd angen i’r holl ffermwyr yng Nghymru ei derbyn, ac rwyf yn gobeithio yn fawr y bydd y teulu Hughes yn gweld ei fod yn ddull sy’n talu ar ei ganfed yn y dyfodol.”  

“Nid yn unig mae fy amser yn yr Academi Amaeth wedi rhoi gwell dealltwriaeth i mi o’r sialensiau sy’n wynebu’r diwydiannau bwyd a diod yn arbennig yn y cyfnod hwn ar ôl Brexit, ond gyda’n sgiliau, profiadau a chysylltiadau newydd, rwy’n siŵr y bydd yr holl fyfyrwyr Academi Amaeth yn parhau i ddylanwadu ar yr agenda gwledig er budd y diwydiant a Chymru.”  


Related Newyddion a Digwyddiadau

Bydd modiwlau newydd Cyswllt Ffermio yn helpu ffermwyr i drosglwyddo i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy
30 Ebrill 2024 Mae Cyswllt Ffermio wedi lansio set newydd o
Arbrawf llaeth yn edrych ar iechyd lloi ar fferm laeth yn Sir Benfro
25 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yn Sir Benfro sy’n lloia yn y
Sut mae dod yn ystadegyn damweiniau wedi gwneud ffermwr yn bencampwr iechyd a diogelwch fferm
23 Ebrill 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites