15 Chwefror 2023

 

Mae data newydd sy’n codi o astudiaeth yn ymwneud â diadelloedd defaid yng Nghymru yn dangos ei bod hi’n hynod bosibl gostwng y nifer o famogiaid sydd angen eu trin am lyngyr adeg wyna yn sylweddol.

Mae astudiaeth a ariannwyd gan Bartneriaeth Arloesi Ewrop (EIP) yng Nghymru ac sy’n cynnwys pump o ffermydd defaid masnachol ar hyd a lled Cymru, yn amlwg yn cysylltu baich llyngyr uwch mewn mamogiaid cyn ac ar ôl wyna, a elwir yn gyffredin fel y cynnydd y gwanwyn, gyda chyflwr corff isel a straen maethol.

Gan ddefnyddio’r wybodaeth honno, a gafwyd o gymryd samplau o garthion i gyfri nifer yr wyau larfa (FEC) chwe wythnos cyn wyna a chwe wythnos ar ôl wyna, a gan roi sylw agos i ddeietau mamogiaid gan ddadansoddi porthiant i sicrhau nad oedd y mamogiaid wedi eu tan-fwydo, gallai’r ffermwyr yn yr astudiaeth roi triniaeth llyngyr i’r nifer lleiaf posibl. 

Dywedodd yr arbenigwr prosiect ac ymgynghorydd defaid annibynnol Lesley Stubbings bod y prosiect wedi dangos nad yw’n angenrheidiol rhoi triniaeth yn gyffredinol i famogiaid – mae’n debygol bod oddeutu 80% o’r wyau larfa ar y borfa wedi eu gollwng gan gyn lleied â 20% o’r mamogiaid.

“Mae’n rhaid i ni holi pam yr ydym yn rhoi triniaeth llyngyr adeg wyna,” dywedodd Ms Stubbings wrth ffermwyr oedd mewn digwyddiad diweddar yn Aberystwyth gan EIP yng Nghymru a Cyswllt Ffermio.

“Mae syniad yn bodoli mai’r rheswm dros wneud hyn yw ei fod yn gwneud daioni i’r famog. Dyma’r syniad y mae’n rhaid i ni ymbellhau oddi wrtho. Yr hyn sydd angen ei wneud mewn gwirionedd yw gostwng y nifer o wyau larfa y mae’r mamogiaid yn eu gollwng ar y borfa yn eu baw, a fydd wedyn yn dod yn her i ŵyn yn nes ymlaen yn y tymor.”  

Mae trin llyngyr adeg wyna wedi ymwreiddio’n ddwfn yn arferion y diwydiant, cyfaddefodd.

“Wrth gael eu magu ar ffermydd, dyma ddysgodd y ffermwyr i’w wneud, ond mae’r prosiect hwn wedi dangos nad oes angen gwneud hynny’n aml iawn, a bod imiwnedd mamog rhag llyngyr yn ymwneud lawer mwy â’r effaith arni pan fydd ei maethiad o dan y pwysau mwyaf.” 

Mae gan famogiaid iach imiwnedd i lyngyr erbyn y byddent yn 12-18 mis oed, ac eithrio’r llyngyr Barber, meddai Ms Stubbings.

“Maen nhw’n dal i lyncu wyau larfa ond mae ganddyn nhw berthynas iach â nhw oherwydd maen nhw’n gadael i rai ohonynt oroesi ac yn dewis pa rai sy’n cael aros yn eu perfeddion a pha rai i gael gwared ohonynt.”

Mae’r system imiwnedd honno’n gweithio’n dda nes bydd y famog o dan bwysau – yna mae’n gwanhau a bydd yn cynhyrchu lefelau uchel o wyau ac yn cael gwared ohonynt yn ei baw. 

Un rheswm y mae ffermwyr yn rhoi triniaeth llyngyr i bob mamog yw bod angen iddynt reoli faint o wyau larfa sydd ar y borfa, ond nid dyma’r ffordd gywir o’u trin. 

Dywedodd Ms Stubbings bod data o’r astudiaeth EIP yn dangos yn glir nad oes angen rhoi triniaeth llyngyr i famog os nad yw o dan straen maethol, oherwydd mae samplau nifer yr wyau larfa mewn carthion a gymerwyd yn ystod yr astudiaeth yn dangos nad yw’n gollwng niferoedd mawr o wyau. 

Mae hyn yn wir am y mamogiaid teneuach hyd yn oed, meddai hi. “Y neges a roddwyd bob amser oedd bod rhaid i chi drin eich mamogiaid teneuach, ond mae’n ddigon posibl nad oes angen trochi mamog dim ond ei bod yn denau. Y gwasgbwynt maethol sy’n bwysig.”

Er enghraifft, ar nifer o’r ffermydd, cynyddodd nifer yr wyau larfa mewn carthion pan oedd mamogiaid yn brin o borfa.

Trwy fonitro’r sgôr cyflwr corff (BCS), gall ffermwyr weld pa famogiaid i’w trin, a gadael cyfran uwch heb eu trin. 

“O gyfuno hyn gyda monitro nifer yr wyau larfa mewn samplau o garthion, gallent hefyd ganfod yr amser cywir i roi triniaeth er mwyn cael yr effaith orau,” meddai Ms Stubbings.

Bydd canfyddiadau’r astudiaeth yn helpu ffermydd i arbed arian hefyd. 

“Mae elfen o gost i hyn. Os ydyn ni’n ceisio cadw costau o dan reolaeth, does dim pwynt rhoi triniaeth os nad oes raid i ni,” cynghorodd Ms Stubbings,

Ond y rheswm pwysicaf am beidio defnyddio triniaeth anthelmintig os nad oes ei angen yw er mwyn diogelu’r diadelloedd rhag datblygu ymwrthedd.

Mae’n rhaid adolygu’r polisi o ddefnyddio triniaeth llyngyr 2% moxidectin hirweithredol ar bob mamog yn gyffredinol, oherwydd yr effaith y gallai hynny ei gael ar ymwrthedd.  

Fodd bynnag, o ddefnyddio cynhyrchion gyda moxidectin fel cynhwysyn actif yn y ffordd gywir ar famogiaid, gallai ostwng y defnydd ar y ddiadell yn gyffredinol, awgryma Ally Ward o Zoetis, ac mae’n debyg y bydd nifer is o ŵyn angen triniaeth.

Yn ôl Ms Ward, nid yw’n syniad da i ddefnyddio moxidectin hirweithredol o flwyddyn i flwyddyn ar famogiaid mewn diadell adeg wyna, ac nid yw’n ddigon i’w gyfnewid bob hyn a hyn gyda grwpiau eraill o driniaeth llyngyr o fewn y tymor.  

“Os bydd mamogiaid yn cael eu trin gyda moxidectin hirweithredol, mae’n rhaid gadael rhai heb eu trin – 10% o leiaf a dim llai, ac mae’r prosiect hwn yn dangos bod y gyfran sydd angen triniaeth yn llawer is mewn llawer o achosion – ond os yw’n cael ei ddefnyddio i drin clafr, yna dylid trin popeth.”

Ni ddylid ei ddefnyddio fwy nag unwaith mewn blwyddyn, meddai. 

Anogodd Ms Ward y ffermwyr defaid i fesur y driniaeth yn gywir iawn wrth ei rhoi – gallant wneud hyn drwy bwyso’r anifeiliaid, sicrhau bod yr offer wedi ei raddnodi’n gywir a defnyddio’r arferion gorau.

Techion UK oedd yn monitro’r cyfrifiad wyau larfa mewn carthion ar gyfer astudiaeth EIP. Meddai ei reolwr cyffredinol Eurion Thomas: “Mae’r prosiect wedi dangos achos cryf dros ddefnyddio’r dull hwn.

“Mae monitro wyau larfa mewn carthion (FEC) yn gofyn mwy na dim ond edrych ar ŵyn yn yr haf. Mae dadl dros ddefnyddio’r dull i ganfod pa famogiaid i’w trin a phryd. Mae hyn yn newid o un fferm i’r llall ac o flwyddyn i flwyddyn.

“Os byddwch yn ei ddefnyddio i gael amseriad y dosio’n gywir, dydych chi ddim yn gwastraffu’r cynnyrch nac yn adeiladu ymwrthedd.” 

 

PANEL

Mae dadansoddi porthiant yn allweddol i sicrhau bod mamogiaid yn cael y lefel gywir o faeth.

Trwy gasglu’r wybodaeth hon, gall ffermwyr weithio allan pa gyfraniad o ddeiet y famog sy’n dod o borthiant, meddai Ms Stubbings. 

Dim ond y maint lleiaf o fwydydd cyfansawdd sydd ei angen os yw hi’n cael digon o faeth o borthiant.

Os bydd ffermwyr angen darparu dwysfwyd, dywedodd Ms Stubbings bod gwahaniaeth mawr rhwng y dwysfwyd sydd â’r ansawdd maethol gorau ar rheiny sydd heb.

“Gall bwydydd cyfansawdd rhad fod yn wirioneddol ofnadwy, felly wrth ddewis pa fwyd i’w ddefnyddio, gofynnwch bob amser i gael gweld y rhai o’r ansawdd gorau,” awgrymodd.
Ni ddylai’r cynnwys olew fod yn fwy na 4-5%. “Does dim angen olew ar anifeiliaid sy’n cnoi cil, felly dydy lefel sy’n uwch na 4-5% ddim yn angenrheidiol,” meddai Ms Stubbings.

Dylai lludw a ffibr fod yn llai na 10% ac mae’r protein crai sy’n ofynnol ar y famog yn dibynnnu ar gam y beichiogrwydd a’r cynnwys mewn porthiant. 

Cyngor Ms Stubbings oedd edrych ar y rhestr o gynhwysion – mae’r rhain wedi eu rhestru mewn trefn lle mae’r rhai sydd i’w cael yn y canrannau uchaf ar y top.

Er nad yw’r rhestr o gynhwysion ar y label yn nodi cyfraddau cynhwysiant, mae triogl yn faromedr da i ddangos lle mae pob un yn perthyn yn y rhestr am fod hwn yn bresennol fel arfer fel 5-6%.

“Bydd unrhyw beth sy’n uwch na hynny’n uwch na’r lefel triogl, ac unrhyw beth islaw hynny’n is,” meddai Ms Stubbings.

Osgowch borthiant gyda chynhwysion o ansawdd isel, fel porthiant ceirch a phelenni ceirch.

Awgrymodd Ms Stubbings bod y bwyd mewn bwcedi’n ffordd ddrud o ddarparu maeth – mae’r prisiau cyfredol yn gweithio allan yn fwy na 7 ceiniog/MJ o’i gymharu â bwyd cyfansawdd, sy’n 3.5-4 ceiniog.

“Cofiwch am beth rydych chi’n talu – am gyfleustra’r bwcedi. Does dim byd hudol o gwbl am fwcedi a blociau,” meddai Ms Stubbings.

“Os ydyn nhw’n angenrheidiol er mwyn cyfleustra, digon teg, ond mae’r gost am lawer ohonynt yn cyrraedd tua £1,000 neu fwy am dunnell. Felly, cofiwch faint maen nhw’n costio o’i gymharu â’r cyfraniad a wnânt.”


Related Newyddion a Digwyddiadau

Sut mae dod yn ystadegyn damweiniau wedi gwneud ffermwr yn bencampwr iechyd a diogelwch fferm
23 Ebrill 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites
Fferm Rhyd Y Gofaint yn treialu defnyddio meillion gwyn i leihau costau gwrtaith a hybu cynhyrchiant
18 Ebrill 2024 Mae Deryl a Frances Jones o fferm Rhyd Y Gofaint
Fferm laeth yr ucheldir yn treialu cymysgedd hadau gwndwn llysieuol sydd wedi'u sefydlu gyda hau yn uniongyrchol
16 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yr ucheldir yng Nghymru yn ceisio