15 Rhagfyr 2022
Mae ymchwil arloesol yng Nghymru i reoli chwyn heb gemegau yn ennyn diddordeb yn Ewrop.
Daliodd dwy astudiaeth Prosiect Arloesedd Ewropeaidd (EIP) Cymru ar chwynnu robotig a thrydanol ddiddordeb tîm ym Mhrifysgol Amaethyddol Athen sydd ar hyn o bryd yn arwain Oper8, prosiect cydweithredol amgen ar reoli chwyn.
O’r herwydd, mynychodd ymgynghorwyr ADAS Lynn Tatnell, Ellie Dearlove a Will John, oedd â rolau allweddol yn y prosiectau EIP Cymru hynny, gyfarfod lansio Oper8 yn Athen.
Dywedodd Mr John, ymgynghorydd amgylchedd, bwyd a ffermio yn ADAS, fod ffocws cynyddol ar faterion cynaliadwyedd a thystiolaeth o ymwrthedd i chwynladdwyr yn ysgogi penderfyniadau i edrych ar ystod o ddewisiadau amgen i blaladdwyr a dull mwy integredig o reoli plaladdwyr.
Gyda hynny mewn golwg, mae prosiect Oper8 wedi’i gynllunio i gefnogi a hyrwyddo datrysiadau ar gyfer rheoli chwyn heb fod yn gemegol trwy adeiladu ar y wybodaeth a’r canlyniadau a gynhyrchir gan Grwpiau Gweithredol EIP mewn gwahanol wledydd.
Fe’i cefnogir gan raglen gyllido Ewrop ar gyfer ymchwil ac arloesi, Horizon 21, a’i nod yw ehangu canlyniadau dau brosiect rheoli chwyn EIP Cymru ac eraill trwy rannu gwybodaeth a chydweithio â gwledydd Ewropeaidd eraill.
“Mae yna gynllun uchelgeisiol ar gyfer y dyfodol,” meddai Mr John. “Bydd ymgysylltu â ffermwyr, ymchwilwyr, llunwyr polisi a chynrychiolwyr y diwydiant dros y tair blynedd nesaf yn nodi’r angen ar lawr gwlad ac yn ystyried bylchau mewn gwybodaeth a rhwystrau i fabwysiadu dulliau amgen o reoli chwyn.”
Mae sefydliadau o lawer o wledydd Ewropeaidd, gan gynnwys Gwlad Roeg, Sbaen, yr Eidal, Latfia, Sweden a Ffrainc, hefyd yn cymryd rhan. Defnyddir amrywiaeth o daflenni ffeithiau, fideos, digwyddiadau arddangos a gweithdai i ledaenu’r wybodaeth a gasglwyd yn ystod y prosiect.
Bydd arddangosiadau ar y fferm, meddai Mr John, yn ymateb i anghenion penodol a galw manwl.
“Bydd ffermwyr arddangos yn rhannu eu profiadau gydag ymarferwyr eraill trwy wahanol ddigwyddiadau maes,” eglurodd.
Disgrifiodd Mr John Oper8 fel “cyfle gwych” i weithio gyda gwahanol wledydd sydd â heriau tebyg i’r rhai a brofir gan dyfwyr yng Nghymru.
Bydd cynlluniau gweithredu cenedlaethol sy’n seiliedig ar atebion a nodir gan brosiectau EIP yn cael eu datblygu a’u gwerthuso ar sail cost a budd sy’n berthnasol i bob gwlad.
Gall unrhyw un sydd â diddordeb mewn dysgu mwy am y prosiect neu gymryd rhan gysylltu â Mr John ar will.john@adas.co.uk.
Gellir dilyn y prosiect yma.
Mae’r EIP yng Nghymru, sy'n cael ei ddarparu gan Fenter a Busnes, wedi derbyn cyllid drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.