Gall ffermwyr a choedwigwyr sydd wedi cofrestru gyda’r rhaglen Cyswllt Ffermio newydd wneud cais ar lein am gymorth ariannol hyd at 80% ar gyfer cyrsiau hyfforddiant byr wedi'u hachredu sydd ar gael trwy'r rhaglen 'Buddsoddi mewn Sgiliau a Mentora', sef rhaglen dysgu a datblygiad gydol oes newydd Cyswllt Ffermio.

Bydd yr ail o dri chyfnod ymgeisio fydd ar gael ym Mlwyddyn 1 ar agor rhwng 1 Ebrill a 29 Ebrill 2016. Bydd y trydydd cyfnod, sef y cyfnod olaf eleni, ar gael rhwng 1 Mehefin a 30 Mehefin 2016.

Mae’r rhaglen newydd yn cael ei darparu gan Lantra Cymru ar ran Cyswllt Ffermio. Dywedodd Kevin Thomas, Cyfarwyddwr Lantra Cymru, bod diddordeb yn y rhaglen newydd wedi mynd tu hwnt i ddisgwyliadau’n barod gyda bron i 400 unigolyn wedi sicrhau lle ar un ai gyrsiau hyfforddiant trawsnewidiol, sy’n canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau busnes a rheolaeth, hyfforddiant technegol neu hyfforddiant yn ymwneud â defnyddio peiriannau ac offer.  Pwysleisiodd mai ar lein yn unig y gellir cyflwyno ffurflenni cais ar gyfer cymorth ariannol a bod proses syml i’w ddilyn yn y lle cyntaf. 

Mae’n rhaid i chi fod wedi cofrestru gyda'r rhaglen Cyswllt Ffermio ac wedi derbyn eich rhif cofrestru Cyswllt Ffermio unigol cyn y gallwch gwblhau eich Cynllun Datblygu Personol (PDP).

“Mae dros 600 unigolyn bellach wedi cofrestru ar gyfer Cynlluniau Datblygu Personol.   Bydd PDP yn rhoi man cychwyn i chi a fydd yn gosod lefel bresennol eich dealltwriaeth ac yn eich cynorthwyo i adnabod anghenion hyfforddiant ar gyfer y dyfodol, boed hynny ar sail tymor byr neu dymor hir, gan sicrhau bod eich datblygiad proffesiynol parhaus yn cael ei gofnodi a'i fesur," meddai Mr. Thomas.

Gall unrhyw un sydd angen cymorth i gwblhau eu Cynllun Datblygu Personol alw heibio i gyfres o weithdai a drefnwyd ledled Cymru – mae dyddiadau a lleoliadau ar gael ar y dudalen yma.

Bydd angen i unrhyw un sy’n bwriadu gwneud cais am gymorth ariannol i gwblhau cwrs yn ymwneud â defnyddio peiriannau neu offer gwblhau cwrs Iechyd a Diogelwch Cyswllt Ffermio cyn ymgeisio.

Mae rhestr o gyrsiau hyfforddiant achrededig Cyswllt Ffermio ynghyd â darparwyr hyfforddiant sydd wedi’u cymeradwyo, gwybodaeth ynglŷn â'r amrywiaeth newydd o gyrsiau e-ddysgu, ac arweiniad ynglŷn â chwblhau Cynllun Datblygu Personol ar gael ar dudalen Hyfforddiant ein gwefan. Bydd yr ail gyfnod ymgeisio yn agor ar y 1af o Ebrill.  

Bydd angen i unrhyw un sy’n bwriadu ymgeisio ar gyfer hyfforddiant siarad gyda'r darparwr hyfforddiant a ddewiswyd ganddynt gyntaf, er mwyn derbyn y costau cywir ar gyfer y cwrs, gan fod angen eu cynnwys ar y ffurflen gais.

Gallwch hefyd ddod o hyd i fwy o wybodaeth ynglŷn â'r rhaglen newydd a sut all fod o fudd i chi, yn ogystal â manylion cyswllt eich swyddog datblygu Cyswllt Ffermio lleol fydd yn gallu rhoi'r gefnogaeth a'r arweiniad sydd arnoch ei angen drwy bori'r wefan hon.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Cymorth i Dyfwyr a Ffermwyr yng Ngŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad
13 Mai 2024 Mae Gŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad ar Faes Sioe Frenhinol
Arbrawf tyfu cnau yn edrych ar hyfywedd cynhyrchu cnau Ffrengig yng Nghymru
08 Mai 2024 Mae cwpwl o Sir Gâr yn arbrofi gyda thyfu cnau ar eu
Bydd modiwlau newydd Cyswllt Ffermio yn helpu ffermwyr i drosglwyddo i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy
30 Ebrill 2024 Mae Cyswllt Ffermio wedi lansio set newydd o