15 Gorffennaf 2020

 

Llwyddodd Cyswllt Ffermio i ddenu bron i 30,000 o wylwyr ar ei lwyfannau cyfryngau cymdeithasol a’r wefan wrth i ymgyrch flynyddol Merched mewn Amaeth y rhaglen fynd ar-lein am y tro cyntaf y mis diwethaf.   

Y thema ar gyfer eleni oedd ‘Arwain newid’, ac roedd y cyfuniad o weminarau grŵp, cymorthfeydd un i un dros y ffôn, cyflwyniadau fideo a sesiynau holi ac ateb yn fformat llwyddiannus ar gyfer rhaglen eleni o weithgareddau a digwyddiadau ‘o bell’. Daeth merched at ei gilydd i gymryd seibiant o’r gwaith ffermio, gweithio, gofalu am blant ac addysgu yn y cartref, a’r ymrwymiadau eraill a ddaw yn sgil Covid-19. 

Roedd y pynciau'n amrywio o les meddyliol i ddatblygiad personol ac o gynllunio olyniaeth i iechyd anifeiliaid ac arallgyfeirio, gan ddenu sylwadau, safbwyntiau a barn gan ferched nid yn unig ledled Cymru a'r DU ond hyd yn oed Dubai!

Dywed Eirwen Williams, cyfarwyddwr rhaglenni gwledig gyda Menter a Busnes, sy’n darparu Cyswllt Ffermio ar ran Llywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig, fod y lefelau syfrdanol o ymgysylltiad ar-lein yn arwain y ffordd ar gyfer cynyddu’r ystod o wasanaethau ar-lein a ddarperir gan Cyswllt Ffermio.

“Rydym ni wedi bod yn ehangu ar ein hystod o wasanaethau ar-lein, digidol a dros y ffôn ers dechrau’r cyfyngiadau Covid-19, a arweiniodd at ohirio pob un o’n digwyddiadau torfol dros dro.

"Er na chafodd y rhai a gymerodd ran yn nigwyddiad Merched mewn Amaeth eleni gyfle i rwydweithio wyneb i wyneb, sydd bob amser yn rhan gymdeithasol iawn o’r diwrnod, drwy newid fformat a hyd yr ymgyrch, rydym wedi gallu estyn allan ac ysbrydoli miloedd yn fwy o unigolion a ymunodd ar-lein," meddai Mrs Williams.

Un o sêr yr wythnos oedd Anna Truesdale, merch ifanc amlwg a dylanwadol ar y cyfryngau cymdeithasol, sy’n ffermio gyda'i theulu yn County Down.  Llwyddodd Anna i ddenu adborth gadarnhaol iawn ar ei chyflwyniad fideo cyntaf, gan arwain at bron i 4,000 yn gwylio ei gweminar, a oedd yn cynnwys cyngor ynglŷn â chreu cynnwys diddorol, tynnu lluniau da a denu dilynwyr ar y cyfryngau cymdeithasol.  

“Y gyfrinach ar gyfer llwyddo ar y cyfryngau cymdeithasol yw dechrau arni,” meddai Anna. 

"Camwch yn ôl, ailfeddyliwch a symudwch eich busnes yn ei flaen!" Llwyddodd un o fentoriaid Cyswllt Ffermio, Lilwen Joynson, i daro tant gyda nifer o fynychwyr pan fu’n trafod pwysigrwydd datblygiad personol, a sut mae angen i bob un ohonom gymryd cyfrifoldeb dros ein iechyd meddwl er mwyn gwella ein hyder a’n lles. 

"Addaswch i newid, dysgwch y gwersi, daliwch ati." Mae Julie a Keri Davies yn ffermio yn Nyffryn Crai ac maen nhw wedi arallgyfeirio i redeg busnes twristiaeth mewn ardal anghysbell a phrydferth iawn yng Nghanolbarth Cymru. Soniodd y pâr yn gwbl onest sut y gwnaethon nhw ailafael yn eu busnes ar ôl digwyddiad erchyll a dod yn ôl yn gryfach.

“Dechreuwch y sgwrs, dydi hi byth yn rhy fuan."  Bu Siân Bushell, mentor Cyswllt Ffermio yn annog teuluoedd i fynd i’r afael â’r pwnc anodd o gynllunio olyniaeth yn gynt yn hytrach nag yn hwyrach -  sy’n aml meddai yn rhy hwyr!  “Dylai pob busnes gynllunio ar gyfer y dyfodol!”   

Cafwyd neges debyg ynglŷn â phwysigrwydd ‘siarad yn agored a gofyn cwestiynau anodd’ gan yr arbenigwr hyfforddiant iechyd meddwl, Emma Picton-Jones o Sir Benfro, a sefydlodd fudiad gwirfoddol adnabyddus DPJ Foundation er cof am ei gŵr, Dan, ffermwr ifanc a gymerodd ei fywyd ei hun yn 2016. 

“Arallgyfeirio, iechyd anifeiliaid, marchnata a chynllunio busnes - fe wnaethom ni lwyddo i ddod â rhai o arbenigwyr blaenllaw Cymru ar ystod o wahanol bynciau pwysig ynghyd, ar gyfer ein cyfres o gymorthfeydd cyfrinachol dros y ffôn ac fel rhan o’r digwyddiadau grŵp ar-lein.

“Mae lefel yr ymgysylltiad, y cwestiynau a’r sylwadau gan gymaint o ferched a gymerodd ran yn argoeli’n dda ar gyfer dyfodol amaethyddiaeth yng Nghymru,” meddai Mrs Williams.  

DS Os wnaethoch chi fethu unrhyw un o'r cyflwyniadau eleni, neu os hoffech glywed y geiriau doeth hynny eto, gallwch eu gwylio eto yma.

Mae Cyswllt Ffermio, sy’n cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra, yn cael ei gyllido drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Fferm laeth yr ucheldir yn treialu cymysgedd hadau gwndwn llysieuol sydd wedi'u sefydlu gyda hau yn uniongyrchol
16 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yr ucheldir yng Nghymru yn ceisio
Ffermwr llaeth sy’n manteisio ar ‘Gyllid Arbrofi’ yn ceisio gwella bioleg y pridd
15 Ebrill 2024 Mae ffermwr llaeth yn cyflwyno cannoedd o
Newidiadau i’r Isafswm Cyflog Amaethyddol yng Nghymru o 1 Ebrill 2024
10 Mawrth 2024 Mae gan bob gweithiwr amaethyddol, garddwriaethol