Ieithydd o Gymru sy’n gallu cynnal sgwrs trwy gyfrwng Sbaeneg, Tsieinëeg neu Rwsieg, nifer o ddarpar stiwardiaid tir a milfeddygon, nyrs, llond llaw o gyfreithwyr a chyfrifwyr, a nifer o fyfyrwyr! Yr hyn sy’n gyffredin rhwng pob un o’r rhain yw eu bod hefyd yn ymwneud â ffermio neu faterion gwledig yng Nghymru, ac mae pob un ohonynt wedi cael eu dewis i gymryd rhan yn rhaglen Academi Amaeth clodfawr Cyswllt Ffermio ar gyfer 2017.
Bydd Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig yn cwrdd â’r 40 ymgeisydd llwyddiannus mewn seremoni arbennig yn Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru am 12.30yp dydd Mawrth, 25 Gorffennaf a gynhelir yn arddangosfa Lab Amaeth Cyswllt Ffermio (Llawr cyntaf, Adeilad y Defaid, Rhodfa M).
Mae gan yr Academi Amaeth, sydd bellach yn ei phumed blwyddyn, dros 165 o gyn aelodau, ac mae nifer ohonynt yn rhoi clod i’r rhaglen ddwys o fentora, hyfforddiant a theithiau astudio am roi'r hyder a'r rhwydweithiau newydd iddynt sy'n eu cynorthwyo i gyflawni eu dyheadau personol a chreu cyfleoedd busnes newydd.
Mae’r Academi Amaeth yn cynnwys tair rhaglen benodol. Eleni, ceir 14 ymgeisydd ar y rhaglen Busnes ac Arloesedd, 12 ar y rhaglen Arweinyddiaeth Wledig, sy’n fenter ar y cyd gyda Chymdeithas Amaethyddol Frenhinol, a 14 ar Raglen yr Ifanc, sy’n fenter ar y cyd gyda mudiad CFfI Cymru.
Dywedodd yr Athro Wynne Jones OBE FRAgS, a fu’n cadeirio’r panel dethol ar gyfer y tair rhaglen, ei fod ef a’i gyd-feirniaid wedi cael tasg anodd iawn i ddethol ymgeiswyr eleni, ac unwaith eto, roedd safon y ceisiadau yn uchel iawn.
Wrth longyfarch ‘Dosbarth 2017,’ dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet,
“Mae’r Academi Amaeth, a lansiwyd gan Cyswllt Ffermio yn 2012, yn sicr yn mynd o nerth i nerth bob blwyddyn diolch i lwyddiannau ac amlygrwydd cynyddol cymaint o ffermwyr, coedwigwyr a phobl fusnes sydd wedi bod yn rhan o’r rhaglen datblygu personol arloesol hon.
“Mae nifer o gyn aelodau’r Academi bellach yn gwneud cyfraniad gwerthfawr i’r diwydiant amaeth yng Nghymru a thu hwnt. Rwy’n hynod falch o weld nifer o bobl ifanc yn cael eu cynrychioli ar lwyfannau amaethyddol dylanwadol, lle bo modd iddynt wneud cymaint o gyfraniad personol tuag at wneud amaethyddiaeth yng Nghymru’n gynaliadwy, yn broffidiol ac yn wydn. Maent yn llysgenhadon gwych ar gyfer yr Academi Amaeth ac yn dangos gwerth datblygiad proffesiynol parhaus.
“Fel pob blwyddyn, roedd ein panel o feirniaid annibynnol yn chwilio am ymgeiswyr brwdfrydig, gydag ymrwymiad a ffocws. Yn bennaf oll, maent wedi dewis unigolion y maent yn teimlo sy’n dangos potensial i wneud y cyfraniad mwyaf i ffyniant y diwydiant ffermio a chymunedau gwledig yng Nghymru at y dyfodol, a chyflawni eu potensial fel arweinwyr gwledig ac entrepreneuriaid,” meddai Ysgrifennydd y Cabinet.
Yn sgil hynny, bydd yr ymgeiswyr a ddewiswyd yn cychwyn ar raglen ddwys o fentora, cefnogaeth a hyfforddiant yn fuan a ddarperir gan rai o brif ffigyrau a phersonoliaethau’r diwydiant. Ac am y tro cyntaf eleni, bydd pob un o’r tair rhaglen yn cynnwys taith dramor, gydag ymgeiswyr Arweinyddiaeth Wledig yn ymweld â’r Senedd Ewropeaidd ym Mrwsel, ymgeiswyr Busnes ac Arloesedd yn ymweld â rhai o fusnesau amaeth mwyaf arloesol y Swistir, a bydd Rhaglen yr Ifanc yn cymharu gwahanol systemau ffermio yn Iwerddon.
Dyfyniadau rhanbarthol
Mae Awel Mai, cyfreithiwr gwledig o’r Trallwng, a fagwyd ar fferm bîff a defaid yng Nghorwen, yn falch iawn o gael ei dewis ar gyfer y rhaglen Arweinyddiaeth Wledig, ac mae’n teimlo y bydd yn cynnig cyfle unigryw iddi ynghyd â manteision hirdymor.
“Drwy fod yn rhan o raglen Arweinyddiaeth Wledig yr Academi Amaeth, gobeithio y byddaf yn cael cyflwyniad i rwydwaith ehangach o weithwyr proffesiynol a chynghorwyr amaethyddol. Gyda’n gilydd, gallwn geisio sicrhau bod y diwydiant amaeth yn gwrthsefyll yr adegau anodd ac ansicr sydd i ddod a sicrhau dyfodol ffyniannus ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol,” meddai Awel Mai.
Gyda’i ddiddordeb brwd mewn amaethyddiaeth a’i awydd i sefydlu gyrfa o fewn y diwydiant, mae’r ffermwr bîff a defaid, Huw Jones, yn awyddus i ehangu ar ei fenter fferm bresennol yn Aberhonddu trwy ganfod ffrydiau incwm newydd sy’n gysylltiedig â thwristiaeth ac arallgyfeirio’r busnes. Mae Huw yn credu y bydd cael ei ddewis ar gyfer rhaglen Busnes ac Arloesedd eleni’n ei gyflwyno i fentoriaid a fydd yn gallu cynorthwyo i roi ffocws i’w syniadau a’i helpu i gyflawni ei nodau.
“Rwy’n frwdfrydig ynglŷn â phob agwedd o ffermio, ac rwyf wedi gwerthfawrogi pob cyfle i deithio i wledydd eraill i ddysgu. Ar ôl 2020, bydd y diwydiant yn wynebu ansicrwydd, ond trwy fod yn arloesol, credaf y gall y dyfodol fod yn ffyniannus i bawb. Rwy’n awyddus i ymgymryd â heriau newydd ac atgyfnerthu’r trefniadau olyniaeth ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol ar ein fferm deuluol,” meddai Huw.
Mae Laura Evans o Langwyryfon, Ceredigion, wedi cael ei dewis ar gyfer Rhaglen yr Ifanc, ac mae newydd gwblhau ei hastudiaethau chweched dosbarth yn Ysgol Gyfun Penweddig, Aberystwyth. Mae wedi ymgeisio am le ym Mhrifysgol Harper Adams ac mae’n gobeithio bod yn syrfëwr siartredig yn y dyfodol.
“Hoffwn ehangu fy mhrofiad trwy weithio mewn sefyllfaoedd gwahanol. Gobeithiaf ddatblygu fy sgiliau a’m rhwydweithiau er mwyn paratoi ar gyfer bywyd proffesiynol yng Nghymru wledig, ac rwy’n gobeithio y bydd fy mhrofiad gyda’r Academi Amaeth yn fy nghynorthwyo i wneud hynny.”
I ddarganfod mwy am ddyheadau pob un o ymgeiswyr yr Academi Amaeth eleni, cliciwch yma.