18 Ionawr 2019

 

 

richard tudor 5

Bydd tri o ffermwyr sydd wedi teithio’r byd yn ymchwilio i bynciau’n amrywio o iechyd pridd i bori cadwraethol yn cyflwyno eu canfyddiadau yng Nghynhadledd Ffermio Cymru ym mis Chwefror.

Yn ymuno â ffermwr da byw o Bowys, Richard Tudor, ar lwyfan y gynhadledd fydd cyd-ysgolorion Nuffield, Geraint Powell ffermwr a anwyd yng Nghymru sy’n cynhyrchu ŵyn ac Alexander Brewster, ffermwr da byw a dofednod o’r Alban.

Dyfarnwyd Ysgoloriaethau Nuffield i’r tri ohonynt, ac ar ôl cyflwyno eu canfyddiadau’n ddiweddar yng Nghynhadledd Ffermio Nuffield yng Nglasgow, byddant yn gwneud yr un modd i ffermwyr Cymru ar faes y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd.

Mae Richard, a astudiodd iechyd a ffrwythlondeb priddoedd porfa, yn rhoi ei ymchwil ar waith yn Llysun ger y Trallwng.

Ar hyn o bryd mae’r fferm fynydd, sy’n Fferm Arddangos Cyswllt Ffermio, yn y broses o newid o fod yn fferm bîff a defaid i fod yn fferm laeth.

Dywed Richard fod cydnabyddiaeth gynyddol o bwysigrwydd pori er mwyn cynnal a gwella iechyd y pridd.  

Meddai, “Mae deall priodweddau cemegol, ffisegol a biolegol pridd yn allweddol i wella perfformiad da byw ar borfa fynydd a mabwysiadu arfer gorau o ran technegau pori .

“Fel ffermwyr da byw, cyfyngedig yw ein gwybodaeth a’n dealltwriaeth gyffredinol am bridd ac o ystyried ein bod yn gweithio gyda phriddoedd sy’n naturiol asidig, patrymau tywydd cyfnewidiol, peiriannau trymach, a bioleg pridd sy’n diflannu, mae angen ar fyrder i ni gael mwy o wybodaeth am y berthynas rhwng ein priddoedd a thyfu planhigion iach, da byw iach ac amgylchedd iach.’’

 

geraint powell 2

Fel rhan o’i astudiaethau aeth i wledydd gydag amodau tebyg o ran hinsawdd i’r DU, yn cynnwys Seland Newydd, Awstralia a Gogledd America.

Roedd ymchwil Geraint Powell yn canolbwyntio ar bori cadwraethol, y posibilrwydd o daliadau ar gyfer gwasanaethau ecolegol ac ail-gyflwyno da byw i systemau âr.

Bu Geraint, a fagwyd ar fferm deuluol ym Mannau Brycheiniog ac sydd bellach yn wyna 4,200 o famogiaid New Zealand Romney yn y Cotswolds, yn astudio technegau arfer gorau ar gyfer datblygu systemau sy’n gynhyrchiol a phroffidiol ond sydd hefyd yn cyflawni targedau amgylcheddol a osodir gan gyrff rheoleiddio.

Meddai, “Yr hyn a ddenodd fy niddordeb at y pwnc yma oedd yr hyn yr wyf wedi bod yn ei wneud am y 12 mlynedd diwethaf, sef pori tir Cynllun Stiwardiaeth Cefn Gwlad a chydbwyso cynhyrchiant gydag amodau amgylcheddol.

Mae’r cyfaddawd rhwng cynhyrchiant a chadwraeth yn bwnc y mae angen ei astudio a rhoi sylw iddo, ychwanegodd.

“Mae'n bosibl cydbwyso cnydau, pori a chadwraeth mewn ffordd gynhyrchiol ac ecolegol amrywiol sy’n gallu cynhyrchu bwyd yn broffidiol,” meddai Geraint, a astudiodd yng Ngogledd a De America, Mongolia, Ewrop a’r DU.

Mae Alexander Brewster yn rheoli 5000 hectar o Dir Llai Ffafriol yn Swydd Perth, lle mae ganddynt fuches o 260, 2400 o ddefaid mynydd a nifer sylweddol o ieir maes organig.

Fel rhan o’i waith ymchwil edrychodd ar dechnegau sy’n gallu cynyddu cadernid busnes a phroffidioldeb y fferm da byw nodweddiadol gan gysylltu pwysigrwydd cylchoedd maetholion â chadernid genynnol.

Hefyd edrychodd Alex ar dechnoleg a geneteg yn ei astudiaeth. “Mae'n rhaid i ni allu mesur er mwyn rheoli ac o bosibl EID yw un o’r dulliau mwyaf cost effeithiol i fod yn rhan o’r diwydiant da byw, yr adborth syth am gynnydd o ran pwysau byw, yr amrywiannau rhwng grwpiau’r tad a’r cysylltiad uniongyrchol rhwng y rhain i gyd a phroffidioldeb y busnes. 

 

alex brewster 1 0

Teithiodd i Dde America a Oceania a chasglodd lawer o’i ymchwil cynnar yn y DU. Dyfarnwyd Tarian John Stewart i Alex am y cyflwyniad gorau yng Nghynhadledd Ffermio Nuffield yng Nglasgow ym mis Tachwedd.

Cynhelir Cynhadledd Ffermio Cymru, a drefnir gan Menter a Busnes ar ran Llywodraeth Cymru, ar 7 Chwefror ar faes y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd.

Ymysg y siaradwyr arbennig yno fydd y rhedwr marathon eithafol Chris Moon MBE a gollodd ran o’i fraich a’i goes mewn damwain ffrwydrad tir yn Affrica. Bydd Chris yn defnyddio ei brofiadau unigryw i ddangos egwyddorion y gall pobl eu defnyddio yn eu bywydau bob dydd i’w helpu i herio’r ‘cysyniad o gyfyngiadau’, a wynebir gan nifer yn y diwydiant amaethyddol wrth iddo baratoi at ddyfodol ansicr y tu allan i’r UE. Hefyd bydd Cymru’n croesawu Lloyd a Daphne Holterman o Wisconsin, UDA sy’n ffermwyr blaenllaw ym myd ffermio llaeth cynaliadwy yn UDA.

Bydd y rhaglen yn cynnwys sesiynau trafod gyda ffermwyr bîff, defaid a llaeth blaengar, sydd wedi gweithredu newidiadau cadarnhaol i’w busnesau. Bydd hefyd yn rhoi cipolwg ar gynlluniau treialu a phrosiectau a gynhelir ar safleoedd arddangos Cyswllt Ffermio drwy Gymru. 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Arbrawf tyfu cnau yn edrych ar hyfywedd cynhyrchu cnau Ffrengig yng Nghymru
08 Mai 2024 Mae cwpwl o Sir Gâr yn arbrofi gyda thyfu cnau ar eu
Bydd modiwlau newydd Cyswllt Ffermio yn helpu ffermwyr i drosglwyddo i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy
30 Ebrill 2024 Mae Cyswllt Ffermio wedi lansio set newydd o
Arbrawf llaeth yn edrych ar iechyd lloi ar fferm laeth yn Sir Benfro
25 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yn Sir Benfro sy’n lloia yn y