26 Tachwedd 2018
“Mae canolbwyntio ar ddefnyddio’r wybodaeth ddiweddaraf, dod o hyd i ffyrdd effeithlon a blaengar o weithio a datblygu proffesiynol parhaus yn rhai o’r cyfranwyr pwysicaf ac arwyddocaol i’n helpu i sicrhau bod ein busnesau fferm yn parhau i fod yn gystadleuol a chynhyrchiol,” dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, Lesley Griffiths, wrth lansio dwy raglen ddatblygu sgiliau Iechyd a Lles Anifeiliaid a TGCh yn y Ffair Aeaf eleni yn Llanelwedd.
Roedd yr Ysgrifennydd Cabinet yn annerch rhanddeiliaid a chynrychiolwyr y diwydiant o’r holl sectorau amaethyddol allweddol yng Nghymru mewn digwyddiad arbennig heddiw (dydd Llun, 26 Tachwedd) a gynhaliwyd yn adeilad Lantra, Rhodfa K ar Faes y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd.
Bydd y cyrsiau hyfforddi yn cael eu cyflwyno gan filfeddyg y ffermwr, trwy raglen Datblygu Sgiliau Lantra, a bydd ffermwyr sydd wedi cofrestru gyda Cyswllt Ffermio yn cael eu hannog, o ddechrau’r flwyddyn newydd ymlaen, i gwblhau cyrsiau hyfforddi byr wedi eu hariannu’n llawn yn gysylltiedig â blaenoriaethau iechyd a lles anifeiliaid Llywodraeth Cymru.
Bydd pob cwrs yn cynnig cyflwyniad i gynllunio iechyd anifeiliaid i atal afiechydon, trosglwyddo afiechydon, arwyddion clinigol, diagnosis, triniaeth, atal a rheoli ynghyd ag ystyried yr effaith economaidd y mae afiechydon yn ei gael ar fusnes. Bydd yr hyfforddiant, a ddatblygwyd ar y cyd gan Cyswllt Ffermio a’r Gwasanaeth Gwybodaeth Afiechydon Anifeiliaid Cenedlaethol (NADIS), yn cael eu cyflwyno gan filfeddygon trwy Gymru gyfan o ddechrau’r flwyddyn nesaf. Bydd yn cynnwys modylau ar: brwydro yn erbyn gwrthedd gwrthfiotigau ac anthelmintig; cynllunio iechyd anifeiliaid, gwaredu diciâu gwartheg; rheoli afiechyd Johne; lleihau cloffni; lleihau mastitis a cholledion wrth ŵyna.
Cynlluniwyd yr hyfforddiant i gyd-fynd â’r gefnogaeth ar gyfer cynllunio iechyd anifeiliaid sydd ar gael i ffermwyr llaeth, bîff a defaid trwy’r Cynllun Strategol CDG. Agorwyd y ffenestr gyntaf ar gyfer ceisiadau am y cynllun i ffermwyr llaeth dan arweiniad AHDB-Dairy, HerdAdvance, gan yr Ysgrifennydd Cabinet yn Sioe Laeth Cymru ar 30 Hydref. Bydd cynllun cyfatebol ar gyfer cynhyrchwyr bîff a defaid, dan arweiniad HCC, yn cael ei agor yn y Ffair Aeaf.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet: “I lawer o ffermwyr, bydd yr hyfforddiant hwn yn allweddol iddynt ddysgu sut i ddynodi, rheoli a dileu afiechydon. Nid yn unig bydd yn gwella iechyd a lles anifeiliaid, ond hefyd gwytnwch economaidd eu busnes a all, fel y gŵyr llawer o ffermwyr yn rhy dda, gael eu chwalu gan afiechydon.
“Trwy roi hyfforddiant am feysydd yn amrywio o fioddiogelwch ffermydd a phwysigrwydd cynllunio iechyd anifeiliaid i faterion yn ymwneud ag afiechydon penodol a hwsmonaeth, gallwn gefnogi ffermwyr i symud oddi wrth ymateb i afiechydon ar ôl iddynt ddigwydd trwy eu galluogi i weithredu cynllunio iechyd rhagweithiol ac effeithiol.”
Lansiodd Ysgrifennydd y Cabinet hefyd raglen hyfforddi TGCh newydd wedi ei hariannu’n llawn, a fydd hefyd yn cael ei chyflwyno gan Lantra trwy raglen Dysgu a Datblygu Gydol Oes Cyswllt Ffermio.
Gall ffermwyr a choedwigwyr gydag ychydig iawn neu ddim sgiliau TG fynychu sesiwn ddwy awr yr wythnos am chwe wythnos, ac yna disgwylir i bob dysgwr fod â hyder a gwybodaeth wrth ddefnyddio’r cyfrifiadur ar gyfer eu hanghenion busnes. Yn ychwanegol, bydd y dysgwyr yn cael y dewis o dderbyn dau ymweliad cartref gan diwtor TG, a all drafod amrywiaeth o bynciau yn canolbwyntio ar broblemau neu wendidau penodol a ddynodwyd mewn asesiad ffôn byr ymlaen llaw.
Bydd unigolion sydd â sgiliau TG mwy datblygedig yn cael eu hannog i ymgeisio am weithdai hyfforddi TG wedi eu hariannu’n llawn, a gynhelir trwy Gymru, lle bydd y pwyslais ar ddatblygu busnes trwy bynciau gan gynnwys cyfryngau cymdeithasol; diogelwch ar y rhyngrwyd; meincnodi ar-lein, bancio a gwasanaethau treth neu TAW; technoleg drôn a GPS a ffermio manwl gywir.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet: “Bydd y ddwy raglen hyfforddi wedi eu hariannu’n llawn a hygyrch iawn yr wyf yn eu cyhoeddi heddiw yn helpu i wella gwytnwch economaidd busnesau trwy helpu ffermwyr i barhau yn gynhyrchiol, cystadleuol a chynaliadwy. Rwy’n annog pob ffermwr i fanteisio ar y cyfle a defnyddio’r ddwy raglen.”
Bydd angen i ffermwyr a choedwigwyr sy’n ymgeisio am yr hyfforddiant hwn fod wedi cofrestru gyda Chyswllt Ffermio. Bydd yr holl gyrsiau a gwblheir yn cael eu cofnodi yn awtomatig ar gofnodion Datblygu Proffesiynol Parhaus y cleient ar wefan BOSS Busnes Cymru, a byddant yn derbyn tystysgrif presenoldeb gan Lantra.
Am ragor o wybodaeth am raglen hyfforddiant iechyd a lles anifeiliaid cliciwch yma, neu am raglen hyfforddiant technoleg gwybodaeth cliciwch yma, neu cysylltwch â Chanolfan Wasanaeth Cyswllt Ffermio ar 08456 000 813 i gofrestru eich diddordeb a chael cyfarwyddyd ar sut i ymgeisio. Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.