5 Ionawr 2021

 

Gallwch yn hawdd adennill eich buddsoddiad ariannol mewn brechu cyn hyrdda, i warchod mamogiaid ar ffermydd Cymru rhag pathogenau sy’n achosi erthyliadau, drwy gael llai o ddefaid yn erthylu a llai o ddefaid gwag yn y ddiadell.

Dywed y milfeddyg Cath Tudor mai erthyliadau sydd i gyfrif am bron chwarter yr holl ŵyn a gollir ar ffermydd yng Nghymru ond eto fe ellir rheoli Erthyliad Ensootig mewn Mamogiaid (EAE) a thocsoplasma yn effeithiol drwy frechu.

Mae’n cynghori ffermwyr sydd â chyfraddau mamogiaid gwag o dros 2% i ofyn i’w milfeddyg wneud ymchwiliadau i ganfod ai haint sydd wrth wraidd y broblem erthylu yn eu diadell.  

Mae casglu data, megis colledion rhwng adeg sganio a gwerthu ŵyn, yn allweddol ar gyfer creu cynllun rheoli effeithiol er mwyn atal colledion y tymor nesaf.

“Dylech gadw cofnodion, ac nid yw mwy na dau erthyliad ym mhob 100 o ddefaid yn arferol,” meddai Ms Tudor wrth y ffermwyr a oedd yn cymryd rhan mewn gweminar dan arweiniad ProStock Vets gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, Cyswllt Ffermio, Lantra a NADIS.

Yn ystod y digwyddiad rhoddodd Ms Tudor a Miranda Timmerman o ProStock Vets gyngor i ffermwyr ar sut i leihau eu colledion. 

EAE a thocsoplasmosis yw achosion mwyaf cyffredin erthyliadau mewn defaid - dyma sydd i gyfrif am ddwy ran o dair o bob erthyliad.

Prynu mamogiaid i mewn neu faethu gydag ŵyn amddifad wedi’u prynu i mewn yw’r prif achosion pam bo diadell yn cael ei heintio ag EAE tra bod tocsoplasmosis yn cael ei ledaenu gan gathod heintiedig.

Mae cathod yn gollwng wyau tocsoplasma yn eu baw a chaiff defaid eu heintio pan maent yn bwyta’r wyau oddi ar borfa, porthiant a dŵr sydd wedi’i heintio. 

Gall cyn lleied â 50g o faw gynnwys 10 miliwn o oocystau a dim ond 40 sydd ei angen i heintio mamog: bydd yr oocystau yn dal i fod yn heintus am 12 mis.

Mae’n hanfodol felly sicrhau nad yw cathod yn dod i gysylltiad â phorthiant defaid.

“Os oes gennych gathod ifanc hanner gwyllt yn crwydro o gwmpas ac yn baeddu yn y porthiant mae’n newyddion drwg, os yw’r mamogiaid yn bwyta’r oocystau fe wnânt erthylu,” rhybuddiodd Ms Tudor.

Os yw’n bosibl, torrwch ar y cathod gan fod y rhain yn llai tebygol o ollwng oocystau.

Unwaith mae mamog yn erthylu oherwydd tocsoplasmosis mae’n cael imiwnedd fel arfer, meddai M Tudor.

Mae mamogiaid ag EAE yn pasio eu statws heintus ymlaen i’w hepilion benyw.

Mae angen cynllunio’n ofalus o amgylch adeg wyna, meddai M Timmerman.

“Os ydych chi’n wyna mewn dau grŵp a bod rhai defaid o’r criw cyntaf yn erthylu, bydd angen ichi wyna’r ail griw yn rhywle arall oherwydd fe fydd yr haint yn pasio ymlaen i’r mamogiaid nesaf o’r amgylchedd,” meddai Ms Timmerman.

Rhaid ichi lanhau a diheintio’r corlannau lle mae defaid wedi erthylu – dylai pobl sydd wedi dod i gysylltiad â’r famog a’r gorlan hefyd ddiheintio eu hunain.

Mae’n hanfodol dadansoddi’r hyn a erthylir, gan gynnwys y ffoetws, yr hylif o’i amgylch ac yn bwysicach na dim y brych, er mwyn canfod yr achos.

Yng Nghymru, mae labordai AHVLA yng Nghaerfyrddin ac Aberystwyth yn gwneud y gwaith dadansoddi hwn ac i ffermwyr yng nghanolbarth Cymru, ceir labordai yn yr Amwythig, neu mae labordai preifat eraill i’w cael.

Dylech hefyd ystyried gwneud profion gwaed os cewch lawer o famogiaid gwag adeg sganio.

Mae gwaith samplo, profi a chyngor un wrth un gan filfeddygon lleol ar gael i fusnesau fferm yng Nghymru sydd wedi cofrestru â Cyswllt Ffermio. 

“Gallwn brofi mamogiaid am ddim drwy Glinigau Iechyd Anifeiliaid Cyswllt Ffermio, felly os yw eich defaid yn erthylu, marciwch nhw a gallwn gymryd samplau gwaed, meddai Ms Tudor.

Anogir ffermwyr i ofyn i’w practis milfeddygol lleol am wybodaeth bellach, neu i gysylltu â Cyswllt Ffermio yn uniongyrchol. 

Ynyswch y mamogiaid sydd wedi erthylu oherwydd bydd yr organeb EAE yn cael ei rhyddhau yn yr hylifau o’r wain am wythnosau lawer.

Gallai mamog golli un ffoetws a chael un oen byw hefyd. “Y rhain sy’n peri’r risg fwyaf o heintiau oherwydd na fydd y ffermwr yn aml yn gwybod ei fod yn erthyliad gwirioneddol,” meddai Ms Tudor.

Mae’n eich cynghori i beidio â magu oddi wrth ŵyn benyw mamogiaid heintus na maethu oen gyda mamog sydd wedi erthylu.

Mae’n argymell i brynu o ddiadellau sydd wedi’u hachredu o safbwynt EAE yn unig os ydych yn prynu defaid cadw i mewn. “Ceisiwch brynu o’r un lle bob blwyddyn.”

Er bod modd defnyddio gwrthfiotigau i drin mamogiaid ag EAE, dywedodd Ms Tudor mai polisi i’w osgoi oedd hwn.

“Mae’n mynd yn gwbl groes i’r graen rhoi gwrthfiotigau i bob mamog pan fo brechlyn da iawn ar gael i atal yr haint,” meddai. 

“Mae’n syniad da difa’r mamogiaid sydd wedi cael yr haint oherwydd fe allant erthylu’r flwyddyn ganlynol oherwydd fe fydd yr haint yn dal yn eu system.”

Os bydd mamog yn erthylu mewn cae, diheintiwch yr ardal gyda chynnyrch sy’n ddiogel i’r pridd, meddai Ms Timmerman. 

“Allwch chi ddim palu’r ddaear ond mae’n werth diheintio’r ardal honno, oherwydd nid pawb sydd â’r dewis i symud defaid o’r cae hwnnw.”

Mae EAE a thocsoplasmosis yn heintus iawn a gellir eu pasio i bobl, felly mae’n hanfodol bod menywod beichiog yn osgoi dod i gysylltiad â defaid. Mae risg hefyd i unigolion eraill gan fod yr haint yn gallu achosi symptomau tebyg i’r ffliw.

Mae salmonela, sy’n achosi i ddefaid a gwartheg erthylu, hefyd yn gallu cael ei basio i bobl.

Mae diadellau a buchesi yn ardaloedd arfordirol Cymru yn fwy tebygol o gael eu heintio gan fod adar môr yn gallu cario a throsglwyddo salmonela, awgryma Ms Timmerman.

Mae hefyd yn aml yn bresennol mewn slyri gwartheg, yn enwedig slyri gwartheg llaeth, a chaiff hwnnw weithiai ei daenu ar gaeau lle mae defaid yn wyna.

“Os cewch salmonela o gwmpas adeg wyna, bydd gennych lawer o famogiaid gwael iawn,” meddai Ms Timmerman.

Mae’n holl bwysig brechu eich defaid i atal erthyliadau oherwydd EAE a thocsoplasmosis.

Mae gwarchodaeth rhag EAE drwy frechlyn a roddir o leiaf bedair wythnos cyn hyrdda yn para am dair blynedd, felly i lawer o ddiadelloedd, cost ‘unwaith mewn oes’ ydyw tra bod imiwnedd mewn mamogiaid sydd wedi’u brechu yn erbyn tocsoplasmosis cyn hyrdda yn para am tua 18 mis.

“Mae’n fuddsoddiad gwerth chweil oherwydd dydy colled a helynt adeg wyna ddim yn rhywbeth rydych chi ei angen ar yr adeg o’r flwyddyn pan rydych chi ar eich prysuraf,” meddai Ms Tudor.

Mae Cyswllt Ffermio, sy’n cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra, yn cael ei gyllido drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Bod yn aelod o grŵp trafod yn helpu fferm deuluol i ddefnyddio syniadau newydd
12 Rhagfyr 2024 Mae cynhyrchydd bîff pedigri ar raddfa fach yn
Gwaith samplo Cyswllt Ffermio yn amlygu cyfleoedd i wella iechyd pridd ar ffermydd Cymru
11 Rhagfyr 2024 Mae adroddiad gan Cyswllt Ffermio ar briddoedd
Sut mae anwybyddu clefydau heintus yn gallu arwain at broblemau sylweddol mewn diadelloedd yng Nghymru
29 Tachwedd 2024 Mae ffermwyr defaid yng Nghymru yn cael eu