Mae gan bob gweithiwr amaethyddol, garddwriaethol a choedwigaeth cyflogedig yng Nghymru, gan gynnwys gweithwyr a gyflogir gan feistri gangiau ac asiantaethau cyflogaeth, hawl i’r
Isafswm Cyflog Amaethyddol. Bwriad y podlediad hwn yw helpu cyflogwyr gweithwyr amaethyddol i ddeall a chydymffurfio â’r gofynion Isafswm Cyflog Amaethyddol a thelerau ac amodau eraill sy’n berthnasol i weithwyr amaethyddol yng Nghymru ac i helpu gweithwyr i ddeall eu hawliau. Mae’r cyfraddau isafswm cyflog a lwfansau ac isafswm telerau ac amodau eraill y mae gan weithwyr amaethyddol, gan gynnwys y rhai sy’n gweithio yn y sectorau garddwriaeth a choedwigaeth, hawl iddynt yn ôl y gyfraith wedi’u nodi yng Ngorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru).

Darperir y wybodaeth yn y rhifyn hwn fel arweiniad yn unig. Ni ddylid ei weld fel rhywbeth sy’n rhoi cyngor cyfreithiol ar yr Isafswm Cyflog Amaethyddol nac ar faterion cyfreithiol yn gyffredinol.

 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Rhifyn 111- Sut mae ffermwyr Cymru yn lleihau effaith carbon defaid
Bydd Janet Roden yn amlinellu’r gwaith sydd wedi’i wneud yng
Rhifyn 110 - Bridio defaid ag ôl troed carbon isel
Mae Suzanne Rowe yn Uwch Ymchwilydd gydag AgResearch yn Seland
Rhifyn 109 - Mae rheoli llyngyr yr iau yn llwyddiannus yn bwysig ar gyfer cynhyrchu defaid yn gynaliadwy
Yn y bennod fer hon byddwn eto yn ymweld â fferm Lower House