Fferm fynydd o tua 400 erw yw Hendre Llwyn y Maen yn codi hyd at 1100 troedfedd uwch lefel y môr . Mae Robin Crossley, y perchennog, yn amgylcheddwr brwd ac mae’n gwerthfawrogi’r coetiroedd fel rhan bwysig o’r fferm gan ddarparu cyfleoedd saethu gêm, cysgod i stoc a chynefin bywyd gwyllt. Yn y sgwrs hon, mae Robin yn esbonio’r meddylfryd o sut y dechreuodd y plannu coed a sut mae wedi datblygu i fod yn rhan annatod o fusnes y fferm. Hefyd yn y sgwrs cawn glywed wrth Sam Pearson, Rheolwr y fferm a Mentor Cyswllt Ffermio yn sôn am amcanion busnes a gwerth coed i’r system ffermio.

 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Rhifyn 129 - Ffermio'n ddoethach, nid yn galetach: Llwyddiant Wallog i Arbed Dŵr
Yn y bennod hon o Glust i’r Ddaear, mae'r cyflwynydd Ifan Jones
Rhifyn 128- Mantais Amaethgoedwigaeth – lloches, pridd a da byw
Gwrandewch i ddarganfod pam mae mwy a mwy o ffermwyr yn plannu
Rhifyn 127 - Defnyddio synwyryddion acwstig i fonitro bioamrywiaeth ffermydd
Mae ffermwyr yn adnabod eu tir yn well nag unrhyw un - ond gall