Porfa bydd ffocws y podlediad yma yng nghwmi Cennydd Jones, darlithydd rheolaeth glaswelltir ym Mhrifysgol Aberystwyth ac yn ffermwr rhan amser hefyd. Bydd Cennydd yn cael cwmni Alan Lovatt sydd wedi bod yn fridiwr glaswellt trwy yrfa ac erbyn hyn yn gwneud gwaith ymgynghorol i gwmni Germinal sydd wedi ei leoli yng Ngogerddan ger Aberystwyth.

Gyda dros 75% o dirwedd Cymru yn laswelltir o ryw fath neu’i gilydd, ac o ystyried bod glaswelltir yn rhan hanfodol bwysig o ddiet gwartheg, defaid, ceffylau a hyd yn oed geifr ac alpacas, mae heb os nac oni bai yn rhan allweddol o’r jig-so pan mae’n dod at daclo newid hinsawdd, bwydo’r boblogaeth a chynyddu elw ar ein ffermydd, ac fe fyddwn yn cyffwrdd a’r holl agweddau pwysig hyn yn ystod yr 20 munud nesaf.

 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Rhifyn 104 - Beth yw pridd iach?
Gwrandewch ar y recordiad yma o ddigwyddiad fferm Pentrefelin
Rhifyn 103 - Cloffni mewn gwartheg llaeth
Sut mae gwahanol ddulliau o drosglwyddo gwybodaeth yn dylanwadu
Rhifyn 102 - Cael y gorau o silwair adeg wyna - mae'r cynllunio ar arolygu yn dechrau nawr - Rhan 2
Croeso i Glust i'r Ddaear. Mae hon yn bennod dwy ran sy’n