Bydd Cennydd Jones, darlithydd ym Mhrifysgol Aberystwyth a ffermwr rhan amser yn cael cwmni Dr Iwan Owen. Mae Iwan yn enw adnabyddus i lawer o gyn-fyfyrwyr Amaeth Prifysgol Aberystwyth, lle bu'n ddarlithydd rheolaeth glaswelltir am ddeugain mlynedd cyn iddo ymddeol yn llawn-haeddiannol yn 2021. Yn y rhifyn hwn fe gawn glywed am ei daith i fod yn ddarlithydd yn WAC (Welsh Agricultural Collage), pam fod gwneud gradd neu addysg bellach yn ddefnyddiol mewn diwydiant y mae nifer yn ei ystyried fel un ymarferol. Fe gawn hefyd gyfle i glywed ei argraffiadau am ddyfodol amaeth yng Nghymru.

 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Rhifyn 114- Ffocws ar eneteg, iechyd yr anifail a defnyddio EID yn y ddiadell Gymraeg Cyfnod newydd yn Ystâd Rhug
Cyfle unigryw i ymweld ag Ystâd Rhug ac i ddysgu mwy am y newid
Rhifyn 113 - Atal Cloffni: Ffermwyr yn arwain y ffordd
A yw cloffni yn broblem ar eich fferm laeth? Er gwaethaf degawdau
Rhifyn 112 - Arbrawf Cnau Ffrengig Cymru
Croeso i 'Arbrawf Cnau Ffrengig Cymru,' lle rydym yn archwilio