Mentora: Cynllun Datblygu Personol
Cyn y gallwch wneud cais am fentor, mae angen i chi osod amcanion yn eich Cynllun Datblygu Personol o fewn eich cyfrif BOSS.
Cam 1
Dychwelyd i BOSS?
- Mewngofnodi i BOSS drwy Sign on Cymru neu
- I mewngofnodi i BOSS, cliciwch y botwm ‘Mewngofnodi i BOSS’ ar bennawd gwefan Cyswllt Ffermio.
Mae mynediad at BOSS yn hanfodol er mwyn…
- cwblhau neu adolygu eich PDP (Cynllun Datblygu Personol) ac adnabod eich amcanion
- ymgeisio am gwrs/gyrsiau hyfforddiant wedi’i ariannu
- cwblhau modiwlau e-ddysgu wedi'i ariannu'n llawn
- cael mynediad at eich cofnod Storfa Sgiliau personol
Newydd i BOSS?
Er mwyn creu cyfrif BOSS byddwch chi angen…
- Bod wedi cofrestru gyda Cyswllt Ffermio gyda chyfeiriad e-bost unigol sy’n unigryw i chi. I gofrestru, cysylltwch â Chanolfan Wasanaeth Cyswllt Ffermio ar 03456 000 813 neu cofrestrwch ar-lein yma. Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.
- Derbyn e-bost yn cadarnhau eich cofrestriad gan Cyswllt Ffermio, sy’n eich galluogi i gael mynediad i wefan BOSS Busnes Cymru drwy Sign on Cymru (SOC).
Os nad ydych wedi derbyn e-bost o fewn 5 diwrnod gwaith, cysylltwch â’r Ganolfan Wasanaeth.
Am ganllawiau cam wrth gam ar sut i gael mynediad i BOSS drwy Sign on Cymru, cliciwch yma a/neu gwyliwch y fideo isod:
Cam 2
Cwblhau PDP (Cynllun Datblygu Personol)
Ni allwch wneud cais am fentor nes eich bod wedi cwblhau PDP
Cliciwch yma am eich canllaw i gwblhau PDP ac adnabod eich nodau.