Mentora: Cynllun Datblygu Personol

Cyn y gallwch wneud cais am fentor, mae angen i chi osod amcanion yn eich Cynllun Datblygu Personol o fewn eich cyfrif BOSS. 

Cam 1

Dychwelyd i BOSS?

Mae mynediad at BOSS yn hanfodol er mwyn…

  • cwblhau neu adolygu eich PDP (Cynllun Datblygu Personol) ac adnabod eich amcanion
  • ymgeisio am gwrs/gyrsiau hyfforddiant wedi’i ariannu
  • cwblhau modiwlau e-ddysgu wedi'i ariannu'n llawn
  • cael mynediad at eich cofnod Storfa Sgiliau personol

Newydd i BOSS?

Er mwyn creu cyfrif BOSS byddwch chi angen…

  • Bod wedi cofrestru gyda Cyswllt Ffermio gyda chyfeiriad e-bost unigol sy’n unigryw i chi. I gofrestru, cysylltwch â Chanolfan Wasanaeth Cyswllt Ffermio ar 03456 000 813 neu cofrestrwch ar-lein yma. Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.
  • Derbyn e-bost yn cadarnhau eich cofrestriad gan Cyswllt Ffermio, sy’n eich galluogi i gael mynediad i wefan BOSS Busnes Cymru drwy Sign on Cymru (SOC).

Os nad ydych wedi derbyn e-bost o fewn 5 diwrnod gwaith, cysylltwch â’r Ganolfan Wasanaeth.

Am ganllawiau cam wrth gam ar sut i gael mynediad i BOSS drwy Sign on Cymru, cliciwch yma a/neu gwyliwch y fideo isod:

 

Cam 2

Cwblhau PDP (Cynllun Datblygu Personol)

Ni allwch wneud cais am fentor nes eich bod wedi cwblhau PDP

Cliciwch yma am eich canllaw i gwblhau PDP ac adnabod eich nodau.