Cymorth busnes Garddwriaeth
Mae gwasanaeth 'cymorth busnes Garddwriaeth' newydd Cyswllt Ffermio yn darparu cymorth ac arweiniad busnes. Mae’n wasanaeth a fydd yn eich helpu i ddod o hyd i atebion i’ch cwestiynau, datrysiadau i heriau…
- Hyd at 12 awr o gymorth busnes wedi’i deilwra a’i ariannu’n llawn ar gyfer tyfwyr ‘garddwriaeth’ masnachol cymwys sydd am wella perfformiad busnes a thechnegol ar draws pob maes
- Arweiniad arbenigol annibynnol, cyfrinachol, pwrpasol wedi'i deilwra i'ch gofynion
Dysgu sut i redeg eich busnes garddwriaeth yn gynaliadwy, yn effeithlon ac yn broffidiol…
- Iechyd y pridd ar gyfer cnydau garddwriaeth
- Deall cyfryngau tyfu, cyrchu ac ansawdd
- Technolegau garddwriaeth newydd gan gynnwys agronomeg roboteg, o bell a digidol
- Iechyd planhigion a rheoli plâu integredig
- Dysgu sut i baratoi ar gyfer patrymau tywydd cyfnewidiol gan gynnwys sychder a llifogydd
- Deall sut i weithio'n effeithiol gyda'ch cadwyni cyflenwi
- Archwiliadau cynaliadwyedd - dysgu sut i leihau eich ôl troed carbon
- Y gymysgedd marchnata – nodi a chyrraedd eich cynulleidfaoedd targed, ymgysylltu â’ch cymuned leol a chynyddu gwerthiant
- Dysgu am becynnu a chyflwyniad - y ffordd gynaliadwy
- Sicrwydd Fferm - dysgwch am y safonau neu gynllun amaethyddol sy'n berthnasol i'r sector Garddwriaeth, gan alluogi eich busnes i fodloni ei ofynion diwydrwydd dyladwy ac yn y pen draw ennill hyder y defnyddwyr.