Hannah Priest
Coed y Paen, Sir Fynwy
Mae ffermwr y bedwaredd genhedlaeth, Hannah Priest, yn helpu carcharorion i ymgysylltu ag amaethyddiaeth yn ei rôl fel gofalwraig gynorthwyol y fuches ar fferm carchar.
Cafodd Hannah ei magu wedi ymgolli mewn ffermio, gyda diadell o 3,000 o famogiaid a buches o wartheg bîff gan gynnwys Limousins pur sydd wedi ennill gwobrau.
Ffermio yw ei hangerdd ers tro ac yn 2016 fe’i hysgogodd i roi’r gorau i’w swydd fel arolygydd treth i weithio fel hyfforddwr da byw yn CEM Prescoed.
Ers hynny mae wedi’i dyrchafu’n ofalwraig gynorthwyol y fuches, swydd sydd nid yn unig yn ymwneud â’r gwaith ymarferol o redeg buches Cilwrgi Holsteins pur ac arddangos y gwartheg mewn sioeau, ond hefyd yn helpu carcharorion i gael gwybodaeth a phrofiad o ffermio.
“Fy nodau yw annog cymaint o bobl â phosibl i ddechrau ffermio ond hefyd rhannu gwybodaeth hanfodol gyda phawb, gan gynnwys ymwelwyr uchel eu proffil, a hyrwyddo pa mor bwysig ydym ni fel diwydiant,” meddai Hannah.
Pan nad yw'n gweithio, mae'n mwynhau ffotograffiaeth cefn gwlad a phadlfyrddio.
Mae Hannah yn gobeithio y bydd y profiadau a gaiff drwy Raglen Busnes ac Arloesedd yr Academi Amaeth yn helpu yn ei hymgais i ddod yn eiriolwr benywaidd cryf o fewn amaethyddiaeth.