Hannah Priest

Coed y Paen, Sir Fynwy

Mae ffermwr y bedwaredd genhedlaeth, Hannah Priest, yn helpu carcharorion i ymgysylltu ag amaethyddiaeth yn ei rôl fel gofalwraig gynorthwyol y fuches ar fferm carchar.

Cafodd Hannah ei magu wedi ymgolli mewn ffermio, gyda diadell o 3,000 o famogiaid a buches o wartheg bîff gan gynnwys Limousins pur sydd wedi ennill gwobrau.

Ffermio yw ei hangerdd ers tro ac yn 2016 fe’i hysgogodd i roi’r gorau i’w swydd fel arolygydd treth i weithio fel hyfforddwr da byw yn CEM Prescoed.

Ers hynny mae wedi’i dyrchafu’n ofalwraig gynorthwyol y fuches, swydd sydd nid yn unig yn ymwneud â’r gwaith ymarferol o redeg buches Cilwrgi Holsteins pur ac arddangos y gwartheg mewn sioeau, ond hefyd yn helpu carcharorion i gael gwybodaeth a phrofiad o ffermio.

“Fy nodau yw annog cymaint o bobl â phosibl i ddechrau ffermio ond hefyd rhannu gwybodaeth hanfodol gyda phawb, gan gynnwys ymwelwyr uchel eu proffil, a hyrwyddo pa mor bwysig ydym ni fel diwydiant,” meddai Hannah.

Pan nad yw'n gweithio, mae'n mwynhau ffotograffiaeth cefn gwlad a phadlfyrddio.

Mae Hannah yn gobeithio y bydd y profiadau a gaiff drwy Raglen Busnes ac Arloesedd yr Academi Amaeth yn helpu yn ei hymgais i ddod yn eiriolwr benywaidd cryf o fewn amaethyddiaeth.

“Mae arweinyddiaeth yn hanfodol wrth adeiladu cryfder a phŵer y diwydiant. Mewn cyfnod lle mae llawer ohonom yn fwy gweladwy, yn enwedig drwy’r cyfryngau cymdeithasol, mae'n gyfle gwych i cipolwg ar fyd bwyd, ffermio ac amaethyddiaeth yn well nag erioed o'r blaen.

“Rwy’n teimlo bod arweinwyr yn dod yn ddylanwadol pan fyddant yn ymgysylltu ac yn rhannu gwybodaeth ag eraill. Mewn diwydiant sy'n trawsnewid yn barhaus, mae'n hanfodol datblygu a pharhau i ddysgu.''