Gareth Jones

Nant Y Fran, Amlwch

Asesu iechyd y pridd a chywiro cywasgu pridd

Ers trosi’n fferm laeth yn 2018, mae Nant y Fran wedi buddsoddi’n sylweddol mewn isadeiledd ac wedi canolbwyntio ar gynhyrchu glaswellt o ansawdd uchel, silwair glaswellt aml-doriad a grawnfwydydd i fwydo’r fuches o 300 o fuchod sy’n lloia yn yr hydref ar frig y cyfnod llaetha yn ystod misoedd y gaeaf.

Mae gan Nant y Fran briddoedd trwm, lôm clai silt yn bennaf. Ers trosi’n fferm laeth, mae’r system ffermio wedi newid yn sylweddol, gyda’r fuches yn pori ar gylchdro drwy gydol tymor pori hirach, teithiau amlach ar draws caeau gyda pheiriannau trwm ar gyfer taenu slyri yn ystod y misoedd ar ddiwedd tymor yr hydref a’r gwanwyn, gan roi mwy o bwysau ar iechyd y pridd.

Mae Gareth yn adrodd ei fod wedi gweld newid i gynnyrch cnwd glaswellt a thir âr yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac mae'n credu bod hyn oherwydd newidiadau yn iechyd y pridd gyda chywasgiad yn achosi i leithder y pridd gael ei golli’n llawer cyflymach mewn cyfnod sych.

Nod y prosiect hwn yw asesu iechyd y pridd ar bob cae ar y llwyfan pori trwy Werthusiad Gweledol o Strwythur y Pridd (VESS). Bydd unrhyw gaeau sydd wedi’u nodi ag iechyd a chywasgiad pridd gwael yn cael eu dadansoddi’n fwy yn y cae gan gynnwys profion dwysedd swmp ac ymdreiddiad dŵr.

Bydd samplau pridd hefyd yn cael eu hanfon i’r labordy i fesur priodweddau ffisegol, cemegol a biolegol, a bydd y data’n cael ei gymharu â’r asesiadau eraill ar y fferm.

Ar ôl i'r data gael ei gasglu, bydd cynllun yn cael ei ddatblygu ar gyfer unioni'r materion cywasgu. Gan ddibynnu ar y math a'r graddau o gywasgu, bydd offer megis aradr isbridd ac aradr rholio yn cael eu defnyddio i drin caeau â phroblemau, a bydd y caeau'n cael eu rhannu'n ddwy ran, sef ardaloedd rheoli a thrin.

Trwy ysgogi gwelliant pellach mewn effeithlonrwydd yn y meysydd busnes allweddol hyn, bydd y prosiect hefyd yn cyfrannu at ganlyniadau’r cynllun Rheoli Tir yn Gynaliadwy, gan gynnwys:

  • Lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr y fferm    
  • Dŵr Glân
  • Gwneud y mwyaf o storio carbon
  • Lliniaru perygl llifogydd a sychder
     

Prosiectau cysylltiedig Ein Ffermydd

Awel y Grug
Chris & Glyn Davies Fferm Awel y Grug, Y Trallwng, De Sir
Cornwal Uchaf
Dylan, Gwenda and Gwion Roberts Cornwal Uchaf, Gwytherin, Conwy {
Fferm Cilywinllan
Eifion Pughe Fferm Cilywinllan, North Montgomeryshire Gyda hafau