Robert Lyon

Fferm Lower House, Llandrindod, Sir Faesyfed        

Treial: Gwerthuso cnwd deuol o bys a ffa i’w gyfnewid am brotein wedi ei brynu i mewn i famogiaid cyfeb a thyfu a phesgi gwartheg biff

Un o brif yrwyr Robert Lyon ar Lower House Farm yw cynyddu gwytnwch y fferm gan leihau ei hôl troed carbon. Mae tyfu barlys ar Lower House Farm yn rhoi digon o egni startsh i borthi’r 500-600 o famogiaid cyfeb a thyfu a phesgi’r 130-150 o heffrod Belgian Blue ar y safle yn flynyddol. Ond mae cymysgedd protein yn cael ei ychwanegu at farlys wedi ei rolio er mwyn cyflawni’r diffyg protein yn y dogn. 

Er mwyn gweithio tuag at hunangynhaliaeth o ran protein, bydd Lower House Farm yn treialu ymgorffori pys a ffa wedi eu prynu i mewn yn y dogn i famogiaid cyfeb ar gyfer gaeaf 2023/24 a defnyddio pys a ffa wedi eu tyfu gartref yng ngaeaf 2024/25. Bydd y cnwd deuol o bys a ffa yn cael ei grimpio a’i ymgorffori yn nogn gaeaf 2024/25 i’r gwartheg bîff a’r mamogiaid cyfeb.

Gan fod Lower House Farm yn tyfu 3.6ha o farlys yn flynyddol, bydd cyflwyno cnwd torri o godlysiau’n cyd-fynd yn dda â’r cylchdro. Gan ei fod yn gnwd sy’n sefydlogi nitrogen, ni fydd angen unrhyw wrtaith nitrogen ar gyfer y cnwd dilynol, a gall y strwythur gwreiddyn prif wreiddyn gwahanol gynnig manteision o ran strwythur y pridd.

Gellir defnyddio pys a ffa mewn deiet i anifeiliaid cnoi cil fel ffynhonnell ddefnyddiol o egni a phrotein sy’n diraddio yn y rwmen. Mae pys yn cynnwys tua 26% o brotein yn y deunydd sych a ffa tua 29%. Mae’r ddau yn uchel mewn egni, gan gynnwys 13.6 i 14 MJ/kgDM gyda dros 40% o startsh. Bydd lefel eu cynnwys yn neiet y gwartheg a’r defaid yn dibynnu i raddau helaeth ar lefel y protein yn y porthiant sylfaenol a’r angen am garbohydradau eplesadwy ychwanegol. 

Defnyddir dadansoddiad o borthiant a bwydydd eraill (barlys wedi ei dyfu gartref, dwysfwyd protein, pys a ffa) i ffurfio deiet gaeaf 2023/24 a 2024/25. Bydd yr effaith ariannol, ôl troed carbon a pherfformiad yr anifeiliaid yn cael eu monitro a’u dadansoddi i gymharu’r deiet pys a ffa gyda’r deiet rheoli fydd yn cynnwys soia. Bydd cost y prynu i mewn, mewn cymhariaeth â phys a ffa wedi eu tyfu gartref, hefyd yn cael ei hasesu. 

Trwy yrru gwelliannau mewn cynaliadwyedd, bydd y prosiect yn cyfrannu at ddeilliannau Rheoli Tir yn Gynaliadwy trwy:

  • Leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr y fferm
  • Cefnogi gwelliant mewn storio ac atafaelu carbon gan leihau ôl troed carbon y fferm gyfan
  • Cynnal a gwella’r ecosystem yn Lower House Farm
  • Cyfrannu at iechyd a lles da i’r ddiadell a’r fuches. 

Prosiectau cysylltiedig Ein Ffermydd

Tanygraig
Daniel Evans Tanygraig, Llanbedr Pont Steffan, De Ceredigion {
Ty Coch
Nigel Bowyer and family Ty Coch, Brynbuga, Sir Fynwy {"preview
Glanalders
George Edward Wozencraft Glanalders, Radnorshire Un o brif yrwyr