Gerallt Jones
Graianfryn, Llanfachraeth, Ynys Môn
Beth wnaeth i chi benderfynu dod yn ffermwr?
Cefais fy ngeni a'm magu ar y fferm. Penderfynais beidio â ffermio a mynd allan i weithio yn gyntaf. Ar ôl gweithio i ychydig o gwmnïau gwahanol ac ennill llawer o brofiad, penderfynais ei bod yn amser dod adref i ffermio a bod yn rheolwr arnaf fy hun.
Beth na allech chi fynd hebddo ar y fferm?
Y ffôn symudol, dyfais fach ond ofnadwy o ddefnyddiol i gadw cofnod o'r anifeiliaid.
Beth yw eich hoff adeg o'r flwyddyn a pham?
Heb os nac oni bai, fy hoff amser o’r flwyddyn yw’r gwanwyn pan mae’r stoc yn cael eu troi allan a phan mae pob man yn edrych yn ‘hardd’ a gwyrdd. Rwyf wrth fy modd yn gweld y pleser mae'r anifeiliaid yn ei gael yn mynd allan i borfa.
Beth yw'r cyngor mwyaf defnyddiol a roddwyd i chi erioed?
Yn y bore mae dal hi.
Beth yw'r meysydd allweddol yr hoffech ganolbwyntio arnynt fel ffermwr Rhwydwaith Ein Ffermydd?
- Iechyd lloi yn ystod cyn ac ar ôl diddyfnu
- Maeth y gwartheg ar hyd eu hoes
- Cynyddu'r porthiant a dyfir ar y fferm
Ble hoffech chi weld y busnes fferm mewn 5 - 10 mlynedd?
Busnes sy'n ffynnu ac yn ehangu. Y prif ffocws ar hyn o bryd yw bod y fferm yn cynnal bywoliaeth i mi a’r teulu.