Sian, Aled and Rhodri Davies
Cwmcowddu, Llangadog, Gogledd Sir Gaerfyrddin
Beth wnaeth i chi benderfynu dod yn ffermwr?
Cawsom ein magu ar fferm felly rydym wedi ymddiddori mewn ffermio ers yn ifanc. Roedd gallu mynd i Gelli Aur am brynhawn tra yn yr ysgol yn gwneud i ni sylweddoli ein bod ni eisiau bod yn ffermwyr llawn amser.
Beth na allech chi fynd hebddo ar y fferm?
Y parlwr godro - rydym yn godro ddwywaith y dydd. Mae'r parlwr sydd gennym yn effeithlon iawn, felly mae'n caniatáu i ni wneud pethau eraill ar y fferm ac oddi arni.
Beth yw eich hoff adeg o'r flwyddyn a pham?
Yr amser ar ôl wyna, lle mae'r diwrnod yn mynd yn hirach ac mae mwy o amser yn y dydd
Beth yw'r cyngor mwyaf defnyddiol a roddwyd i chi erioed?
Manteisiwch ar bob cyfle a ddaw a pheidiwch â bod ofn gwneud camgymeriadau ar hyd y ffordd. Dyna pam yr ydym wedi achub ar y cyfle i fod yn fferm arddangos!
Beth yw'r meysydd allweddol yr hoffech ganolbwyntio arnynt fel ffermwr Rhwydwaith Ein Ffermydd?
- Gwell defnydd o dail ieir i leihau'r gwrtaith sy'n cael ei brynu i mewn
- Gwella maeth a ffrwythlondeb y fuches laeth
- Cynyddu porthiant a'i wneud yn fwy 'goddefgar' i sychder
Ble hoffech chi weld y busnes fferm mewn 5 - 10 mlynedd?
Busnes llewyrchus, effeithlon sy'n gwneud y gorau o'r maetholion ar y fferm. Gobeithiwn wella perfformiad y fuches a’i chynyddu’n raddol dros y blynyddoedd nesaf. Rydym hefyd yn gobeithio gwella ein system bori a lleihau dyddiau hyd at ladd ŵyn.