Deryl a Francis Jones
Rhyd y Gofaint, Aberaeron, Gogledd Ceredigion
Beth wnaeth i chi benderfynu dod yn ffermwr?
Ar ôl cael fy magu ar fferm weithredol, rwyf bob amser wedi ymddiddori mewn ffermio a arweiniodd at barhau â’m hastudiaethau ym Mhrifysgol Aberystwyth. Ar ôl graddio, dychwelais adref a dros y 24 mlynedd diwethaf rwyf wedi gweithio ochr yn ochr â fy rhieni i gynyddu'r ardal sy'n cael ei ffermio sydd wedi caniatáu i ni gynyddu nifer y stoc.
Beth na allech chi fynd hebddo ar y fferm?
Telehandler.
Beth yw eich hoff adeg o'r flwyddyn a pham?
Y gwanwyn! Bywyd newydd, glaswellt newydd a'r cylch yn dechrau eto.
Beth yw'r cyngor mwyaf defnyddiol a roddwyd i chi erioed?
Byddwch yn ddiolchgar pan fydd eich problemau y tu allan i'r drws ffrynt.
Beth yw'r meysydd allweddol yr hoffech ganolbwyntio arnynt fel ffermwr Rhwydwaith Ein Ffermydd?
- Cynyddu cynhyrchiant glaswellt cymaint â phosibl
- Sut y gall adnoddau adnewyddadwy a newidiadau rheoli leihau ein hôl troed carbon
- Gwella rheolaeth heffrod er mwyn cynyddu nifer yr heffrod sy'n cymryd semen â’r rhyw wedi’i bennu a'u lloia yn 24 mis oed.
Ble hoffech chi weld y busnes fferm mewn 5 - 10 mlynedd?
Wedi cwblhau’r cynlluniau gwella isadeiledd ac wedi cydgrynhoi ar y buddsoddiadau a wnaethom.