Teleri Fielden & Ned Feesey

Hafod y Llyn Isaf, Llŷn & Snowdonia

 

Mae gan Teleri a Ned systemau bîff a defaid ar fferm laswelltir yn Hafod y Llyn yn Eryri. Mae'r safle'n cynnwys ardal helaeth o goetir ac ardaloedd pori ‘heb eu gwella’. Yr ardal a fydd yn ganolbwynt ar gyfer y prosiect hwn yw'r caeau pori sy'n rhedeg ochr yn ochr ag afon Glaslyn. Mae'r caeau'n wastad ac yn dueddol o ddioddef llifogydd yn rheolaidd. Mae'r priddoedd yn dywodlyd iawn gyda lefelau isel o fater organig. Ar hyn o bryd, mae silwair yn cael ei dorri ar rai o'r caeau hyn gan ddefnyddio contractwyr. Mae’r silwair hwn yn cael ei fwydo i stoc yn ystod tymor y gaeaf. Mae prinder lle ar gyfer cadw stoc dan do dros y gaeaf, ac mae hyn hefyd yn creu angen i brynu gwellt. Felly, maen nhw’n dymuno ymchwilio i weld a yw dull mwy adfywiol o reoli glaswelltir sy'n defnyddio glaswellt gyda chyfnodau gorffwys hir yn gallu eu helpu i ddatblygu system sy'n fwy darbodus i redeg ac adeiladu ffrwythlondeb y pridd. Y cyfnodau gorffwys hir fyddai tua 60 diwrnod a byddai pori yn cael ei reoli fel bod hanner y glaswellt yn cael ei adael ar ôl cyn symud y stoc ymlaen i'r ardal nesaf. 

Mae'r prosiect hwn yn ymwneud ag arbrofi ar wahanol strategaethau pori gan weithio ochr yn ochr ag ymyrraeth fecanyddol ar gyfer cywasgu pridd, gyda'r nod o:

  • Ddarparu pori drwy gydol y flwyddyn sy'n effeithlon yn ariannol ac o ran llafur
  • Darparu porfa o ansawdd da drwy gydol y flwyddyn
  • Cynyddu bioamrywiaeth y fferm drwy gynyddu niferoedd yr anifeiliaid di-asgwrn-cefn
  • Cynyddu carbon organig y pridd ac felly ffrwythlondeb y pridd.

Bydd y prosiect hefyd yn cyfrannu at ganlyniadau Rheoli Tir yn Gynaliadwy, gan gynnwys:

  • Lles uchel i anifeiliaid
  • Ecosystemau gwydn
  • Lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr
  • Ecosystemau gwydn
  • Diogelu a gwella ecosystem y fferm
     

Prosiectau cysylltiedig Ein Ffermydd

Rhyd y Gofaint
Deryl a Francis Jones Rhyd y Gofaint, Aberaeron, Gogledd
Cwmcowddu
Sian, Aled and Rhodri Davies Cwmcowddu, Llangadog, Gogledd Sir
Wallog
David Evershed Wallog, North Ceredigion Mae argaeledd dŵr yfed