Roger & Dyddanwy Pugh

Crickie Farm, Llangors, Aberhonddu

Beth wnaeth i chi benderfynu dod yn ffermwr?

Cefais fy ngeni a'm magu ar y fferm deuluol ac mae'n ffordd o fyw i mi. Roeddwn yn ffodus i gael y cyfle i ddod adref i ffermio.


Beth na allech chi fynd hebddo ar y fferm?

Y cwad, y ci a fy ngwraig, Dyddanwy. Maen nhw i gyd yn help mawr i mi ar y fferm.

Beth yw eich hoff adeg o'r flwyddyn a pham?

Fy hoff amser o’r flwyddyn yw'r gwanwyn pan fydd yr anifeiliaid yn mynd allan i'r caeau.

Beth yw'r cyngor mwyaf defnyddiol a roddwyd i chi erioed?

Os ydych chi'n meddwl y dylech chi wneud rhywbeth, dylech ei wneud. Gwnewch yr hyn sy'n iawn i chi a chymerwch ychydig o gyngor gan wahanol bobl.

Beth yw'r meysydd allweddol yr hoffech ganolbwyntio arnynt fel ffermwr Rhwydwaith Ein Ffermydd?

  • Effeithlonrwydd porthiant
  • Enillion Pwysau Byw Dyddiol
  • Ymdrechu i wella'r busnes ar gyfer y dyfodol

Ble hoffech chi weld y busnes fferm mewn 5 - 10 mlynedd?

Hoffwn weld y fferm yn fusnes cynaliadwy, proffidiol gyda llai o fewnbynnau.


Prosiectau cysylltiedig Ein Ffermydd

Tanygraig
Daniel Evans Tanygraig, Llanbedr Pont Steffan, De Ceredigion Beth
Ty Coch
Nigel Bowyer and family Ty Coch, Brynbuga, Sir Fynwy Disgrifiwch
Awel y Grug
Chris & Glyn Davies Fferm Awel y Grug, Y Trallwng, De Sir