Mwynau – beth sydd ei angen ar dda byw ar gyfer y perfformiad gorau posibl?
Dros y blynyddoedd diwethaf, mae Roger a Dyddanwy o fferm Crickie wedi bod yn defnyddio gwahanol ffyrdd o roi mwynau i’w da byw fel atchwanegiad. Maen nhw wedi treialu gwahanol folysau, dos a bwcedi, ac mae pob un ohonyn nhw wedi cael graddau amrywiol o lwyddiant ac yn ychwanegu cost sylweddol i’r busnes. Mae rhai samplau o borthiant a gynhaliwyd yn y gorffennol wedi dangos rhai diffygion, ond ni chynhaliwyd archwiliad trylwyr o'r holl fwydydd, porthiant a dŵr a gynigir i'r da byw. Ar ben hynny, nododd Roger a Dyddanwy fod perfformiad ŵyn wedi gwaethygu ar ddiwedd yr haf ac i mewn i’r hydref, sydd eto’n ychwanegu costau pellach i’r system.
Gyda chnydau amgen o wyndwn llysieuol a betys porthiant a dyfwyd ar y fferm dros y 12 mis diwethaf, a darpariaeth ar gyfer dadansoddiad Cyfrif Wyau Ysgarthol (FEC), nod y prosiect yw monitro perfformiad ac adolygu statws mwynau’r fferm. Nod y prosiect yw gwerthuso sut mae'r gwndwn llysieuol gwahanol yn cyfrannu at y cyflenwad mwynau a darparu cynllun clir o ba wndwn fyddai'n fwyaf addas ar gyfer gwahanol ddosbarthiadau o stoc. Bydd opsiynau ar gyfer atchwanegiadau i fodloni anghenion y da byw mewn gwahanol fathau o gynhyrchu hefyd yn cael eu hadolygu.
Bydd y prosiect yn cyfrannu at ganlyniadau Rheoli Tir yn Gynaliadwy, gan gynnwys:
- lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr y fferm
- defnyddio adnoddau’n effeithlon
- safonau iechyd a lles anifeiliaid uchel