William Fox

Astridge Farm, South Pembrokeshire

 

Mae William a Katy Fox yn godro 350 o wartheg Friesian Prydeinig sy’n lloia mewn bloc yn yr hydref. Maen nhw’n cyflenwi First Milk drwy ei raglen ffermio adfywiol ac, o ganlyniad, maen nhw’n awyddus i gynhyrchu llaeth sydd mor ecogyfeillgar â phosibl.

Bydd y fferm yn gweithio gydag EkoGea, cwmni sydd wedi datblygu cynnyrch Biocomplex echdynnyn gwymon o wymon naturiol a gyrchwyd yn gynaliadwy. Mae'r broses echdynnu biolegol unigryw yn cadw dwy elfen hanfodol o gelloedd gwymon:

  • Oligosaccharides sy'n cynnig swbstrad bwyd ar gyfer microbau
  • Asidau polyuronig sy'n darparu ar gyfer cynyddu gallu cyfnewid ïonau 

Effaith ychwanegu'r echdynnyn BioComplex PLUS at rwmen y gwartheg yw ei fod yn clustogi tocsinau yn gemegol, yn hyrwyddo mwy o amrywiaeth microbaidd, a chaiff amonia nwyol ei drosi i’w ffurf grisialog o amoniwm.

Dangoswyd bod amonia yn ei ffurf nwyol yn niweidiol i iechyd pobl ac anifeiliaid, yn ogystal â'r amgylchedd, ac mae wedi dod yn bryder cynyddol i gyrff llywodraethu fel DEFRA a CNC. Amcangyfrifir bod 93% o allyriadau amonia yng Nghymru yn tarddu o amaethyddiaeth.

Nod y prosiect yw gwerthuso a fydd bwydo Biocomplex PLUS EkoGea a gynhwysir yn y pelenni dwysfwyd yn arwain at well effeithlonrwydd o ran porthiant, yn hyrwyddo gwell statws iechyd anifeiliaid, ac yn lleihau lefelau amonia niweidiol.

Bydd y prosiect hefyd yn cyfrannu at ganlyniadau Rheoli Tir yn Gynaliadwy, gan gynnwys:

  • Lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr
  • Iechyd a lles uchel 
     

Prosiectau cysylltiedig Ein Ffermydd

Nantyrhebog
Michael James Nantyrhebog, Carmarthen Ymchwilio i’r elw posibl ar
Brynllech Uchaf
Rhodri and Claire Jones Brynllech Uchaf, Llanuwchllyn
Dylasau Uchaf
Beca Glyn Dylasau Uchaf, Conwy Mae Dylasau Uchaf yn awyddus i