Wyn Owen

Foel Fawr Farm, Anglesey

 

Mae Fferm Foel Fawr yn rhedeg buches bedigri o 70 o wartheg Henffordd. Mae'n system lloia yn y gwanwyn lle ystyrir bod dewis gofalus o deirw cyfnewid yn hanfodol er hwylustod lloia a chynhyrchu heffrod cyfnewid cryf.

Ar hyn o bryd, mae'r epil benywaidd a gynhyrchir naill ai'n cael eu cadw fel gwartheg cyfnewid ar gyfer y fuches wrth i wartheg sy'n dangos unrhyw broblemau iechyd neu ffrwythlondeb gael eu difa, neu eu pesgi a'u gwerthu yn y farchnad. Mae'r gwrywod naill ai'n cael eu pesgi ar y fferm neu eu gwerthu fel gwartheg stôr. 

Nod y fferm yw gallu gwerthu teirw Henffordd pedigri a'r cam nesaf tuag at gyflawni hyn yw cynhyrchu gwerthoedd bridio tybiedig (EBV).

Mae'n amhosibl asesu'n llawn botensial bridio tarw trwy asesiad gweledol yn unig, oherwydd bod ei ymddangosiad allanol yn cael ei effeithio gan ei oedran, yr hyn a gaiff ei fwydo iddo, y gyfundrefn reoli, a’i eneteg. Felly mae asesu EBV tarw yn rhan hanfodol o'r broses o ddewis teirw (AHDB).

Prif nod y prosiect yw cyflwyno system pwyso gwartheg a fyddai'n cael ei hymgorffori gyda'r system drin newydd sydd ar y fferm ar hyn o bryd. Bydd hyn yn cysylltu â meddalwedd Breedplan lle bydd y ffermwr yn gweithio'n agos gyda Chymdeithas y Gwartheg Henffordd i nodi pa nodweddion y mae angen eu monitro a phryd y mae angen eu cofnodi. Bydd yr heffrod cyfnewid a'r teirw posibl yn cael sgan uwchsain i fesur arwynebedd cyhyrau'r llygaid, braster yr asennau, cynnyrch yr asennau a’r braster mewngyhyrol.


Bydd y prosiect hefyd yn cyfrannu at ganlyniadau Rheoli Tir yn Gynaliadwy, gan gynnwys:

  • Lles uchel i anifeiliaid
  • Lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr
     

Prosiectau cysylltiedig Ein Ffermydd

Rhyd y Gofaint
Deryl a Francis Jones Rhyd y Gofaint, Aberaeron, Gogledd
Cwmcowddu
Sian, Aled and Rhodri Davies Cwmcowddu, Llangadog, Gogledd Sir
Wallog
David Evershed Wallog, North Ceredigion Mae argaeledd dŵr yfed