Ifan Ifans

Tyddyn Cae, Pwllheli, Gwynedd

Beth wnaeth i chi benderfynu dod yn ffermwr?

Cael fy magu ar fferm ac mewn ardal lle mae’r gymuned amaethyddol yn gryf a bod yn ffodus i gael y cyfle i ddod yn ôl adref i ymuno â busnes ffermio’r teulu

Beth na allech chi fynd hebddo ar y fferm?

Rydym wedi canolbwyntio ar greu system sy’n gyfleus, drwy gynnwys y defnydd o dechnoleg yn y parlwr godro a system ‘crafwyr awtomatig’ sy’n lleihau gwaith o ddydd i ddydd i mi a’r tîm, sy’n hanfodol ar gyfer llwyddiant y fferm.

Beth yw eich hoff adeg o'r flwyddyn a pham?

Mis Medi yw'r amser gorau o'r flwyddyn i mi, pan mae'r fuches yn lloia ar wair sydd wedi’i adael i dyfu (standing hay), rydym wedi bod yn ffodus bod mis Medi a diwedd y gaeaf wedi bod yn ffafriol o ran y tywydd dros y blynyddoedd diwethaf ac wedi ein galluogi i gael cyfnod lloia hawdd fel tîm - gobeithio y bydd hyn yn parhau i'r dyfodol.

Beth yw'r cyngor mwyaf defnyddiol a roddwyd i chi erioed?

I achub ar bob cyfle a ddaw. Mae angen i chi wneud y gorau o bob cyfle a manteisio arnyn nhw os mai dyma’r rhai iawn i chi wrth gwrs.

Beth yw'r meysydd allweddol yr hoffech ganolbwyntio arnynt fel ffermwr Rhwydwaith Ein Ffermydd?

  • Gwella’r defnydd o gnydau sydd wedi’u tyfu gartref gyda gostyngiad yn y defnydd o nitrogen (N)
  • Adolygu'r defnydd o wrthfiotigau
  • Gwneud y gorau o laswellt ac opsiynau ar gyfer cyfnodau o sychder

Ble hoffech chi weld y busnes fferm mewn 5 - 10 mlynedd?

Rwy’n gobeithio gallu datblygu cynhyrchiant y fuches, trwy gadw costau mor isel â phosibl, yn enwedig gwrtaith a phorthiant a brynir i mewn.


Prosiectau cysylltiedig Ein Ffermydd

Clyngwyn
Jeff, Sarah, Enfys a Medi Wheeler Clyngwyn, Clunderwen, Sir
Cwmcowddu
Sian, Aled and Rhodri Davies Cwmcowddu, Llangadog, Gogledd Sir
Tanygraig
Daniel Evans Tanygraig, Llanbedr Pont Steffan, De Ceredigion Beth